Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Achos Llys
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor
funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg
Home-Start Baby Bank project
Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Hedgehog
Allwch chi helpu i ddiogelu draenogod?
Arall
Dog
Pwy sy’n gofalu am eich ffrind gorau tra byddwch ar wyliau?
Arall
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Achos Llys
Y cyngor

Achos Llys

Diweddarwyd diwethaf: 2024/10/17 at 4:20 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Dog Show
RHANNU

Ddydd Mawrth, 8 Hydref yn Llys Ynadon Wrecsam, plediodd Sarah Fell-Groom, bridiwr cŵn o Wrecsam sy’n masnachu fel Fell Groom Puppies, yn euog i fridio cŵn heb drwydded dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 a gweithredu mewn modd camarweiniol drwy hysbysebu ar ei gwefan ei bod yn meddu ar drwydded lawn gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gan fynd yn groes i Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008.

Bu Ms Fell-Groom yn bridio cŵn yn ei chartref rhwng 21 Rhagfyr 2022 a 20 Rhagfyr 2023.   Yn y cyfnod hwn, ganed 5 torllwyth o gŵn gan 3 gast fagu gwahanol.   Un o amodau trwyddedu bridwyr yw un dorllwyth o gŵn bob blwyddyn gan ast fagu.

Yn dilyn trafodaethau, nododd Llys yr Ynadon, er bod problem yn ymwneud â lles anifeiliaid gan fod un o’r geist wedi geni 2 dorllwyth mewn llai na 12 mis, nid oeddent yn teimlo bod y drosedd yn croesi trothwy’r ddalfa.    Rhoddwyd dirwy o £3000 i Ms Fell- Groom am fridio cŵn heb drwydded, a £1500 am yr ymarfer camarweiniol.   Gyda chostau a gordal i ddioddefwyr ar ben hynny, roedd cyfanswm y ddirwy yn £7,148.

Lles anifeiliaid

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam ar gyfer Gwarchod y Cyhoedd “Fe ddylai lles cŵn a chŵn bach fod yn flaenoriaeth ar gyfer unrhyw brynwr neu fridiwr bob amser.  Byddwn yn parhau i ymchwilio i adroddiadau am fridio cŵn heb drwydded ac yn cyflwyno cosb lem i’r rhai sy’n methu â chadw at y rheolau, ac yn ymdrin â’r troseddau yn yr un modd ag unrhyw droseddau twyllodrus neu feddiangar eraill.   Gobeithiwn y bydd y ddedfryd hon yn helpu i atal eraill ac yn annog pawb i ddilyn y protocolau swyddogol.”

Yn ôl Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014, mae angen trwydded ar unrhyw un sy’n cadw 3 neu ragor o eist bridio (unrhyw gi benywaidd heb ei hysbaddu dros 6 mis oed) mewn mangre  ac sy’n –

(a)           bridio, yn y fangre honno, 3 neu ragor o dorllwythi o gŵn bach mewn unrhyw gyfnod o 12 mis;

(b)           hysbysebu ar werth o’r fangre honno gi neu gŵn bach, a anwyd o 3 neu ragor o dorllwythi o gŵn bach a roddwyd ar werth yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis;

(c)            cyflenwi o’r fangre honno gi neu gŵn bach, a anwyd o 3 neu ragor o dorllwythi o gŵn bach yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis; neu

(ch)          hysbysebu busnes o fridio neu o werthu cŵn bach o’r fangre honno.

Os nad yw’r diffiniad o fridiwr cŵn a amlinellir uchod yn berthnasol i chi, mae’n bosibl y bydd arnoch chi angen trwydded o dan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 os ydych chi’n gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes.   Cysylltwch â’r tîm Bwyd a Ffermio yn yr Adran Gwarchod y Cyhoedd am ragor o wybodaeth public_protection_service@wrexham.gov.uk

Os ydych chi’n ystyried prynu ci bach, darllenwch y cyngor canlynol

  • Ceisiwch gael cymaint o wybodaeth â phosibl am y ci bach, ei rieni, ei frodyr a’i chwiorydd.
  • Ewch i weld y ci bach a’i rieni yn ei amgylchedd ei hun a cheisiwch fynd i’w weld fwy nag unwaith.
  • Byddwch yn ymwybodol o esgusion sy’n golygu nad oes modd i chi weld y fam, megis ei bod wedi mynd am dro, ei bod gyda ffrind neu oherwydd bod ganddi apwyntiad â’r milfeddyg.
  • Gofynnwch i gael gweld dogfennau’n ymwneud â brechiadau, microsglodynnu ac unrhyw brawf iechyd perthnasol.
  • Peidiwch â chwrdd neu brynu ci bach o lefydd megis meysydd parcio neu gilfannau.
  • Byddwch yn ymwybodol o rifau ffôn amrywiol yn cael eu defnyddio a ffotograffau tebyg ar hysbysiadau gwahanol.
  • Gofynnwch i gael gweld eu trwydded cyngor.
  • Peidiwch â chael eich brysio i wneud penderfyniad neu drosglwyddo unrhyw arian.
  • Peidiwch â bod ofn dweud na.
Rhannu
Erthygl flaenorol Wrecsam yn cipio’r aur! Wrecsam yn cipio’r aur!
Erthygl nesaf w Yn galw ar ddewiniaid a gwrachod – paratowch i ymuno â hud Harry Potter!

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor Awst 20, 2025
funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg Awst 19, 2025
Home-Start Baby Bank project
Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Awst 19, 2025
Hedgehog
Allwch chi helpu i ddiogelu draenogod?
Arall Awst 19, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor

Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol

Awst 20, 2025
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Y cyngor

Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan

Awst 13, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 12, 2025
Family Teulu
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Awst 8, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English