Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae sesiwn gwirio beiciau am ddim yn cael ei chynnal yn Wrecsam (10 Mehefin)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 19-20 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mae sesiwn gwirio beiciau am ddim yn cael ei chynnal yn Wrecsam (10 Mehefin)
Pobl a lle

Mae sesiwn gwirio beiciau am ddim yn cael ei chynnal yn Wrecsam (10 Mehefin)

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 6, 2025 9:57 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Cycling
RHANNU

Erthyl gwadd: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mae sesiwn gwirio beiciau am ddim yn cael ei chynnal yn Wrecsam i helpu mwy o bobl i fynd ar gefn eu beic a defnyddio pŵer pedalau.

Gall unrhyw un ddod â’u beic i’r maes parcio yng nghefn Plas Gororau, Parc Technoleg Wrecsam ar gyfer y sesiwn Meddyg Beiciau am ddim rhwng 7.45am a 5.30pm ddydd Mawrth 10 Mehefin.

Bydd tîm The Mobile Bike Mechanics yn cynnal gwiriadau diogelwch a mân waith atgyweirio, ac yn rhoi cyngor am unrhyw waith mawr pellach a allai fod angen ei wneud i helpu mwy o bobl i fynd ar gefn eu beic.

Cynhelir y sesiwn yn ystod Wythnos y Beic, sy’n cael ei chynnal o 9 Mehefin i 15 Mehefin. Fe’i hariennir gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru drwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac mae’n cael ei chynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Dywedodd yr uwch ymarferydd gwella iechyd Robin Ranson y byddai’r sesiwn yn rhoi cyfle i drigolion, gan gynnwys staff o Ysbyty Maelor Wrecsam a safleoedd byrddau iechyd eraill, ddod â’u beiciau i’w gwirio.

“Rydym yn gobeithio y bydd y cyfle hwn yn helpu mwy o bobl yn Wrecsam i fynd ar gefn eu beiciau – boed hynny i deithio i’r gwaith neu yn eu hamser hamdden – ac i elwa o fanteision iechyd a lles bod yn actif a symud mwy,” meddai.

Ym mis Rhagfyr, galwodd adroddiad gan y bwrdd iechyd am wneud mwy i helpu mwy o bobl i fod yn fwy actif yn fwy aml – tra bod Cyngor Wrecsam wedi addo hyrwyddo beicio ac opsiynau teithio llesol eraill fel llofnodydd Siarter Teithio Llesol Gogledd Cymru.

Bydd aelodau o dimau Deieteg Iechyd Cyhoeddus a Gwella Iechyd y bwrdd iechyd hefyd wrth law yn y digwyddiad i gynnig cyngor ar ffordd o fyw a lles.

Wythnos y Beic yw’r dathliad beicio mwyaf yn y DU. Mae’n tynnu sylw at y nifer o ffyrdd y gall beicio fod o fudd i ni i gyd – o hybu iechyd a lles i leihau allyriadau carbon a chreu cymunedau mwy cysylltiedig.

Wythnos Gofalwyr: Diwrnod Heneiddio heb Gyfyngiadau – Newyddion Cyngor Wrecsam

Maethu Cymru Wrecsam – dod yn ofalwr maeth.

Rhannu
Erthygl flaenorol wellbeing hub Wythnos Gofalwyr: Diwrnod Heneiddio heb Gyfyngiadau 
Erthygl nesaf Ty Pawb Digwyddiad recriwtio’r GIG – 7 Gorffennaf

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026
Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Awst 12, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English