Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Perchennog siop yn gwerthu alcohol heb drwydded
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Perchennog siop yn gwerthu alcohol heb drwydded
Y cyngorPobl a lle

Perchennog siop yn gwerthu alcohol heb drwydded

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 15, 2024 3:24 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Alcohol
RHANNU

Mae perchennog siop yn Wrecsam wedi pledio’n euog i werthu alcohol heb drwydded.

Clywodd Llys Ynadon Wrecsam fod Adran Drwyddedu’r Cyngor wedi canfod Abdulaziz Buyukdeniz yn gwerthu alcohol yn ei siop gyfleustodau ar Ffordd Melin y Brenin, Wrecsam, tafarn ‘Traveller’s Rest’ gynt, yn fuan ar ôl agor y busnes ym mis Mehefin y llynedd.  Roedd Mr Buyukdeniz wedi addasu’r hen dafarn yn siop gyfleustodau lwyddiannus a dywedodd ei fod yn credu bod y drwydded flaenorol yn parhau i fod mewn grym,

Cafodd ryddhad amodol am 12 mis a gorchymyn i dalu £607.00 o gostau.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio Strategol a Gwarchod y Cyhoedd, “Mae’n rhaid i fusnesau sicrhau fod ganddynt y trwyddedau cyfreithiol cywir ar waith.  Mae’n ddyletswydd ar y Cyngor i sicrhau fod masnachwyr yn cydymffurfio â’r safonau cyfreithiol gofynnol.”

Meddai Roger Mapleson, Swyddog Arweiniol Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Mae’r system drwyddedu’n bodoli er mwyn rheoli gwerthiant cynnyrch a allai achosi niwed i unigolion a chymunedau.  Mae cyflenwi alcohol heb reolaeth yn cynyddu’r risg i unigolion, gan gynnwys mynediad at alcohol i blant na ddylent fod yn gallu cael mynediad ato, ac mae hefyd yn peri risg i gymunedau a allai brofi effaith niweidiol yn sgil ymddygiad anghymdeithasol sy’n gysylltiedig ag alcohol.  Mae hefyd yn bwysig fod deiliaid trwyddedau’n gwybod nad ydynt yn cael eu tanseilio gan weithredwyr didrwydded drwy gydymffurfio â’u rhwymedigaethau cyfreithiol.” Clywodd y llys fod y safle bellach wedi derbyn y drwydded gywir ar gyfer gwerthu alcohol.

Mae Castanwydden Bêr Wrecsam wedi cyrraedd cystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn. Ewch i fwrw eich pleidlais yn awr i sicrhau ei bod yn cael cydnabyddiaeth eang y mae’n ei haeddu

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen – Ddigwyddiadau ar draws Wrecsam yn cynnwys cnocwyr Nottingham

Rhannu
Erthygl flaenorol Waterworld Mae’r ymgynghoriad ffioedd meysydd parcio ar agor – cyfle i gael dweud eich dweud!
Erthygl nesaf Bod yn rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched yn Tŷ Pawb ar 8 Mawrth Bod yn rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched yn Tŷ Pawb ar 8 Mawrth

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Hydref 1, 2026
the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English