Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwaith yn dechrau ar ardd gymunedol newydd yn Rhos
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Gwaith yn dechrau ar ardd gymunedol newydd yn Rhos
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Gwaith yn dechrau ar ardd gymunedol newydd yn Rhos

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 22, 2024 2:39 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Rhos community garden in Wrexham. Image shows some gardening tools leaning up against a shed.
RHANNU

Mae gwaith ar fin dechrau ar brosiect gardd gymunedol a fydd yn rhoi bywyd newydd i safle hen ysgol ger Wrecsam.

Mae cynlluniau ar gyfer gardd ar hen safle Ysgol y Wern yn Rhos wedi bod ar waith ers yn gynnar yn yr haf, ac fe fydd y gwaith yn dechrau’r wythnos nesaf (o ddydd Llun 25 Tachwedd).

Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Gyngor Wrecsam, Cyngor Cymuned Rhos a Groundwork North Wales, gyda chyfranogiad llawn gan breswylwyr lleol. Mae’r gwaith yn cael ei ariannu trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd Cyngor Wrecsam sydd yn gyfrifol am Ddatgarboneiddio: “Mae prosiectau fel hyn yn bwysig iawn i’n hymdrechion datgarboneiddio – annog cymunedau i dyfu cynnyrch lleol a chreu amgylcheddau sydd yn dda i bryfetach a bywyd gwyllt arall.

“Fe fydd yna lawer o gyfleoedd i bobl fagu hyder a dysgu amrywiaeth o sgiliau am arddio organig a chyflenwol, tyfu perlysiau a blodau gwyllt, cefnogi natur, a thyfu llwyni, llwyni ffrwythau a gwrychoedd wrth symud ymlaen i gefnogi hyfforddiant galwedigaethol.

“Mae’n brosiect gwych ac rydym ni’n gobeithio y bydd pobl yn parhau i gymryd rhan a chefnogi’r gwaith.”

Mae’r ardd yn un o sawl prosiect tyfu cymunedol sydd ar waith yn y Fwrdeistref sirol, gyda phrosiectau eraill yn Trydedd Rhodfa yng Ngwersyllt, Parc Caia, Tŷ Pawb, Parc Ashfield, Cefn Mawr a Gardd Orffwys.

Dyma’r amserlen ar gyfer y gwaith ar hen safle Ysgol y Wern:

Yr wythnos yn dechrau 25 Tachwedd

  • Cloddio a phlotio.
  • Gwaith ar y ffordd fynediad ac ymylon yr ardal rhandir.

Yr wythnos yn dechrau 2 Rhagfyr

  • Gosod gwelyau plannu uchel.

Yr wythnos yn dechrau 9 Rhagfyr

  • Gosod sied a deunydd casglu dŵr.
  • Plannu coed.

Meddai’r Cynghorydd lleol, Steve Joe Jones: “Mae’r gymuned wedi bod wrth galon y prosiect yma o’r dechrau un, ac mae hi’n wych gweld y darn o dir yma’n cael bywyd newydd.

“Fe fydd yr ardd yn lle hyfryd i dreulio amser, a bydd pawb yn gallu cymryd rhan a mwynhau bod yn rhan o’r ymdrech gydweithredol i dyfu planhigion, ffrwythau a llysiau, a chefnogi natur.”

Mae yna gyfarfodydd rheolaidd yn y Caffi Cymunedol yn Rhos (LL14 2HY) i unrhyw un a hoffai gymryd rhan. Mae’r rhain yn cael eu cynnal bob dydd Iau am 2pm.

I gael rhagor o wybodaeth neu i gymryd rhan gydag un o’r prosiectau tyfu cymunedol yn y Fwrdeistref Sirol, cysylltwch â Thîm Datgarboneiddio Cyngor Wrecsam.

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwyliwch: Pa bryd sylweddolaist ti dy fod di’n ofalwr ifanc? Gwyliwch: Pa bryd sylweddolaist ti dy fod di’n ofalwr ifanc?
Erthygl nesaf Person shovelling soil whilst planting a tree Dewch i roi help llaw a helpwch i blannu coed bant Lilac Way (Maesgwyn)!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst
Pobl a lle
Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Awst 25, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
Car park
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌

Awst 21, 2026
Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English