Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Arddangosfa Nyrsio Dros Dro yng Nghanolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Arddangosfa Nyrsio Dros Dro yng Nghanolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr Wrecsam
Y cyngorPobl a lle

Arddangosfa Nyrsio Dros Dro yng Nghanolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 20, 2024 10:12 am
Rhannu
Darllen 2 funud
RHANNU

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn nyrsio, y GIG neu hanes lleol beth am alw heibio i Ganolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr Wrecsam ar Stryt Caer i weld arddangosfa o fathodynnau nyrsio ac eitemau eraill.

Mae’r casgliad yn eiddo i breswylydd lleol sydd wedi bod yn casglu eitemau ers dros 30 o flynyddoedd, ar ôl cael ei ysbrydoli gan gasgliad arall a phrynu ei fathodyn cyntaf.

Mae’r casgliad yn cynnwys enghreifftiau o ysgolion nyrsio ac ysbytai lleol, y Groes Goch, bathodynnau undebau a bathodynnau a roddwyd i nyrsys am eu gwaith yn y rhyfel.

Mae gan bob bathodyn ei stori ei hun ac mae’r geiriau a’r delweddau a ddefnyddiwyd yn ffurfio rhan o hanes eu sefydliad. Fedrwch chi weld bathodyn Ysgol Nyrsio’r Rhyl (yn Ysbyty Alexandra) yng nghanol y casgliad? Mae ganddo ben llwynog, pedol ceffyl ac adenydd….

Yn 1898 addawodd Dug San Steffan roi £10,000 tuag at godi’r ysbyty os yw ei geffyl, “Flying Fox” yn ennill ei ras nesaf yn Sandown Park. Enillodd y ceffyl ac anfonwyd telegram at y fetron gyda’r geiriau: “The ten will be sent.”

Mae cyfeirlyfr ar gael ar gais i gael mwy o wybodaeth am yr holl fathodynnau a’u harwyddocâd.

Meddai’r Cyng. Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio Cyngor Wrecsam: “Rwyf wedi cael cyfle i weld y casgliad yn ddiweddar a gallaf ddweud wrthych ei fod yn gasgliad rhyfeddol sy’n addurniadol yn ogystal â bod yn giplun o hanes diddorol nyrsio dros y blynyddoedd.”

Mae Canolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr Wrecsam ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener, o 9am tan 5pm.

Rhannu
Erthygl flaenorol Parents Porth Lles ar-lein Wrecsam yn cipio gwobr genedlaethol
Erthygl nesaf ECO 4 Byddwch yn wyliadwrus o Alwyr Diwahoddiad ECO 4

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English