Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Diwrnod Plannu Coed: Brynteg
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Diwrnod Plannu Coed: Brynteg
Pobl a lleArall

Diwrnod Plannu Coed: Brynteg

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 20, 2025 5:34 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Rhaw wedi ei phlannu yn y pridd (golygfa uwchben dolen y rhaw)
RHANNU

Ydych chi eisiau helpu’r amgylchedd, bod yn actif yn yr awyr agored a chwrdd ag eraill yn y gymuned wrth wneud hyn?

Cynnwys
  • Cefndir
  • Ar y diwrnod
  • Man cyfarfod
  • Rhowch wybod i ni os oes gennych ddiddordeb
  • Eisiau helpu gyda digwyddiadau yn y dyfodol?

Byddwch yn wirfoddolwr am y diwrnod! Dewch i’n helpu i blannu coed ar fannau agored oddi ar Ffordd Brychdwn, Lodge.

Cefndir

Cyllido yn llawn – Ariannwyd gan Trees for Cities, gyda chymorth gan Bartneriaeth Goedwigoedd Wrecsam.

Mae Partneriaeth Goedwigoedd Wrecsam yn gweithio gyda’i gilydd i blannu coed ledled y sir i wella cysylltedd coetir yn yr ardal a’n helpu i gyrraedd ein nodau brigdwf ar gyfer y Sir. Bydd yn helpu tuag at ein nodau fel rhan o Addewid Coetir Wrecsam.

Ar y diwrnod

Cynhelir y digwyddiad ar ddydd Sadwrn, 22 Chwefror, 2025 o 10am – 2pm.

Bydd lluniaeth am ddim ar gael. Os ydych yn aros dros amser cinio dewch â’ch pecyn bwyd a diod eich hunain. Hefyd, nid oes toiledau ar y safle, felly cynlluniwch ymlaen llaw (toiledau cyhoeddus agosaf yn Ganolfan Adnoddau Brynteg).

Rhaid i blant ddod gydag oedolyn, mae plannu coed yn addas ar gyfer yr holl deulu, ond bydd plant ifanc angen cymorth oedolyn wrth balu tyllau.

Darperir yr holl offer ac mae menyg ar gael i’w defnyddio. Gwisgwch ddillad cynnes sy’n addas i’r tywydd ac esgidiau glaw neu esgidiau cryfion!

Byddwn ar y safle rhwng 10-2pm ond mae croeso i chi aros cyhyd ag y dymunwch.

Man cyfarfod

Ffordd Brychdwn (cae). Y lleoliad what3words yw dringol.cywirdeb.estyniad (mae what3words yn darparu ‘cod’ yr union leoliad, gan ddefnyddio geiriau ar hap, i helpu pobl i ddod o hyd i leoliadau pan nad yw cyfeiriadau stryd yn ddigon cywir).

Rhowch wybod i ni os oes gennych ddiddordeb

Os hoffech gysylltu i wirfoddoli neu wneud sylw am y cynllun plannu coed cysylltwch â woodlandpledge@wrexham.gov.uk.

Eisiau helpu gyda digwyddiadau yn y dyfodol?

Rydym yn galw ar fusnesau, unigolion, grwpiau cymunedol ac ysgolion a hoffai helpu i blannu coed gyda Chyngor Wrecsam, i gysylltu â ni, gan y bydd mwy o gyfleoedd trwy gydol y gaeaf i bobl gymryd rhan.

Cysylltwch â woodlandpledge@wrexham.gov.uk i gael mwy o wybodaeth.


Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: Annog trigolion Wrecsam i ymuno ag ymgyrch “Fix It Feb” Caffi Trwsio Cymru

Rhannu
Erthygl flaenorol Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background. Dyfarnwyd rôl curadur celfyddydau gweledol i Tŷ Pawb yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Erthygl nesaf Recycling crafts Digwyddiad crefft ailgylchu ar ddod! (27/02/25)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
Guildhall
Arall

Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw

Awst 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English