Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Teyrnged i Mr Bob Dutton OBE
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Ruabon library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i'r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i’r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Pobl a lle Y cyngor
Cefn Mawr library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Cefn Mawr
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle
David Ebsworth
Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Teyrnged i Mr Bob Dutton OBE
Pobl a lleArall

Teyrnged i Mr Bob Dutton OBE

Diweddarwyd diwethaf: 2025/02/04 at 1:38 PM
Rhannu
Darllen 2 funud
Mr Bob Dutton OBE
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam wedi talu teyrnged i’r cyn-gynghorydd a’r prif weithredwr, Bob Dutton OBE, a fu farw fis yma.

Dechreuodd Mr Dutton weithio ym maes llywodraeth leol fel dyn ifanc ddiwedd y 1960au, ac aeth ymlaen i gael gyrfa ragorol – gan wasanaethu yn y pen draw fel prif weithredwr Cyngor Bwrdeistref Wrecsam Maelor hyd at ei ymddeoliad ym 1995.

Yn 1999, dychwelodd i lywodraeth leol fel cynghorydd, gan gynrychioli ward Erddig am flynyddoedd lawer, hyd at 2017.

Bydd y faner yn Neuadd y Dref yn cael ei chwifio ar hanner mast dros y dyddiau nesaf fel arwydd o barch.
Mae’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor, wedi talu teyrnged i’r cyfraniad aruthrol a wnaeth Mr Dutton i Wrecsam yn ystod ei oes.

Meddai: “Roedd Bob yn ddyn gwych ac yn was cyhoeddus ymroddedig, a wnaeth gymaint dros Wrecsam.

“Fel uwch swyddog a phrif weithredwr, roedd yn allweddol yn perswadio llawer o fusnesau pwysig i ddod yma yn ystod y 1980au a’r 90au – gan helpu i greu miloedd o swyddi newydd a denu llawer iawn o fuddsoddiad busnes i Wrecsam.

“Roedd hynny mor bwysig ar adeg pan oedd diwydiannau traddodiadol fel cloddio am lo a dur yn dod i ben, a does dim dwywaith bod Bob wedi helpu Wrecsam i ddenu diwydiannau newydd a chreu dyfodol newydd i’w hun.

“Fel cynghorydd, cefais yr anrhydedd o weithio gyda Bob am flynyddoedd lawer, ac roedd yn ŵr bonheddig oedd bob amser yn gweithio’n ddiflino er lles pobl Wrecsam.

“Ar ran cynghorwyr a gweithwyr y cyngor, hoffwn estyn fy nghydymdeimlad diffuant i deulu Bob. Mae Wrecsam wedi colli un o’i gweision cyhoeddus pennaf, a bydd colled fawr ar ei ôl.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham bus station Mwy o fysus ar gyfer gwasanaeth bws 17 (Wrecsam-Moss a Lodge)
Erthygl nesaf Llay Park resource centre 20 mlynedd o Ganolfan Adnoddau Parc Llai

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ruabon library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 23, 2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i'r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i’r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Pobl a lle Y cyngor Ionawr 23, 2026
Cefn Mawr library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Cefn Mawr
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 23, 2026
Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Ionawr 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ruabon library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon

Ionawr 23, 2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i'r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Pobl a lleY cyngor

Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i’r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026

Ionawr 23, 2026
Cefn Mawr library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Cefn Mawr

Ionawr 23, 2026
Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Busnes ac addysgPobl a lle

Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn

Ionawr 20, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English