Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwyliwch: Beth yw rhai o’r heriau sy’n wynebu gofalwyr ifanc?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Fideo > Gwyliwch: Beth yw rhai o’r heriau sy’n wynebu gofalwyr ifanc?
Fideo

Gwyliwch: Beth yw rhai o’r heriau sy’n wynebu gofalwyr ifanc?

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 26, 2024 11:01 am
Rhannu
Darllen 5 funud
RHANNU

Yn dilyn Diwrnod Hawliau Gofalwyr, gofynnom i ofalwyr ifanc yn Wrecsam am yr heriau maent yn eu hwynebu fel gofalwyr ifanc.

Mae WCD Young Carers yn credu bod pob gofalwr ifanc yn anhygoel ac maent yn eu hatgoffa nhw o hynny. Mae eu cefnogaeth wedi’i theilwra, yn cynnwys clybiau seibiant bob pythefnos i wahanol grwpiau oedran, teithiau a gweithgareddau dros wyliau’r ysgol, cefnogaeth un-i-un yn ystod amseroedd anodd, eiriolaeth a chodi ymwybyddiaeth mewn ysgolion/colegau a’r gymuned hefyd.

Fe ddewch chi o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan WCD Young Carers.

Trawsgrifiad

Gofalwyr ifanc 1: Cydnabyddiaeth mae’n siŵr. Er bod llawer o wahaniaeth erbyn hyn, ac mae llawer o bobl bellach yn gwybod beth yw gofalwyr ifanc, nid yw rhai pobl yn gwybod, neu nid yw nifer o bobl yn barod i gydnabod y gwahaniaeth rhwng gofalwyr ifanc a phlentyn cyffredin arall.

Yn arbennig mewn ysgolion, mae’n fater mawr iawn oherwydd pan mae pobl angen mynd allan, neu anfon neges at eu teulu, neu pan fydd pobl angen colli ysgol, nid oes unrhyw un wir yn deall.

Rydych yn cael eich trin fel pawb arall, ond nid dyna’r achos, achos nid oes gennych yr un cyfrifoldebau â phawb arall.

Ar wahân i hynny, cyfoedion efallai. Mae ychydig yn well erbyn hyn, ac mae ffrindiau yn deall bod gennych ychydig mwy i’w wneud, ac ni allwch fynd allan a gwneud pethau. Rwy’n gwybod bod hynny yn gallu effeithio rhai pobl.

Yn arbennig rhai o’r gofalwyr ifanc sydd yn ffrindiau i mi – nid yw eu ffrindiau eraill yn deall pam nad allent fynd allan i wneud pethau.

Ac efallai o fewn sefydliadau eu hunain – y safbwynt bod pobl sy’n gwneud mwy angen mwy o help.

Oherwydd dydw i ddim yn teimlo fy mod yn gwneud llawer o’i gymharu â nifer o bobl, ond rwyf yn dal i fod yn ofalwr ifanc ac rwyf dal angen llawer o gymorth, ond rydw i’n meddwl nad yw rhai pobl yn meddwl fy mod angen cymaint o gymorth, gan nad ydw i’n gwneud cymaint â phobl eraill.

O’i gymharu â phobl sy’n gwneud nifer fawr iawn, maent yn credu bod yr unigolion hynny angen mwy o gymorth gan eu bod yn gwneud mwy, ond rwy’n teimlo bod llawer mwy yn digwydd tu ôl i’r llen.

Mae llawer mwy yn digwydd yn y cefndir, ac rwy’n teimlo na ddylai neb gael yr hawl, neu allu dweud faint o gymorth mae rhywun angen neu ddim ei angen, oherwydd eu bod yn gwneud mwy neu lai na rhywun arall.

Gofalwyr ifanc 2: Gall nifer o ofalwyr ifanc ei chael yn anodd ymdopi â gwaith ysgol. Efallai eu bod yn ymddangos yn hollol iawn, ond maent angen ychydig mwy o gymorth yn yr ysgol.

Mae’n eithaf cyffredin i ofalwyr ifanc ei chael yn anodd cyflawni gwaith cartref, felly rydym yn mynd i drwbl yn fwy aml am waith cartref hwyr, neu beidio cwblhau gwaith cartref o gwbl.

Rydym hefyd yn ei chael yn anodd gwneud pethau ar ben ein hunain, heb boeni am ein teulu.

Gofalwyr ifanc 3: Hyder – mae nifer o ofalwyr ifanc yn ei chael yn anodd â hunan-barch a hyder. Ac er bod gofalwyr ifanc eraill wedi helpu i adeiladu hyder yn ôl, maent yn dal i feddwl nad ydynt yn ffitio i mewn gan eu bod yn gwneud pethau gwahanol.

Mae’r agwedd dal i fodoli, ‘wel rwyt ti’n ofalwr ifanc, felly nid wyt ti’n gallu gwneud dim byd’. Mae mwy o doriad rhwng oedolion a gofalwyr ifanc.

Rydym yn ceisio mynd i’r afael â hyn – rydym yn gwneud cynnydd gwych – ond mae hyder a hunan-barch yn parhau i fod yn anodd.

Mae’n Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr 2024 cyn bo hir – ydych chi’n ofalwr di-dâl? Mynnwch y cymorth, y gefnogaeth a’r wybodaeth sydd ei angen arnoch – Newyddion Cyngor Wrecsam

Maethu Cymru Wrecsam – dod yn ofalwr maeth.

TAGGED:carersgofalwyrGofalwyr Ifancyoung carers
Rhannu
Erthygl flaenorol ddinasyddion yr UE Ydych chi’n un o ddinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru?
Erthygl nesaf Victorian Christmas Fair Wythnos Yma: Marchnad Nadolig Fictoraidd Wrecsam yn Dychwelyd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst
Pobl a lle
Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Awst 25, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Cynllun peilot 'Strydoedd Ysgol' wedi'i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
FideoPobl a lle

Cynllun peilot ‘Strydoedd Ysgol’ wedi’i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol

Mawrth 6, 2026
Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
DigwyddiadauFideoPobl a lle

Wrecsam v Chelsea – dydd Sadwrn yma!

Mawrth 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English