Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Darparu hyfforddiant diogelwch beicio i 762 o blant mewn ysgolion y llynedd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Darparu hyfforddiant diogelwch beicio i 762 o blant mewn ysgolion y llynedd
Busnes ac addysg

Darparu hyfforddiant diogelwch beicio i 762 o blant mewn ysgolion y llynedd

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 8, 2023 11:35 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Cycling
RHANNU

Mae plant wrth eu bodd yn dysgu beicio am nifer o resymau… mae’n cynnig cyflymder, hwyl a rhyddid iddynt archwilio. Ond, wrth iddynt ddysgu, mae’n hollbwysig bod plant yn derbyn y wybodaeth bwysig sydd ei hangen arnynt i gadw’n ddiogel.

Cynnwys
  • Sut i gadw’n ddiogel
  • Cyngor i yrwyr

Rydym yn falch o’ch hysbysu bod 762 o blant wedi derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddiogelwch beicio yn ysgolion Wrecsam yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf (2022/23). Cafodd y plant ddysgu sgiliau ymarferol, er mwyn eu galluogi nhw i feicio’n ddiogel ac yn hyderus ar y ffyrdd y dyddiau hyn.

Meddai’r Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “I nifer o rieni a gofalwyr, gall meddwl am eu plant yn beicio godi ofn arnynt, felly rydym yn hynod falch bod 762 o blant wedi derbyn yr hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddiogelwch beicio y llynedd. Maen nhw wedi dysgu sgiliau pwysig ac arferion da a fydd yn helpu i’w cadw’n ddiogel yn y dyfodol.”

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol gyda chyfrifoldeb am Ddiogelwch ar y Ffyrdd: “Rydym eisiau rhoi rhyddid i blant archwilio, ond rydym am iddynt fod yn ddiogel wrth wneud hynny. Mae addysgu plant am ddiogelwch ar y ffyrdd yn caniatáu iddynt fwynhau rhyddid beicio, gyda’r wybodaeth a’r sgiliau i gadw’n ddiogel.”

Meddai Mark Jones, Seiclo Clwyd, “Mae ein cwmni yn hynod falch o fod wedi ennill y contract i barhau i ddarparu hyfforddiant beicio ar gyfer ysgolion Sir Wrecsam am flwyddyn arall. Rydym eisoes wedi dechrau eu darparu i ysgolion ac wrth ein bodd yn gweld y disgyblion yn datblygu eu sgiliau ac yn mwynhau’r sesiynau.”

Sut i gadw’n ddiogel

Dyma rywfaint o reolau syml y dylech annog plant i gadw atynt wrth ddysgu beicio:

  • peidiwch â mynd trwy olau coch na beicio ar y palmant oni bai ei fod yn llwybr beicio dynodedig
  • rhowch arwydd clir o’ch bwriad bob amser
  • gosodwch eich hun ar y beic mewn modd lle gallwch weld a chael eich gweld wrth feicio
  • gwneud cyswllt llygad â defnyddwyr eraill y ffordd, yn enwedig mewn cyffyrdd, fel eich bod yn gwybod eu bod wedi eich gweld
  • os byddwch yn beicio gyda’r nos, defnyddiwch olau blaen gwyn a golau ôl coch sy’n gweithio, yn ogystal ag adlewyrchydd coch ar y cefn (mae’n gyfraith)

Cyngor i yrwyr

Gofynnir i yrwyr fod yn ymwybodol o rai camau gweithredu syml a all helpu i wneud y ffordd yn fwy diogel:

  • bod yn amyneddgar â beicwyr, yn enwedig rhai ifanc sydd angen datblygu eu hyder
  • yn unol â Rheolau’r Ffordd Fawr, dylai gyrwyr adael o leiaf 1.5 metr wrth oddiweddyd beicwyr ar gyflymder o hyd at 30mya, a gadael mwy o le iddynt wrth oddiweddyd ar gyflymderau uwch
  • goddiweddyd yn ofalus bob amser, a dim ond goddiweddyd beiciwr pan fydd yn ddiogel ac yn gyfreithlon i wneud hynny. Os byddwch yn teithio ar ffordd gul, yn dod tuag at fryn neu wrth ymyl tro dall, ni ddylech hyd yn oed ystyried goddiweddyd
  • cymryd gofal ychwanegol i gadw llygad am feicwyr mewn cyffyrdd
  • gadael bwlch diogel a gwirio a oes unrhyw feicwyr y tu draw i unrhyw draffig rydych yn ei groesi

I gael rhagor o awgrymiadau cymerwch olwg ar ymgyrch PWYLLWCH! Llywodraeth y DU sy’n cynnwys llawer o gyngor defnyddiol.

Disgyblion Wrecsam yn Arwyr Digidol – Newyddion Cyngor Wrecsam

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

TAGGED:beicioCyclingschoolsysgol
Rhannu
Erthygl flaenorol fenthycwyr arian Peidiwch â chael eich twyllo gan fenthycwyr arian didrwydded y ‘Dolig hwn
Erthygl nesaf 70 year anniversary of the School Crossing Patrol service Dathlu 70 mlynedd o’r gwasanaeth Hebryngwyr Croesfannau Ysgol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Groundwork
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Eisiau dysgu rhywbeth newydd? Mae disgwyl i Groundwork Gogledd Cymru ddarparu dosbarthiadau dysgu cymunedol AM DDIM ar draws Wrecsam a Sir y Fflint

Gorffennaf 22, 2026
Bethan, Noah a Gill
Busnes ac addysg

“Gwasanaeth ymroddedig i blant, teuluoedd a staff” – athrawes sydd wedi gwasanaethu am 43 mlynedd yn ymddeol

Gorffennaf 20, 2026
Youth Services Survey - young peope
Busnes ac addysgPobl a lle

Cwblhewch ein harolwg a helpwch i lunio dyfodol gwasanaethau ieuenctid yn Wrecsam

Gorffennaf 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English