Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen A fyddech chi’n gallu darparu canolfan glyd? Grantiau ar gael yn fuan
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Winter weather
Storm Goretti – diweddariad tywydd 8.1.26
Arall Y cyngor
wellbeing hub
Mae Hwb Lles Wrecsam yn cynnig lle cynhwysol ar gyfer partneriaeth Mannau Cynnes
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Unpaid carers in Wrexham invited to apply for short breaks grants
Gwahodd gofalwyr di-dâl yn Wrecsam i wneud cais am grantiau seibiannau byr
Pobl a lle Y cyngor
Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam
Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Wrexham's Year of Wonder
Digwyddiad lansio Blwyddyn o Ryfeddod Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 8-9 Ionawr
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > A fyddech chi’n gallu darparu canolfan glyd? Grantiau ar gael yn fuan
Y cyngorDatgarboneiddio Wrecsam

A fyddech chi’n gallu darparu canolfan glyd? Grantiau ar gael yn fuan

Diweddarwyd diwethaf: 2024/12/18 at 12:55 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
A fyddech chi’n gallu darparu canolfan glyd? Grantiau ar gael yn fuan
RHANNU

Ydych chi’n rhan o grŵp cymunedol neu sefydliad a allai ddarparu lle cynnes i unigolion neu deuluoedd diamddiffyn?

Mae Cyngor Wrecsam wedi cael cyllid gwerth £64,000 i’w ddefnyddio i gefnogi holl lyfrgelloedd Wrecsam a Hwb Wrecsam i ddarparu canolfannau clyd, yn ogystal â chynllun grantiau bach i sefydliadau a grwpiau wneud cais am hyd at £5,000.

Os ydych yn teimlo y gallai eich sefydliad neu grŵp ddarparu canolfan glyd, gallwch e-bostio warmplaces@wrexham.gov.uk am ragor o wybodaeth ac i gofrestru i dderbyn pecyn ymgeisio ar gyfer cyllid gaeaf 2024/25.

Beth fydd y cyllid yn ei gynnwys?

Bydd ceisiadau llwyddiannus am gyllid yn dibynnu ar beth allwch chi ei gynnig. Er enghraifft, bydd mwy o gyllid ar gael os ydych yn gallu darparu prydau poeth neu agor gyda’r nos / ar benwythnosau.

Dywedodd y Cynghorydd Claire Lovett, cadeirydd y gweithgor swyddogion ac aelodau costau byw: “Wrth i’r tywydd oeri, bydd trigolion yn gwerthfawrogi canolfannau clyd yn fwy fel rhywle croesawgar i fynd. Os ydych chi’n grŵp neu sefydliad yn Wrecsam, dylech ystyried gwneud cais am y grant i wneud bywyd ychydig yn haws i bobl yn eich cymuned.”

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, aelod arweiniol sy’n gyfrifol am wrth-dlodi: “Hoffem weithio gyda grwpiau cymunedol a sefydliadau i sicrhau bod digon o leoedd ar gael ledled y fwrdeistref sirol y gall pobl fynd iddynt i gadw’n gynnes. “Os yw unrhyw sefydliad neu grŵp cymunedol yn gallu darparu lle cynnes y gaeaf hwn, rydym eisiau clywed gennych.

Beth sy’n digwydd mewn llyfrgelloedd?

Bydd llyfrgelloedd yn cynnig mynediad at hunanwasanaeth diodydd poeth a p’un a ydych yn ymwelydd rheolaidd neu’n newydd i’r llyfrgell, bydd modd i chi gael mynediad at:

  • Wi-Fi
  • Cyfrifiaduron
  • Papurau newydd dyddiol
  • Llyfrau ffuglen a gwybodaeth
  • Gweithgareddau a digwyddiadau’r llyfrgell, y rhan fwyaf yn rhad ac am ddim

I ddarganfod pryd mae llyfrgelloedd Wrecsam ar agor, ewch i dudalen we llyfrgelloedd lleol ar wefan y cyngor.

Beth sy’n digwydd yn yr Hwb Lles?

Bydd yr Hwb Lles hefyd yn darparu canolfan glyd a byddant yn defnyddio eu cyllid i ddarparu te, coffi a siocled poeth i unrhyw un sy’n cael anhawster dros fisoedd y gaeaf. Bydd modd i chi gynhesu a chadw’n gynnes, eistedd ar y soffa a mwynhau amrywiaeth o gemau bwrdd, posau a chael mynediad cyhoeddus at iPads yn rhad ac am ddim.

Bydd ymgynghorwyr yr Hwb Lles hefyd wrth law i ddarparu gwybodaeth am amrywiaeth o wasanaethau lles, a allai fod yn fuddiol y gaeaf hwn gan gynnwys darparu bwyd, ynni, banc data, cwnsela, cymorth iechyd meddwl, cymorth profedigaeth, grwpiau cymunedol a chymorth i deuluoedd.

Rhannu
Erthygl flaenorol Taxi Gwiriwch fod y tacsi rydych yn ei ddefnyddio’n gyfreithlon!
Erthygl nesaf Estyn Trefniadau Gweithio Cyngor Wrecsam dros y Nadolig 2024

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Winter weather
Storm Goretti – diweddariad tywydd 8.1.26
Arall Y cyngor Ionawr 8, 2026
wellbeing hub
Mae Hwb Lles Wrecsam yn cynnig lle cynhwysol ar gyfer partneriaeth Mannau Cynnes
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 8, 2026
Unpaid carers in Wrexham invited to apply for short breaks grants
Gwahodd gofalwyr di-dâl yn Wrecsam i wneud cais am grantiau seibiannau byr
Pobl a lle Y cyngor Ionawr 8, 2026
Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam
Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Ionawr 8, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Winter weather
ArallY cyngor

Storm Goretti – diweddariad tywydd 8.1.26

Ionawr 8, 2026
wellbeing hub
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Mae Hwb Lles Wrecsam yn cynnig lle cynhwysol ar gyfer partneriaeth Mannau Cynnes

Ionawr 8, 2026
Unpaid carers in Wrexham invited to apply for short breaks grants
Pobl a lleY cyngor

Gwahodd gofalwyr di-dâl yn Wrecsam i wneud cais am grantiau seibiannau byr

Ionawr 8, 2026
Diweddariad tywydd 5.01.26
Y cyngor

Diweddariad tywydd 5.01.26

Ionawr 5, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English