Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rydym ni’n chwifio’r Lluman Coch eto ar Ddiwrnod y Llynges Fasnachol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Rydym ni’n chwifio’r Lluman Coch eto ar Ddiwrnod y Llynges Fasnachol
Y cyngorPobl a lle

Rydym ni’n chwifio’r Lluman Coch eto ar Ddiwrnod y Llynges Fasnachol

Diweddarwyd diwethaf: Medi 2, 2024 3:28 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Merchant Navy
RHANNU

Byddwn yn cefnogi’r Llynges Fasnachol unwaith eto ar 3 Medi drwy chwifio’r Lluman Coch i anrhydeddu’r dynion a’r merched dewr a wasanaethodd yn ystod y ddau ryfel byd, a’r rhai sy’n parhau i wasanaethu er mwyn sicrhau bod gennym ni gyflenwadau i gynnal ein hynys.

Cynnwys
  • Pam mae Diwrnod y Llynges Fasnachol ar 3 Medi?
  • Seremoni Codi’r Lluman yn Neuadd y Dref

Fel ynys, mae’r DU yn dibynnu ar forwyr y Llynges Fasnachol ar gyfer 95% o’n mewnforion, yn cynnwys hanner y bwyd rydym ni’n ei fwyta. Y DU sydd â’r diwydiant porthladdoedd mwyaf yn Ewrop. Mae 75% o’n hallforion (yn ôl cyfaint) yn cael eu cludo mewn llongau o borthladdoedd y DU.

Pam mae Diwrnod y Llynges Fasnachol ar 3 Medi?

Dioddefodd y gwasanaeth ei golled gyntaf yn yr ail ryfel byd pan gafodd llong fasnach yr S.S. Athenia ei suddo â thorpido a bu farw 128 o deithwyr a chriw, oriau yn unig ar ôl cyhoeddi’r rhyfel. Ers hynny, mae’r 3ydd o Fedi wedi’i gydnabod fel Diwrnod y Llynges Fasnachol.

Yn anffodus, nid colledion yr Athenia oedd yr olaf, a dioddefodd cannoedd o longau a miloedd o forwyr yr un dynged yn y blynyddoedd i ddilyn.

Dywedodd y Cyng. Beverley Parry Jones, Cefnogwr y Lluoedd Arfog, “Mae llawer yn Wrecsam wedi neu’n dal i wasanaethu yn y Llynges Fasnachol. Mae eu gwasanaeth ffyddlon yn deyrnged i’w hymroddiad a’r cyfraniad anhygoel maent yn ei wneud i economi’r DU.”

Dywedodd Maer Wrecsam, y Cyng. Beryl Blackmore, “Braint yw cael chwifio’r lluman hwn dros Neuadd y Dref fel arwydd o barch i’r Llynges Fasnachol ac i ddiolch iddynt am eu gwasanaeth i fywydau unigolion ar hyd a lled y DU, yn ogystal ag yma yn Wrecsam.”

Seremoni Codi’r Lluman yn Neuadd y Dref

Ddydd Mawrth 3 Medi, byddwn yn cynnal seremoni fer i godi’r lluman y tu allan i brif fynedfa Neuadd y Dref am 10.30am. Mae croeso i bawb.

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Sioe gerddorol fawreddog “Tattoo Cymru” yn dod i Neuadd William Aston ym mis Tachwedd

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Rhannu
Erthygl flaenorol A small, informal business meeting. Ydych chi’n fusnes yn Sir Wrecsam?
Erthygl nesaf Nations League Tŷ Pawb i ddangos gemau Cynghrair y Cenhedloedd Cymru

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English