Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dewch i ymuno â ni yn ein diwrnodau plannu coed nesaf ym mis Mawrth.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg
Burma Star memorial in Wrexham
Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol
Pobl a lle
Cycling
Ydych chi’n hyderus yn beicio?
Digwyddiadau Pobl a lle
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Dewch i ymuno â ni yn ein diwrnodau plannu coed nesaf ym mis Mawrth.
Y cyngorArall

Dewch i ymuno â ni yn ein diwrnodau plannu coed nesaf ym mis Mawrth.

Diweddarwyd diwethaf: 2024/02/26 at 1:05 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Trees
RHANNU

Rydym eisiau gwirfoddolwyr i’n helpu i blannu coed mawr mewn dwy ardal yn Wrecsam ym mis Mawrth.

Bydd diwrnodau plannu yn digwydd yn y man gwyrdd yn St Giles Crescent ym Mharc Caia dydd Sul, 3 Mawrth rhwng 10-4pm ac yn Pendine Way yng Ngwersyllt dydd Sul, 10 Mawrth rhwng 10-4pm.

Rydym yn plannu 11 coeden yn St Giles Crescent a 4 coeden dderw a pherllan ffrwythau yn Pendine Way. Mae llawer o ymdrech i baratoi’r ddaear wrth blannu coed mawr yn lle egin, felly rydym angen gymaint o help â phosibl i’w cael yn y ddaear. Hefyd byddwn yn gosod polyn, amddiffyniad a rhoi tomwellt o amgylch pob coeden fel eu bod yn cael eu hamddiffyn yn dda ac yn cael y dechrau gorau yn eu cartref newydd.

Pwy yw Trees for Cities?

Mae Trees for Cities yn elusen yn y DU sydd yn gweithio ar raddfa cenedlaethol a rhyngwladol i wella bywydau drwy blannu coed mewn dinasoedd, mewn ardaloedd sydd yn helpu i adfywio mannau sydd wedi eu anghofio amdanynt; gan greu amgylcheddau iachach i bobl a bywyd gwyllt.

Mae’r gwaith yma hefyd yn cefnogi gweledigaeth Partneriaeth Coedwig Wrecsam a Strategaeth Coetir a Choed y Cyngor fel yr ydym yn ymrwymo i gynyddu gorchudd canopi ar draws y sir.  Mae gan Bartneriaeth Coedwig Wrecsam weledigaeth gyffredin i ddiogelu a gwella cynefinoedd coetir ar draws y Sir ac yn awyddus i gael cefnogaeth y cyhoedd ar gyfer coetiroedd yn Wrecsam ac maent wedi creu Addewid Coetir Wrecsam fel ffordd o gynnwys y cyhoedd.

Os ydych chi’n pryderu am ein coetiroedd yn Wrecsam, gallwch gytuno i’r addewid. Rydym eisiau i bawb, o unigolion i fusnesau a grwpiau cymunedol, roi eu cefnogaeth a dysgu am y ffyrdd y gallwn amddiffyn y cynefin hollbwysig yma a gallwch lofnodi’r addewid ac ymuno â’r rhestr bostio yma.

Yn ogystal gallwch ddilyn Addewid Coetir Wrecsam ar Facebook ac X (twitter) i gael y newyddion diweddaraf am weithgareddau a digwyddiadau.

Dewch yn gwisgo dillad cynnes ac esgidiau/welis cadarn. Argymhellir menig hefyd.

Mae’r dyddiadau plannu yn bosibl diolch i gyllid gan Trees for Cities sydd wedi’i roi i blannu dros 60 coeden fawr ar draws y Sir. Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Coetiroedd Bach, manteision anferthol i Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa

Rhannu
Erthygl flaenorol Bydd Wych Ailgylcha Bydd Wych. Ailgylcha. – Dewch inni gael Cymru i rif 1!
Erthygl nesaf Young Carer Ymgyrch yn galw am gydnabyddiaeth a chefnogaeth ar gyfer miloedd o ofalwyr ifanc llawn ysbrydoliaeth yng ngogledd a chanolbarth Cymru

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg Awst 14, 2025
Burma Star memorial in Wrexham
Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 14, 2025
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol
Pobl a lle Awst 13, 2025
Cycling
Ydych chi’n hyderus yn beicio?
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 13, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Y cyngor

Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan

Awst 13, 2025
Landlords
Arall

Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam

Awst 12, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 12, 2025
Family Teulu
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Awst 8, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English