Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Tourettes Action yn ceisio gael gwared ar gamsyniadau a lleihau’r stigma o amgylch y cyflwr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Tourettes Action yn ceisio gael gwared ar gamsyniadau a lleihau’r stigma o amgylch y cyflwr
Pobl a lleBusnes ac addysg

Tourettes Action yn ceisio gael gwared ar gamsyniadau a lleihau’r stigma o amgylch y cyflwr

Diweddarwyd diwethaf: May 22, 2024 2:14 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Tourettes Action yn ceisio gael gwared ar gamsyniadau a lleihau’r stigma o amgylch y cyflwr
RHANNU

Erthygl gwadd Tourettes Action

Mae Tourettes Action, elusen arweiniol sy’n ymroi i gefnogi pobl â Syndrom Tourette, yn ceisio cefnogaeth genedlaethol i gael gwared ar gamsyniadau a lleihau’r stigma o amgylch y cyflwr.  Yn rhedeg o 15 Mai i 15 Mehefin, gyda Diwrnod Ymwybyddiaeth o Tourette ar 7 Mehefin, mae’r elusen yn annog pawb i gymryd rhan. 

Mae Syndrom Tourette yn parhau i gael ei gamddeall, gyda llawer yn ei weld mewn camgymeriad fel problem ymddygiad doniol, prin sy’n deillio o rianta gwael.  Yn groes i’r credoau hyn, mae Syndrom Tourette yn gyflwr niwrolegol cyffredin sydd wedi’i bennu’n enetig sy’n effeithio ar 1 o bob 100 o blant oed ysgol, sy’n debyg i nifer yr achosion o Awtistiaeth ac epilepsi mewn plentyndod. 

Mae byw gyda Syndrom Tourette ymhell o fod yn ddoniol.  Mae camsyniadau yn aml yn arwain at y syniad anghywir bod pawb sydd â Syndrom Tourette yn dweud geiriau anweddus yn anfwriadol, gan stigmateiddio‘r rhai sy’n cael eu heffeithio hyd yn oed yn fwy ac yn meithrin teimladau o unigedd.  Bwriad Tourettes Action yw herio’r camsyniadau hyn a meithrin gwell dealltwriaeth yn ystod y mis ymwybyddiaeth.  

Eleni, mae Tourettes Action yn lansio ymgyrch #MaeTourettesYnBrifo #TourettesHurts , sy’n taflu goleuni ar y boen anweledig sy’n gysylltiedig â Syndrom Tourette: yr anghysur di-baid a achosir gan y ticiau, yr eithrio cymdeithasol, y gofid a achosir gan ataliad, y blinder a’r diffyg cymorth a darpariaethau meddygol digonol.  Bu iddynt gydweithio â’r asiantaeth AML i ddatblygu pum poster, gyda phob un yn cynnwys aelod o’r gymuned Tourette, i ddangos realiti eu bywydau’n fyw. 

Meddai Emma McNally, Prif Swyddog Gweithredol Tourettes Action:  “Trwy ein hymgyrch, Mae Tourette’s yn Brifo, ein nod yw taflu goleuni ar brofiadau go iawn unigolion sy’n byw gyda Syndrom Tourette. Gyda dros 300,000 o bobl wedi’u heffeithio gan Tourettes yn y DU yn unig, ein hamcan yw meithrin awyrgylch cynhwysol lle mae unigolion â’r cyflwr yn derbyn cymorth meddygol, addysgol a chyflogaeth priodol heb wynebu diarddeliad neu ddieithriad.  Gadewch i ni ddefnyddio’r cyfle hwn i hyrwyddo dealltwriaeth yn hytrach na beirniadu — ni ddylai unrhyw un deimlo eu bod wedi’u heithrio oherwydd ffactorau y tu hwnt i’w rheolaeth.  Ymunwch â ni, rhannwch ein neges, a chyfrannwch at liniaru’r heriau y mae’r rheiny sy’n byw â Syndrom Tourette yn eu hwynebu.”

Gallwch ganfod mwy am sut i gymryd rhan drwy fynd i wefan Tourettes Action Tourettes Action (tourettes-action.org.uk)

Rhannu
Erthygl flaenorol Tour of Britain Mae’r chwe Thîm Cyfandirol UCI Prydeinig wedi eu cadarnhau ar gyfer Taith Prydain i Ferched 2024
Erthygl nesaf libraries Cymerwch ran yn ein Harolwg i Ddefnyddwyr Llyfrgelloedd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

People working in an office
Lansio rhaglen cymorth cyflogaeth newydd yn Wrecsam
Y cyngor Busnes ac addysg
November 16, 2026
Ni fydd creulondeb at fywyd gwyllt yn cael ei oddef ym Mharc Stryt Las
Ni fydd creulondeb at fywyd gwyllt yn cael ei oddef ym Mharc Stryt Las
Y cyngor
November 16, 2026
Mayor of Wrexham's Engagements - October - Part 2
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref (Rhan 2)
Pobl a lle Arall
November 13, 2026
Marchnad Gwneuthurwyr Nadolig yn Nhŷ Pawb!
Marchnad Gwneuthurwyr Nadolig yn Nhŷ Pawb!
Digwyddiadau Pobl a lle
November 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Foster carers Del and Gary from Wrexham
Y cyngorPobl a lle

Gofalwyr maeth Wrecsam yn cael eu cydnabod â gwobr genedlaethol am eu hymrwymiad diwyro i blant a phobl ifanc mewn gofal

November 12, 2026
telecare scam
Y cyngorPobl a lle

Mae negeseuon atgoffa’r Dreth Gyngor yn Wrecsam yn newid

November 12, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

October 22, 2026
Air Covers
Busnes ac addysg

Air Covers o Wrecsam yn cryfhau twf byd-eang gyda chymorth y Parth Buddsoddi

November 11, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English