Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhodd hael gan NEXT yn gwneud Wythnos Genedlaethol Ymadawyr Gofal yn un arbennig iawn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Rhodd hael gan NEXT yn gwneud Wythnos Genedlaethol Ymadawyr Gofal yn un arbennig iawn
Y cyngorPobl a lle

Rhodd hael gan NEXT yn gwneud Wythnos Genedlaethol Ymadawyr Gofal yn un arbennig iawn

Diweddarwyd diwethaf: Medi 12, 2024 9:44 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam
RHANNU

Diolch i rodd eithriadol o hael gan gwmni manwerthu NEXT, bydd pobl ifanc sy’n gadael gofal yn Wrecsam yn cael cyfle i ddathlu eu cyflawniadau yn ystod Wythnos Genedlaethol Ymadawyr Gofal!

Mae’r manwerthwyr wedi rhoi £1000 a fydd yn caniatáu i’r rheiny sy’n gadael gofal a phlant sy’n ceisio lloches ar eu pen eu hunain sy’n 15 oed neu’n hŷn i gymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau o goginio a chwisiau i weithgareddau fel bowlio.

Dywedodd y Cyng. Rob Walsh, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant, “Mae hon yn rhodd eithriadol o hael ac rydym yn ddiolchgar iawn amdani.

“Mae eu haelioni’n golygu bod y bobl ifanc yn cael cyfle i gymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Ymadawyr Gofal 2024 er mwyn tynnu sylw at eu cyflawniadau, yn aml o dan amgylchiadau eithriadol o anodd, a gweld pa mor bell maen nhw wedi dod.

“Mae staff sy’n gweithio gyda gofalwyr ifanc yn gweithio’n galed i greu cyfnod pontio esmwyth i’r gwasanaethau oedolion, i wella cyfleoedd ac ennill sgiliau annibynnol yn ogystal  â’u cefnogi i geisio hyfforddiant, gwaith a llety priodol. Mae eu profiad a’u cefnogaeth yn amhrisiadwy i ymadawyr gofal, wrth i lawer ohonyn nhw orfod pontio i wasanaethau oedolion yn gyflym iawn.”

Wythnos Genedlaethol Ymadawyr Gofal 2024

Cynhelir Wythnos Genedlaethol Ymadawyr Gofal rhwng dydd Llun 28 Hydref a dydd Sul 3 Tachwedd 2024.

Eleni pleidleisiodd y bobl ifanc dros y thema “Rydym i Gyd yn Un”.

Mae’r thema hon yn rhoi cyfle i’r ymadawyr gofal herio canfyddiadau pobl ohonynt a chodi ymwybyddiaeth o’r materion y mae’r rheiny mewn gofal yn eu hwynebu, gan ddathlu’r pethau anhygoel y mae nifer ohonynt yn mynd ymlaen i’w cyflawni. Wedi’i drefnu gan Become, sef elusen genedlaethol i blant mewn gofal ac ymadawyr gofal ifanc, eleni maen nhw’n defnyddio’r gair CARE i dynnu sylw:

  • Dathlu ymadawyr gofal – Celebrate care leavers
  • Chwyddo eu lleisiau – Amplify their voices
  • Codi ymwybyddiaeth o’r heriau – Raise awareness of challenges
  • Annog newid mewn polisi ac ymarfer – Encourage change in policy and practice.

Oherwydd y nifer gyfyngedig o ddewisiadau sydd ar gael i bobl ifanc sy’n gadael gofal bob blwyddyn mae dros draean ohonynt yn fwy tebygol na’u cyfoedion o beidio â bod mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant, ac amcangyfrifir bod 26% o’r boblogaeth ddigartref wedi cael profiad o fod mewn gofal. 

Fodd bynnag, mae nifer yn mynd ymlaen i gyflawni pethau rhyfeddol, gan weithio yn erbyn y stereoteipiau a’r stigma gyda’u gwytnwch a’u penderfyniad yn disgleirio trwodd.g past the stereotypes and the stigma with their resilience and determination shining through.

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Hoffech chi ddysgu mwy am Awtistiaeth?

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiwe

TAGGED:Care Leavers Weekwrexham
Rhannu
Erthygl flaenorol Text scam warning Rhybuddio gyrwyr am negeseuon testun ac e-byst twyll yn gofyn am daliadau Rhybudd Talu Cosb
Erthygl nesaf Byd Dŵr Wrecsam ar Restr Fer Dwy Wobr Genedlaethol am Ffitrwydd Byd Dŵr Wrecsam ar Restr Fer Dwy Wobr Genedlaethol am Ffitrwydd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Pobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English