Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Buddsoddiad o dros £6 miliwn yng nghanol dinas Wrecsam gan Gyllid Trawsnewid Trefi
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Buddsoddiad o dros £6 miliwn yng nghanol dinas Wrecsam gan Gyllid Trawsnewid Trefi
Y cyngorBusnes ac addysg

Buddsoddiad o dros £6 miliwn yng nghanol dinas Wrecsam gan Gyllid Trawsnewid Trefi

Diweddarwyd diwethaf: Mai 2, 2024 1:32 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
Transforming Towns
Bucket hat arrives at Wrexham Museum
RHANNU

Yn dilyn y newyddion fod yr Hen Lyfrgell ar Sgwâr y Frenhines am gael ei drawsnewid i ganolbwynt creadigol, rydym wedi edrych ar beth arall sy’n mynd ymlaen yng nghanol y ddinas diolch i Gyllid Trawsnewid Trefi er mwyn creu canol dinas deniadol ar gyfer y dyfodol.

Cynnwys
  • Adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam – £2.565 miliwn
  • Y Stryd Fawr – £1.33 miliwn
  • Xplore! Y Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth – £750,000
  • Amgueddfa – £1.3 miliwn
  • Grantiau Datblygu Eiddo – £150,000
  • Buddsoddiad mawr yng nghanol y ddinas

Mae cyllid Trawsnewid Trefi yn darparu cyllid cyfalaf ar gyfer busnesau lleol, mentrau cymdeithasol a chyrff cyhoeddus  er mwyn galluogi rhaglen eang a hyblyg o gymorth ar gyfer ystod eang o brosiectau a all helpu i adfywio canol trefi ar draws canolbarth Cymru.

Gall y mathau o brosiectau gynnwys datblygiadau isadeiledd gwyrdd, gwelliannau i’r parth cyhoeddus, gosod isadeiledd digidol mewn canol trefi/dinasoedd, i welliannau i eiddo masnachol a phreswyl yn fewnol ac allanol a llawer mwy. 

Mae’r rhaglen yn annog llefydd i fyw, gweithio, ymweld ac aros ac yn gysylltiedig â’r dyheadau yn ein Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer Wrecsam.

Adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam – £2.565 miliwn

Mae dwy farchnad dan do poblogaidd ar hyn o bryd yn cael eu hadnewyddu gyda’r cyllid hwn, yn ogystal â chyllid arall sydd wedi’i sicrhau gan Chwaraewyr y Loteri Genedlaethol trwy Gyllid Treftadaeth Treflun Wrecsam a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Agorwyd Marchnad y Cigydd yn 1848 a’r Farchnad Gyffredinol yn 1879. Nid oes gwaith adnewyddu sylweddol wedi ei wneud ar yr un o’r ddwy ac mae hi nawr yn amser i ni edrych ar ddyfodol er mwyn sicrhau bod y ddwy farchnad yn ffynnu yng nghanol y ddinas.

Y Stryd Fawr – £1.33 miliwn

Mae’r stryd bwysig a hanesyddol hon wedi’i lleoli yng nghalon hanesyddol Ardal Gadwraeth y ddinas ac yn cynnwys nifer o adeiladau rhestredig. Bydd y cyllid sydd wedi’i sicrhau yn creu gofodau parth cyhoeddus newydd; yn croesawu dull dinasoedd doeth i ganol dinas digidol; a chreu economi dydd a nos amlbwrpas, o ansawdd uchel sy’n apelio at bobl sy’n byw a gweithio yn Wrecsam a’r rhai sy’n ymweld.

Xplore! Y Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth – £750,000

Gynt ym Mhrifysgol Glyndŵr (Bellach Prifysgol Wrecsam), agorodd y Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth ar Stryt Henblas, hen Siop Adrannol, yn Hydref 2020.

Yn ogystal â chyllid eraill, derbyniodd £750,000 gan y Cyllid Trawsnewid Trefi i ddarparu profiadau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) cyffrous ar gyfer cymunedau ar draws Gogledd Cymru, trwy ganolfan addysg Gwyddoniaeth hygyrch gydag arddangosfeydd hwyliog i bob oed. Mae’n cynnig gweithgareddau i ysgolion, llogi lleoliad, digwyddiadau corfforaethol, partïon pen-blwydd a llawer mwy.

Amgueddfa – £1.3 miliwn

Ar hyn o bryd mae Amgueddfa’r fwrdeistref sirol yn cael ei adnewyddu i greu “Amgueddfa Dau Hanner” a fydd yn gartref i Amgueddfa Pêl-droed Cymru ac Amgueddfa newydd Wrecsam, oll wedi’i leoli yn yr adeilad ar Stryt y Rhaglaw.

Bydd yr amgueddfa newydd yn dathlu pêl-droed Cymru, ddoe a heddiw, yn ei holl amrywiaeth, o glybiau ar lawr gwlad i’r timau cenedlaethol, yn ogystal â thynnu sylw at lwyddiannau hanesyddol Wrecsam yn y gamp a dathlu treftadaeth gyfoethog y Fwrdeistref Sirol.

Bydd orielau newydd yn cael eu creu er mwyn arddangos casgliadau Amgueddfa Wrecsam, sy’n golygu gwell profiad i ymwelwyr, a lleoliad modern o’r radd flaenaf ar gyfer dysgu am hanes hynod ddiddorol a chyffrous ein rhanbarth ni yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

Gan weithio ar y cyd â’r gymuned, bydd yr amgueddfa yn cynnal rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau i ysbrydoli pawb sy’n ymweld i ddysgu, bod yn actif a chyflawni eu potensial. 

Grantiau Datblygu Eiddo – £150,000

Gwelwyd buddsoddiad o £318,623 o’r Grantiau Datblygu Eiddo wedi’u dyrannu i wella blaen adeiladau a dod â gofod llawr masnachol gwag yn ôl i ddefnydd. Cefnogodd deg o fusnesau yng nghanol y ddinas a gwelwyd tri eiddo gwag yn dod yn ôl i ddefnydd.

Mae gwelliannau wedi cynnwys blaen siop newydd, arwyddion ac adfer nodweddion treftadaeth a gwelliannau effeithlonrwydd ynni i unedau masnachol, er mwyn helpu i gefnogi busnesau lleol i leihau eu biliau ynni.

Mae grantiau wedi cael eu defnyddio tuag at waith allanol i du blaen adeiladau, gan gynnwys: 

  • blaen siopau
  • gwella ffenestri arddangos
  • gwella arwyddion
  • ffenestri a drysau
  • toeau a simneiau
  • rendro
  • gwaith strwythurol  

Buddsoddiad mawr yng nghanol y ddinas

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio, “Mae’n gyfnod cyffrous ar gyfer canol y ddinas gyda buddsoddiad anferth, nid yn unig gan Gyllid Trawsnewid Trefi, ond hefyd trwy nifer o ffynonellau ariannu eraill er mwyn sicrhau dyfodol disglair a llwyddiannus ar gyfer Wrecsam.

“Hoffwn ddiolch i’n swyddogion a Llywodraeth Cymru am eu hymrwymiad i wneud canol dinas Wrecsam yn lleoliad lle mae pobl eisiau byw, gweithio, dysgu, ymlacio, buddsoddi ac ymweld.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Gorymdaith yng Nghanol y Ddinas i goffáu 80 mlynedd ers glaniadau D-Day

Rhannu
Erthygl flaenorol Wales in Bloom Byddwch yn rhan o gystadleuaeth Cymru yn ei Blodau a Phrydain yn ei Blodau eleni
Erthygl nesaf Big Lunch Picnic Ymunwch â’r Canolbwynt Cyfeillgarwch am ginio picnic mawr ar 6 Mehefin.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English