Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pennaeth profiadol i arwain Ysgol Clywedog
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg
Burma Star memorial in Wrexham
Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol
Pobl a lle
Cycling
Ydych chi’n hyderus yn beicio?
Digwyddiadau Pobl a lle
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Pennaeth profiadol i arwain Ysgol Clywedog
Busnes ac addysg

Pennaeth profiadol i arwain Ysgol Clywedog

Diweddarwyd diwethaf: 2024/06/21 at 2:21 PM
Rhannu
Darllen 2 funud
New head teacher Simon Ellis standing outside Ysgol Clywedog
RHANNU

Bydd pennaeth newydd wrth lyw ysgol uwchradd yn Wrecsam yn yr hydref.

Bydd Simon Ellis, Pennaeth Ysgol Maelor yn Llannerch Banna ar hyn o bryd, yn ymuno ag Ysgol Clywedog ddechrau mis Medi.

Mae Mr Ellis wedi bod yn bennaeth ar Ysgol Maelor ers 13 o flynyddoedd ac mae ganddo brofiad helaeth.

Meddai: “Mi fydda i’n colli gweithio yn Llannerch Banna, ond mae cael arwain un o ysgolion mwyaf Wrecsam yng nghanol ein dinas sy’n gwella’n barhaus yn gyfle prin a chyffrous.

“Rwyf eisoes wedi cwrdd â llawer o’r disgyblion a’r staff yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, ac mae eu brwdfrydedd a’u hegni ar gyfer y dyfodol wedi creu argraff arna i.

“Rwyf hefyd wedi cael cyfle i weithio gyda’r Dirprwy Bennaeth, Miranda Cookson, i benodi staff newydd gwych yn barod ar gyfer mis Medi.”

Y weledigaeth hirdymor

Mae uchelgais Ysgol Clywedog, sydd â thros 830 o ddisgyblion ar y gofrestr, wedi creu argraff fawr arno.

Meddai: “Mae gan y Corff Llywodraethu a Chyngor Wrecsam gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer yr ysgol, ac mae’r weledigaeth hirdymor yn drawiadol.

“Rydw i’n edrych ymlaen at gwrdd â’r rhieni a’r gofalwyr yn ystod y misoedd nesaf yn ogystal â gwahodd rhieni disgyblion blynyddoedd 5 a 6 i’n noson agored Nos Fercher, 18 Medi.”

Meddai Cadeirydd y Corff Llywodraethu, Mrs Paula Wood: “Mae gan Simon enw gwych am weithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, Estyn a Chyngor Wrecsam ac am gyflawni canlyniadau addysg gwych yn ystod y ddegawd ddiwethaf.

“Rydym ni’n croesawu ei brofiad a dw i’n falch iawn ei fod yn ymuno â ni fis Medi.

“Symudodd Simon i’r ardal oddeutu 20 mlynedd yn ôl fel Dirprwy Bennaeth Ysgol Uwchradd Rhosnesni, ac felly mae o’n adnabod cymunedau Wrecsam yn dda iawn ac yn dod â phrofiad hynod lwyddiannus fel pennaeth gydag o.

“Dyma gyfnod cyffrous i Ysgol Clywedog.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Bwletin arbed ynni 2: Sychu dillad yn naturiol yn hytrach na defnyddio peiriant sychu dillad. Bwletin arbed ynni 2: Sychu dillad yn naturiol yn hytrach na defnyddio peiriant sychu dillad.
Erthygl nesaf Ydych chi’n pleidleisio fel dirprwy i rywun? Darllenwch y rheolau newydd Ydych chi’n pleidleisio fel dirprwy i rywun? Darllenwch y rheolau newydd

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg Awst 14, 2025
Burma Star memorial in Wrexham
Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 14, 2025
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol
Pobl a lle Awst 13, 2025
Cycling
Ydych chi’n hyderus yn beicio?
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 13, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg

Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A

Awst 14, 2025
Jayne Bryant
Busnes ac addysgPobl a lle

Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m

Awst 5, 2025
Jan Picken, Senior MIS Support and Training Officer for Wrexham Council
Busnes ac addysg

Ysgolion Wrecsam yn elwa o gyfres meddalwedd SGR newydd a gynhelir yn y cwmwl

Gorffennaf 29, 2025
Mae cyfleoedd gwaith newydd wedi glanio – darllenwch ymlaen i ddysgu mwy!
Busnes ac addysg

Mae cyfleoedd gwaith newydd wedi glanio – darllenwch ymlaen i ddysgu mwy!

Gorffennaf 25, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English