Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pentref Wrecsam – Cornel Wrecsam ar y Maes 
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Pentref Wrecsam – Cornel Wrecsam ar y Maes 
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Pentref Wrecsam – Cornel Wrecsam ar y Maes 

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 28, 2025 5:18 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Pentref Wrecsam
RHANNU

Mae Wrecsam yn paratoi i gynnal un o wyliau diwylliannol mwyaf Ewrop pan fyddwn yn croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol rhwng 2-9 Awst, 2025.

Gyda disgwyl hyd at 175,000 o ymwelwyr â’r Maes yn ystod yr wythnos, bydd yr haf hwn yn un arbennig, ac wrth galon y cyfan bydd Pentref Wrecsam, yn dangos yr hyn ydyn ni a beth sy’n bwysig i ni.

Pentref Wrecsam – Cornel Wrecsam ar y Maes 

Bydd Pentref Wrecsam yn ganolfan fywiog a chroesawgar a dyma fydd llecyn Wrecsam ar y Maes, yn dathlu’r hyn sy’n gwneud Wrecsam yn arbennig, o’n diwylliant a’n creadigrwydd i’n hysbryd cymunedol.

Wedi’i gynllunio i fod yn ganolfan fywiog o weithgareddau, bydd Pentref Wrecsam yn cynnig rhaglen lawn o gerddoriaeth fyw a thrafodaethau diddorol wedi’u curadu gan FOCUS Wales ym mhrif ardal Cromen, ochr yn ochr â chrefftau, chwarae a sesiynau darllen yn ein Pabell Chwarae.

Draw yn ein Hardal Chwaraeon, a gynhelir gan Wrecsam Egnïol, bydd gweithgareddau cyffrous i bob oed yn digwydd drwy gydol yr wythnos, gan gynnwys hwyl pêl-droed gyda Chlwb Pêl-droed Wrecsam, sesiynau tenis gyda Tenis Cymru, a chyfle i weld crys pêl-droed chwyddadwy enfawr Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Bydd yna hefyd ddigon o le i eistedd, ymlacio ac ailwefru drwy gydol y dydd.

Pentref Wrecsam – Cornel Wrecsam ar y Maes 

Bydd cynnyrch lleol, nwyddau artisan, a chelf ac anrhegion gan wneuthurwyr a busnesau lleol hefyd ar gael i ymwelwyr, yn ogystal â digon o wybodaeth ddefnyddiol am Wrecsam, ein gwasanaethau a’n sefydliadau lleol, a gwaith yr awdurdod lleol yn y Cytiau drwy gydol yr wythnos.

Dywedodd Alwyn Jones, Prif Weithredwr Dros Dro Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam:  “Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddathliad mawr o hanes, diwylliant ac iaith Cymru.

“Ar ôl ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol ers pan oeddwn yn blentyn ifanc, a chymryd rhan ynddi, rwy’n falch iawn ac yn llawn cyffro ein bod yn ei chynnal  yn Wrecsam eleni, ac rwy’n annog pawb i ymweld â’r ŵyl a Phentref Wrecsam, yn ogystal â chymryd rhan yng ngweithgareddau Ymylol Wrecsam ar hyd a lled y sir. Mwynhewch!”

Fel rhan o bresenoldeb ehangach Wrecsam yn yr Eisteddfod, bydd Tŷ Pawb, canolfan gelf ddiwylliannol Wrecsam, yn curadu ‘Y Lle Celf’, oriel genedlaethol eiconig yr Eisteddfod ar y Maes.  Yn arddangos detholiad wedi’i guradu o gelf, crefft a phensaernïaeth gyfoes, mae’r Lle Celf yn un o arddangosfeydd celf dros dro mwyaf Ewrop ac yn un o brif uchafbwyntiau rhaglen yr Eisteddfod.

Pentref Wrecsam – Cornel Wrecsam ar y Maes 

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Gynllunio a Diogelu’r Cyhoedd, a Hyrwyddwr y Gymraeg, ac sydd â chyfrifoldeb dros Tŷ Pawb: “Mae Tŷ Pawb yn parhau i fod wrth wraidd enw da Wrecsam am fod yn ganolfan ddiwylliannol o bwys, ac mae ei rôl yn curadu’r Lle Celf eleni yn enghraifft berffaith o hynny, ac yn gyfle gwych i rannu ein diwylliant a’n sîn gelfyddydol fywiog gyda chynulleidfa genedlaethol. 

Mae’r arddangosfa eleni yn dod â gwaith rhagorol ynghyd, gan artistiaid a gwneuthurwyr o bob cwr o Gymru a’r tu hwnt.

Mae’r Eisteddfod yn ddathliad nid yn unig o’r Cymraeg, ond o’n creadigrwydd, ein hamrywiaeth a’n hyder diwylliannol – ac rwy’n falch iawn y bydd Wrecsam yn chwarae rhan mor ganolog ynddi.”

Pentref Wrecsam – Cornel Wrecsam ar y Maes 
2023 08 09 Eisteddfod 2023 Llŷn ac Eifionydd Credit: Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol eleni yn foment bwysig i Wrecsam – sir a dinas-ranbarth sydd â’i henw dar ar gyfer diwylliant, creadigrwydd a  chymunedau yn tyfu drwy’r amser. Mae Pentref Wrecsam yn gwahodd ymwelwyr o bell ac agos i gael blas ar y gorau sydd gan Wrecsam i’w gynnig – y cyfan mewn un lle. Welwn ni chi yno!

Rhannu
Erthygl flaenorol Be sy 'mlaen 'Y Gromen' ym Mhentref Wrecsam Be sy ‘mlaen ‘Y Gromen’ ym Mhentref Wrecsam
Erthygl nesaf Cronfa Gwaddol Ieuenctid yn buddsoddi £3.5 miliwn o ddiogelu plant rhag camdriniaeth ac esgeulustod Cronfa Gwaddol Ieuenctid yn buddsoddi £3.5 miliwn o ddiogelu plant rhag camdriniaeth ac esgeulustod

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English