Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwelliannau Amgylcheddol a Strydoedd Gorlawn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Gwelliannau Amgylcheddol a Strydoedd Gorlawn
Y cyngorPobl a lle

Gwelliannau Amgylcheddol a Strydoedd Gorlawn

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 16, 2024 3:34 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
New parking spaces
RHANNU

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn dod yn ddinas fywiog gyda phoblogaeth gynyddol.  Mae Cyngor Wrecsam wedi nodi bod yno fwy o geir nag erioed ar y ffordd, gan arwain at strydoedd gorlawn a mannau parcio cyfyngedig.

Gall hyn achosi perygl i wasanaethau brys, llwybrau bysiau a cherbydau ailgylchu.

Hefyd, mae ein deiliaid contract yn aml yn cael trafferth parcio y tu allan i’w cartrefi, gan gynyddu’r tagfeydd hyn. 

O fewn yr adran Dai y mae tîm Gwaith Amgylcheddol.  Mae’r tîm hwn yn gweithio gydag aelodau etholedig a Swyddfeydd Ystadau, i asesu a gwella ardaloedd o gwmpas y fwrdeistref.

Mae’r tîm hefyd yn gweithio’n agos gyda’r deiliaid contract a phreswylwyr cyfagos pan fydd gwaith yn cael ei wneud i sicrhau ein bod yn cyfathrebu’n llawn ac yn cytuno ar y gwaith mwyaf buddiol i’r ardal.

Unwaith y bydd ardal wedi’i asesu ac wedi cael sgôr, bydd y tîm yn cysylltu â phreswylwyr ac aelodau etholedig ar sut ellir gwella’r ardal. 

Yn 2023, llwyddodd y tîm Amgylcheddol i wneud gwelliannau i 247 o ardaloedd ar draws y fwrdeistref, er enghraifft; 

  • 216 o fannau parcio ar y safle 
  • Ffensys rheiliau at y pen-glin ym Mharc Caia
  • Mannau parcio cymunedol ym Mhlas Madog
  • Ffensys llwybr yn Rhosllannerchrugog a Pharc Caia

Mae rhywfaint o luniau cyn ac ar ôl y gwelliannau wedi’u cynnwys isod.

Whalleys Way Before
Whalleys Way After

Bu i’r gwaith a wnaed ar hyd Ffordd Whalley drawsnewid safle a oedd yn cynnwys tir anwastad gydag ychydig iawn o fannau parcio yn flaenorol. 

Roedd deiliaid contract a phreswylwyr yn gorfod parcio ar ymylon ffyrdd o gwmpas y stryd, gan achosi problemau tagfeydd. 

Mae’r mannau parcio newydd hyn yn caniatáu i breswylwyr barcio’n agosach at eu cartrefi, gan symud cerbydau oddi ar y stryd.

Ffordd arall y mae’r tîm yn ceisio lleihau’r problemau parcio ar gyfer deiliaid contract a phreswylwyr yw trwy osod dreifiau i gartrefi addas.

Before Drive
After Drive

Mae dreifiau yn darparu diogelwch a mynediad hawdd at gartrefi deiliaid contract, wrth symud ceir oddi ar y ffordd. 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Blackwell, ward Gogledd Acrefair “Mae’r deiliaid contract ar Ffordd Whalley, fel llawer o rai eraill ym Mhlas Madoc sydd wedi cael cyfuniad o ddreifiau neu fannau parcio wedi’u gosod, wedi gwirioni â’r gwelliannau a wnaed. 

“Mae cyllideb yr amgylchedd yn ffordd werthfawr i gynghorwyr ymateb i bryderon preswylwyr am dagfeydd ar ein hystadau tai.”

Unwaith eto, mae’r rhain yn aml yn cael eu nodi gan aelodau etholedig/swyddfeydd ystadau a’r Tîm Amgylcheddol.  Wedyn, byddant yn cynnal astudiaethau dichonoldeb, yn cysylltu â phartïon perthnasol, yn creu lluniad technegol ac yna’n goruchwylio’r gwelliannau i’r eiddo.

Mae hyn wedi’i groesawu gan ddeiliaid contract a phreswylwyr ar draws y gwaith a gwblhawyd. 

Mae Cynghorwyr a Deiliaid Contract yn aml yn cysylltu â ni i ganmol y gwaith ac rydym yn croesawu adborth. 

Dywedodd y Cynghorydd John Phillips, Ward Penycae “Rwyf wedi derbyn adborth gan ddeiliad contract yn dilyn gosod y lloriau caled…

“…Pan oeddwn ar y safle roedd yn amlwg i mi fod y contractwyr yn hynod drefnus…..yn ogystal â hyn, cafodd yr ardal ei adael mewn cyflwr taclus ar ôl cwblhau’r gwaith.”

Deilydd Contract – “Bu i’r contractwyr gyfathrebu â ni ynglŷn â’r gwaith a oedd yn cael ei wneud, a bu iddynt ddiwygio’r cynlluniau i fodloni ein hanghenion. Roeddent yn gwrtais ac yn ystyriol iawn, gwnaed y gwaith yn broffesiynol.”


Mae mathau eraill o waith a wnaed gan y Tîm Amgylcheddol yn cynnwys pethau fel gosod Ffensys Rheiliau at y Pen-glin.

Caia Field Before
Caia Field After

Yn ddiweddar, gosodwyd ffensys rheiliau at y pen-glin yng Nghilgant San Silyn ym Mharc Caia.

Cafodd yr ardal hon ei nodi gan Swyddfa Ystâd Parc Caia a’r Cynghorydd lleol gan fod yr ardal yn cael ei defnyddio gan feiciau modur a cheir, gan achosi llygredd sŵn a difetha’r ardaloedd o laswellt. 

Bu i’r tîm Amgylcheddol gynnal arolwg, dylunio a goruchwylio holl gamau adeiladu’r prosiect.

Mae’r mathau eraill o waith a wnaed gan y tîm yn cynnwys ffensio. 

Fence Before
Fence after

Cwblhawyd y gwaith ffensio llwybr hwn yn Ffordd Dyfed, gan fod y ffensio blaenorol angen ei atgyweirio.  Roedd hwn yn galluogi pobl i gerdded drwy gerddi, gan nad oedd y ffensio yn rhoi llawer o ddiogelwch.

Yn 2024/25, bydd y tîm Amgylcheddol yn parhau i weithio gydag aelodau etholedig a swyddfeydd ystadau er mwyn nodi a gwella ardaloedd ar hyd a lled Bwrdeistref Wrecsam.

Byddant hefyd yn cynnal arolygon dichonoldeb ar eiddo a nodwyd, gyda’r bwriad o wella tagfeydd ar strydoedd a rhoi cyfle i deuluoedd barcio eu ceir yn agos at eu cartrefi gyda’r diogelwch sy’n deillio o hynny.  

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai, “Mae cynlluniau amgylcheddol yn rhoi gwelliannau angenrheidiol sy’n cael eu cefnogi gan aelodau etholedig. Mae’r cynlluniau hyn yn cael eu cyflwyno bob blwyddyn er mwyn cefnogi a mynd i’r afael â materion lleol.

“Un o’r rhai mwyaf poblogaidd yw parcio oddi ar y ffordd ac mae’r cynlluniau hyn yn helpu cymunedau lle mae gennym fynediad ar hyd ffordd gul.

“Rydym wedi derbyn adborth cadarnhaol iawn gan ein deiliaid contract ar draws Wrecsam lle mae gwelliannau wedi’u gwneud.”

TAGGED:Gwelliannau Amgylcheddolwrecsamwrexham council
Rhannu
Erthygl flaenorol Doctor Cymraeg Os ydych chi’n dysgu Cymraeg bydd hyn o ddiddordeb i chi
Erthygl nesaf Empathy Cwmwl Tystion III / Empathy

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English