Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ysgolion Wrecsam yn cymryd rhan yn Her Cerdded i’r Ysgol: WOW
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Ysgolion Wrecsam yn cymryd rhan yn Her Cerdded i’r Ysgol: WOW
Pobl a lleBusnes ac addysgDatgarboneiddio Wrecsam

Ysgolion Wrecsam yn cymryd rhan yn Her Cerdded i’r Ysgol: WOW

Diweddarwyd diwethaf: Mai 3, 2024 1:30 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
WOW Walk to School Challenge
RHANNU

Mae nifer o ddisgyblion Wrecsam a’u teuluoedd wedi bod yn profi’r buddion o gerdded, mynd ar olwynion, beicio a mynd ar sgwter i’r ysgol dros y misoedd diwethaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ar gyfer wyth ysgol yn Wrecsam i gymryd rhan yn ’Strydoedd Byw WOW: Her Cerdded i’r Ysgol sy’n annog defnyddio teithio llesol i’r ysgol ac adref.

Mae chwech o ysgolion Wrecsam yn cymryd rhan ar hyn o bryd gyda dwy ysgol arall ar fin lansio eu heriau yn fuan.

Y chwe ysgol sy’n cymryd rhan yw Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair, Ysgol Gynradd Gymunedol Fictoria, Ysgol Rhostyllen, Ysgol y Rofft, Ysgol Min y Ddol ac Ysgol Cefn Mawr.

Mae’n fenter wedi’i arwain gan ddisgyblion lle mae plant yn gallu rhoi hunan adroddiad ar sut i gyrraedd yr ysgol bob dydd yn defnyddio Traciwr Teithio WOW. Os ydyn nhw’n teithio’n gynaliadwy (cerdded/mynd ar olwynion, beicio neu fynd ar sgwter) unwaith yr wythnos am fis mi fyddan nhw’n cael eu gwobrwyo gyda bathodyn.

Mae’n syml ac mae plant wrth eu boddau yn cymryd rhan. Bob blwyddyn mae’r bathodynnau WOW casgladwy yn cael eu dylunio gan ddisgyblion mewn cystadleuaeth dylunio bathodyn blynyddol. Ar gyfartaledd mae ysgolion WOW yn gweld lleihad o 30% mewn siwrneiau car at iât yr ysgol a chynnydd o 23% mewn cyfraddau cerdded.

Rhwng 1 Medi, 2023 a 31 Mawrth, 2024 mae’r chwe ysgol yn Wrecsam wedi gweld y cyfartaledd canlynol:

  • Cynnydd o 66% mewn cyfraddau teithio llesol i’r ysgol.
  • Lleihad o 51% mewn gyrru’r holl ffordd i’r ysgol.

Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Cefnogwr yr Hinsawdd:  “Mae’n galonogol iawn gweld ffigurau mor gadarnhaol. Mae teithio llesol yn arwain at well iechyd corfforol, meddyliol a chymdeithasol, hefyd mae’n lleihau llygredd sŵn, llygredd aer ac allyriadau carbon. Mae mwy o bobl yn croesawu teithio llesol a fydd yn gwneud gwahaniaeth yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.”

Dywedodd y Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Rydym yn falch sut mae’r chwe ysgol wedi croesawu’r her, sydd wedi arwain at ganlyniadau gwych ac rydym yn edrych ymlaen at ddwy ysgol arall i lansio eu heriau yn y dyfodol agos.”

Gallwch ddysgu mwy am WOW yma: Her cerdded i’r ysgol ar wefan Living Streets.

May 2024 New Horizons unit in Wrexham received a glowing Estyn report following a recent inspection (wrecsam.gov.uk)

Maethu Cymru Wrecsam – dod yn ofalwr maeth.

TAGGED:ysgol
Rhannu
Erthygl flaenorol Pontcysyllte aqueduct and canal Y Bont sy’n Cysylltu
Erthygl nesaf Wrexham Council occupational therapy team Canlyniad arloesi – y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn gwneud cynnydd enfawr

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

'Dathliad enfawr a gwyllt!' - Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
‘Dathliad enfawr a gwyllt!’ – Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Bwrdd Gweithredol yn rhoi sêl bendith i ymgynghoriadau
Busnes ac addysg

Bwrdd Gweithredol yn rhoi sêl bendith i ymgynghoriadau

Hydref 13, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English