Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Llwyddiant i Gynllun Prydlesu Cymru yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Llwyddiant i Gynllun Prydlesu Cymru yn Wrecsam
Y cyngor

Llwyddiant i Gynllun Prydlesu Cymru yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 7, 2023 1:59 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
key in door - wrexham council housing
RHANNU

Mae Cynllun Prydlesu Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi helpu Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i ddod â nifer o dai gwag yn ôl i ddefnydd ers 2022.

Beth yw Cynllun Prydlesu Cymru?

Nod y cynllun yw rhoi mwy o fynediad at rentu preifat yng Nghymru, a’i wneud yn fwy fforddiadwy. Rhoi sicrwydd i ddeiliaid contract a hyder i berchnogion eiddo.

Dan y trefniant, bydd y Cyngor yn prydlesu eiddo gan berchnogion eiddo yn y sector preifat ac is-osod yr eiddo i’r rhai y mae ganddo ddyletswydd i’w gwarchod rhag mynd yn ddigartref.   

Hefyd, mae’r cynllun yn darparu ymyrraeth ychwanegol i fynd i’r afael ag eiddo gwag ac amodau tai gwael yn y sector preifat sy’n gallu cael effaith niweidiol ar gymunedau lleol. 

Mae’r cynllun yn adnodd ychwanegol i’n Tîm Dewisiadau Tai sy’n ceisio symud teuluoedd ymlaen o lety dros dro.

Dan y cynllun, mae’r Cyngor yn cymryd rhwymedigaethau penodol o ran cynnal a chadw’r eiddo, ac mae’r rhent yn cael ei dalu i’r perchnogion. Gellir cynnig cymhelliant i ail-wneud i berchnogion eiddo pan nad yw’r eiddo’n bodloni’r isafswm safonau eiddo neu i wella ei sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC). 

Bydd y cymhelliant ail-wneud yn grant o hyd at £5,000. 

Gellir dod ag eiddo gwag i mewn i’r cynllun a byddant yn gymwys am grantiau cymhelliant uwch i ail-wneud. Gallai eiddo gwag fod yn gymwys am grant o hyd at £25,000. Bydd grantiau o fwy na £10,000 angen cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru. 

Cynigir cymhelliant i ail-wneud i berchnogion eiddo sy’n cofrestru â’r cynllun yn unig. 

Dywedodd y Cynghorydd David Bithell, Aelod Arweiniol Tai, “Rydym yn falch o gael mynediad at gynllun megis Cynllun Prydlesu Cymru. Mae hyn yn caniatáu i ni gydweithio gyda landlordiaid lleol er mwyn dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd ar draws Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

“Mae’n braf gwybod bod y cynllun wedi bod yn llwyddiant ers iddo ddechrau yn 2022, i chwilio am eiddo y gallwn eu defnyddio, ac edrychwn ymlaen at roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr adeiladau nesaf i gael eu cwblhau dan y cynllun.

“Mae defnyddio eiddo fel y rhai yng Nghanol Dinas Wrecsam yn gwella ein heconomi leol ac yn helpu i fynd i’r afael â fforddiadwyedd rhentu preifat yng Nghymru.”

Ym mis Mawrth 2023, llwyddodd y Cyngor i brydlesu tri fflat yng nghanol y ddinas.  Roedd lloriau uchaf yr adeilad wedi bod yn wag ac mewn cyflwr nad oedd posibl byw ynddynt ers nifer o flynyddoedd.

Gyda chymorth grantiau a benthyciadau, cafodd yr eiddo ei ail-wneud yn llwyr gan y perchnogion a bellach mae yno siop fodern ar y llawr gwaelod a thri fflat hunangynhwysol ar y lloriau uchaf. Ers iddynt gael eu defnyddio unwaith eto, mae’r fflatiau’n darparu cartref i dair aelwyd ddigartref.

Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn gweithio gyda pherchnogion uned arall yng Nghanol Dinas Wrecsam. Mae’r tri adeilad teras wedi bod yn wag ers blynyddoedd ac wedi i’r gwaith gael ei gwblhau, bydd yno saith fflat hunangynhwysol â nifer amrywiol o ystafelloedd gwely.

I gael mwy o wybodaeth am Gynllun Prydlesu Cymru, ffoniwch ein Hasiantaeth Gosod Tai Leol ar 01978 315515 neu anfonwch e-bost at locallettings@wrexham.gov.uk.

Rhannu
Erthygl flaenorol Councillor Nigel Williams visits The Uncommon Practice Busnes arbennig o dda ;)
Erthygl nesaf Wrexham tourism ambassadors Cwrs Llysgennad Wrecsam yn tyfu – gyda rhagor o fodiwlau yn cael eu cyhoeddi yn ystod dathliad cyntaf Wythnos Llysgenhadon Cymru

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English