Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sut ydw i’n cael gwared ar wastraff cartref ychwanegol?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Sut ydw i’n cael gwared ar wastraff cartref ychwanegol?
Y cyngorPobl a lle

Sut ydw i’n cael gwared ar wastraff cartref ychwanegol?

Diweddarwyd diwethaf: Mai 21, 2024 11:06 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Waste
RHANNU

Mae gan bawb eitemau gwastraff mawr sydd angen eu gwaredu, ac mae sawl ffordd i’w wneud yn ddiogel ac yn gyfreithlon.

Cynnwys
  • Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus Cyngor Wrecsam…
  • “Adroddiadau o ddigwyddiadau difrifol o dipio anghyfreithlon”

Mae tair Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref ledled Wrecsam ar gyfer gwastraff o gartrefi trigolion Wrecsam. Ni ellir gwaredu gwastraff masnachol yn y safleoedd hyn, gan gynnwys gwaredu sbwriel gan wasanaethau clirio ‘dyn a’i fan’. Maent wedi’u lleoli ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam, Plas Madoc a Brymbo. Cewch wybodaeth am beth allwch waredu, yn ogystal ag amseroedd agor ac ati, ar ein gwefan.

Os oes gennych lawer iawn o sbwriel i’w waredu, a methu mynd i un o’n Canolfannau Ailgylchu, sicrhewch eich bod yn defnyddio cwmni gydag enw da i wneud hyn ar eich rhan. Ni all y cwmni sy’n gweithredu ar eich rhan ddefnyddio ein canolfannau ailgylchu gwastraff cartref, rhaid iddynt ei waredu mewn cyfleuster trwyddedig preifat.

Mae nifer o achlysuron lle mae trigolion wedi talu i rywun waredu eu sbwriel, heb iddynt sylweddoli eu bod mewn gwirionedd yn cymryd eu harian a gwaredu’r sbwriel lle bynnag y gallant. Gallai hyn wneud preswylwyr yn atebol os oes modd olrhain y sbwriel yn ôl atynt.

Felly, os ydych yn talu rhywun i waredu eich sbwriel, sicrhewch eu bod yn fasnachwyr gonest. Dylent fod â Thrwydded Cludydd Gwastraff. Os nad oes ganddynt y drwydded hon, peidiwch â’u defnyddio – yn fwy na thebyg byddent yn tipio’r gwastraff yn anghyfreithlon a chi fydd yn gyfrifol ac yn atebol i erlyniad a dirwy os cânt eu dal neu os gellir olrhain y sbwriel yn ôl i chi. Felly cofiwch ofn i weld eu Trwydded a’u gwirio.

Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus Cyngor Wrecsam…

Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth casglu gwastraff swmpus hefyd. Mae gwastraff swmpus yn cyfeirio at eitemau sy’n rhy fawr i’w cludo gyda’r casgliad sbwriel arferol. Gall hyn gynnwys eitemau fel dodrefn, nwyddau gwyn a chyfarpar garddio.

Gallwch drefnu i gael gwared ag eitemau swmpus y cartref ar-lein, a byddwn yn casglu’r eitemau gennych. Gellir casglu hyd at wyth eitem am isafswm o £47.50 (bydd ffioedd ychwanegol ar gyfer mwy nag wyth eitem, gyda phob eitem ychwanegol yn costio £9.50).

“Adroddiadau o ddigwyddiadau difrifol o dipio anghyfreithlon”

Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae enghreifftiau ysgytiol o dipio anghyfreithlon wedi’i adrodd i ni, ac mae’n costio arian i’w waredu. Rydym bob amser yn gwirio os oes unrhyw beth yn y sbwriel er mwyn canfod y perchennog, ac os oes, ni fyddwn yn oedi cyn erlyn.

Defnyddiwch gwmni gydag enw da neu ddefnyddiwch ein gwasanaeth casgliadau swmpus neu ymwelwch ag un o’n tair canolfan ailgylchu gwastraff y cartref. Peidiwch â mentro a bod yn agored i erlyniad, oherwydd ymddygiad amheus rhywun arall.”

Yr ydym yn cynnig casgliad ymyl palmant o wastraff gardd/organig yn y bin gwyrdd yn unig, nid ydym yn cynnig unrhyw wasanaeth casglu arall ar gyfer gwastraff gwyrdd, pridd na rwbel.

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Bwletin arbed ynni Cyngor Wrecsam

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Lifestyle Cau siop gyfleustodau â thrwydded Wrexham Lifestyle am 3 mis
Erthygl nesaf Darganfod Archebwch eich tocynnau ar gyfer Gŵyl Wyddoniaeth Darganfod 2024

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Tattoo Cymru 2026
Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 26, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi
Arall Pobl a lle
Awst 26, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst
Pobl a lle
Awst 25, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 24, 2026
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst

Awst 24, 2026
Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English