Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ym mha etholaeth ydych yn byw?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Ym mha etholaeth ydych yn byw?
Pobl a lle

Ym mha etholaeth ydych yn byw?

Diweddarwyd diwethaf: June 13, 2024 11:26 am
Rhannu
Darllen 2 funud
boundary
RHANNU

Pan fyddwch yn pleidleisio yn yr etholiad cyffredinol eleni, byddwch angen gwybod ym mha etholaeth ydych yn byw.

Wyddoch chi fod ffiniau etholaethau yn y DU wedi newid?

Mae’n golygu efallai bydd yr AS y byddwch yn pleidleisio amdanynt yn yr etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf, yn wahanol i’r hyn oeddech wedi meddwl.

Ar draws Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mae tair etholaeth wahanol – Wrecsam, Dwyrain Clwyd a Sir Drefaldwyn a Glyndŵr. Mae mwyafrif y wardiau yn disgyn o fewn etholaeth Wrecsam, ond mae rhai nad ydynt. Gallwch ddarganfod os ydych yn pleidleisio yn Nwyrain Clwyd neu Sir Drefaldwyn a Glyndŵr ar dudalen etholiadau a swyddi presennol y Cyngor.

Pam fod y ffiniau wedi newid?

Weithiau, mae’r pedwar Comisiwn Ffiniau yn y DU (Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon) yn adolygu ffiniau pob etholaeth i sicrhau eu bod yn aros tua’r un maint. Mae’r newidiadau rydym yn eu gweld yn yr etholiad cyffredinol eleni yn adlewyrchu cynnydd a gostyngiad mewn poblogaeth.

Mae ffiniau etholaethau yn cael eu hadolygu o dro i dro er mwyn sicrhau bod etholaethau tua’r un maint gan barchu cysylltiadau lleol rhwng ardaloedd. Roedd yr adolygiad yn argymell newidiadau i etholaethau i adlewyrchu’r cynnydd a gostyngiad mewn poblogaethau. Gallwch ddarganfod mwy am adolygiad y Comisiwn Ffiniau ar eu tudalen gwe etholaethau seneddol.

Rhannu
Erthygl flaenorol Swifts Helpwch i Achub ein Gwenoliaid
Erthygl nesaf Bwletin arbed ynni 1: Golchi dillad pan fydd llwyth llawn yn unig Bwletin arbed ynni 1: Golchi dillad pan fydd llwyth llawn yn unig

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Air Covers
Air Covers o Wrecsam yn cryfhau twf byd-eang gyda chymorth y Parth Buddsoddi
Busnes ac addysg
November 11, 2026
Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!
Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!
Y cyngor Digwyddiadau
November 10, 2026
Chirk Aqueduct
Dathlu pen-blwydd Traphont Ddŵr y Waun yn 225 oed mewn modd ysblennydd yng Nghastell y Waun
Pobl a lle Digwyddiadau
November 10, 2026
Wedi gweld rhywbeth sy’n ymddangos o’i le? Gallai eich llais wneud gwahaniaeth
Wedi gweld rhywbeth sy’n ymddangos o’i le? Gallai eich llais wneud gwahaniaeth
Y cyngor
November 10, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Remembrance Sunday - image shows the cenotaph at Bodhyfryd in Wrexham
Pobl a lle

Wrecsam yn Cofio – Diwrnod y Cadoediad a Sul y Cofio 2026

November 5, 2026
Dewch draw i Farchnadoedd Wrecsam
Pobl a lleDigwyddiadau

Dewch draw i Farchnadoedd Wrecsam

November 6, 2026
Wrecswyl Logo
Pobl a lleDigwyddiadau

Gwyl ddiwylliannol Gymreig newydd, WRECSWYL, yn dod i Wrecsam ddydd Sadwrn yma!

November 6, 2026
Library
Y cyngorPobl a lle

Llyfrgelloedd Cymru yn barod i helpu benthycwyr i fwynhau dyddiau mwy disglair y gaeaf hwn

November 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English