Mae Eisteddfod Wrecsam 2025 yn rhedeg o Awst 2 tan Awst 9. Mae’n un o’r gwyliau mwyaf yn Ewrop, ac yn ddathliad enfawr o iaith a diwylliant Cymru.
Isio gwybod ble i ddal y bws gwennol o ganol dinas Wrecsam i’r Maes?
Neidiwch ymlaen o Safle 5 yng Ngorsaf Fysiau Wrecsam ar Stryd y Brenin (LL11 1LF).
Bydd bysiau’n gadael bob 20 munud o 8.05am tan 7.50pm bob dydd.
Bydd bysiau rheolaidd o’r Maes i ganol y ddinas tan 11pm hefyd (nodwch y bydd bysiau ar ôl 8pm yn gadael bob 20 munud, ond byddant yn gadael yn gynt os ydyn nhw’n llawn – ond peidiwch â phoeni os byddwch chi’n methu un … bydd yr un nesaf yn cyrraedd yn fuan).
Pentref Wrecsam – Cornel Wrecsam ar y Maes – Newyddion Cyngor Wrecsam
