Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyngor Wrecsam yn cymeradwyo cais i ganiatáu 5,500 o seddi gael eu defnyddio yn eisteddle newydd y ‘Kop’
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cyngor Wrecsam yn cymeradwyo cais i ganiatáu 5,500 o seddi gael eu defnyddio yn eisteddle newydd y ‘Kop’
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn cymeradwyo cais i ganiatáu 5,500 o seddi gael eu defnyddio yn eisteddle newydd y ‘Kop’

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 11, 2024 11:14 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Football pitch touchline.
RHANNU

Y llynedd, rhoddodd Cyngor Wrecsam ganiatâd cynllunio ar gyfer eisteddle ‘Kop’ newydd gyda 5,500 o seddi yn Stadiwm Y Cae Ras.

Gosodwyd amod yn cyfyngu ei ar gapasiti i 4,900 o seddi yn sgil cyfyngiadau oedd yn gysylltiedig â ffosffadau ar y pryd. Fodd bynnag, mae gwelliannau i’r Gwaith Trin Dŵr Gwastraff yn Five Fords bellach wedi lleihau’r sefyllfa ffosffad yn y Ddinas.

O ganlyniad, cyflwynwyd cais ym mis Tachwedd ar ran Clwb Pêl-droed Wrecsam ar gyfer ‘diwygiad ansylweddol’ i’r caniatâd cynllunio ond bu’n rhaid ei wrthod ar sail dechnegol.

Yn dilyn cyngor gan Wasanaeth Cynllunio’r Cyngor, cyflwynwyd cais cywir i amrywio amod cyfyngu’r caniatâd cynllunio gwreiddiol. Yn dilyn ymgynghoriad statudol gyda Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, mae cymeradwyaeth bellach wedi’i rhoi. Mae hyn yn golygu ar ôl i’r eisteddle gael ei godi, y bydd lle i 5,500 o gefnogwyr (capasiti llawn).

Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o hwn. Fe wyddom ni gyd bod pêl-droed yn rhan enfawr o’n hunaniaeth yn Wrecsam, ac mae’r ddinas yn elwa yn sgil llwyddiant y clwb hefyd ym mhob ffordd – gan ein taflu i sylw’r byd.

“Mae hi’n bwysig bod y gweithdrefnau cynllunio cywir wedi cael eu dilyn, ac rydw i wrth fy modd y bydd y Kop bellach yn cael ei ddefnyddio i’w lawn capasiti pan fydd yn cael ei adeiladu.”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio: “Gyda chefnogaeth a chyngor ein swyddogion, rwy’n falch fod y cais cynllunio cywir bellach wedi’i dderbyn.

“Ar ôl ymgynghori gyda’r asiantaethau priodol, bu modd i ni gymeradwyo’r cais sydd yn newyddion gwych i’r clwb a chefnogwyr pêl-droed.”

Rhannu
Erthygl flaenorol A picture of a young child enjoying jupingin muddy puddles. Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i wneud cynnydd da yn Wrecsam
Erthygl nesaf hamus-McPhee-Geddie-Gouries-and-Ganis-2015.-oil-on-board.-Photo-and-©-Shamus-McPhee Tŷ Pawb i gynnal arddangosfa deithiol arloesol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English