Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae’n bleser gan Groundwork Gogledd Cymru gyhoeddi y cynhelir cyfres o weithdai crefft yn y Lleoliad yn y Parc, Parc Gwledig Dyfroedd Alun.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle
David Ebsworth
Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol
Digwyddiadau Pobl a lle
Rhos library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Wrexham Old Library exterior
Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle
Fly Tipping
Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol
Arall Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mae’n bleser gan Groundwork Gogledd Cymru gyhoeddi y cynhelir cyfres o weithdai crefft yn y Lleoliad yn y Parc, Parc Gwledig Dyfroedd Alun.
Pobl a lleArall

Mae’n bleser gan Groundwork Gogledd Cymru gyhoeddi y cynhelir cyfres o weithdai crefft yn y Lleoliad yn y Parc, Parc Gwledig Dyfroedd Alun.

Diweddarwyd diwethaf: 2024/04/29 at 10:31 AM
Rhannu
Darllen 2 funud
Mae’n bleser gan Groundwork Gogledd Cymru gyhoeddi y cynhelir cyfres o weithdai crefft yn y Lleoliad yn y Parc, Parc Gwledig Dyfroedd Alun.
RHANNU

Erthygl Gwadd – Groundwork Gogledd Cymru

O weithdai macramé i fosaig, mae’r sesiynau ymarferol hyn yn gyfle i’r gymuned leol gymryd rhan mewn gweithgaredd creadigol, gan fwynhau golygfeydd gwych o’r parc gwledig ar yr un pryd.

Mae croeso i grefftwyr profiadol a dechreuwyr ymuno mewn amrywiaeth o weithgareddau difyr, a chael cyfle i ddysgu sgiliau newydd o dan oruchwyliaeth arbenigwyr.

“Mae’r gweithdai yn gyfle gwych i bobl ddysgu sgiliau newydd, cymdeithasu gyda phobl eraill sy’n mwynhau crefftau, a hynny yn amgylchedd braf Parc Gwledig Dyfroedd Alun” dywedodd Katy Turner, Rheolwr y Caffi a Chynadleddau.

Mae’r gweithdai yn llwyfan perffaith i arbrofi â thechnegau newydd, dod i gysylltiad â chrefftwyr eraill, ac ymgolli yn y broses greadigol. Ni waeth a ydych chi’n angerddol dros fosaig, macramé, neu grefftau papur, cewch ddigon o ysbrydoliaeth yn ein gweithdai.

11 Mai – Gweithdy Plygu Papur

15 Mehefin – Gweithdy Mosaig Glöyn Byw

22 Mehefin – Gweithdy Macramé

7Medi – Gweithdy Celf Gwifrau

26 Hydref – Gweithdy Addurno Cacennau bach

Ni waeth a fyddwch yn dod ar eich pen eich hun, gyda ffrindiau, neu aelodau’r teulu, mae rhywbeth at ddant pawb.

Bydd pob gweithdy o dan arweiniad hyfforddwyr profiadol, felly bydd pawb yn derbyn arweiniad a chymorth personol bob cam o’r ffordd.

Darperir yr holl offer a defnyddiau, ac mae’r pris yn cynnwys dewis o ddiod boeth a chacen flasus o Caffi Cyfle. Bydd yr holl elw yn cyfrannu at nodau elusennol Groundwork Gogledd Cymru yn y gymuned.

I gael rhagor o wybodaeth, neu er mwyn archebu lle ar un o’r gweithdai, e-bostiwch info@groundworknorthwales.org.uk

Rhannu
Erthygl flaenorol Rôl newydd i Big Nev wrth i Ŵyl Wal Goch ddychwelyd ar gyfer 2024 Rôl newydd i Big Nev wrth i Ŵyl Wal Goch ddychwelyd ar gyfer 2024
Erthygl nesaf Archwood Mae cynaliadwyedd yn ganolog i’r Archwood Group

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Ionawr 20, 2026
David Ebsworth
Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol
Digwyddiadau Pobl a lle Ionawr 20, 2026
Rhos library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 19, 2026
Wrexham Old Library exterior
Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Ionawr 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Busnes ac addysgPobl a lle

Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn

Ionawr 20, 2026
David Ebsworth
DigwyddiadauPobl a lle

Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol

Ionawr 20, 2026
Rhos library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos

Ionawr 19, 2026
Wrexham Old Library exterior
Pobl a lle

Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 19, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English