Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ysgolion Wrecsam yn elwa o gyfres meddalwedd SGR newydd a gynhelir yn y cwmwl
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Ysgolion Wrecsam yn elwa o gyfres meddalwedd SGR newydd a gynhelir yn y cwmwl
Busnes ac addysg

Ysgolion Wrecsam yn elwa o gyfres meddalwedd SGR newydd a gynhelir yn y cwmwl

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 29, 2025 9:52 am
Rhannu
Darllen 7 funud
Jan Picken, Senior MIS Support and Training Officer for Wrexham Council
RHANNU

Ysgolion Wrecsam yw’r cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio SGR (System Gwybodaeth Reoli) newydd a ddatblygwyd gan Bromcom i reoli gwahanol agweddau ar fywyd ysgol, gan gynnwys data, presenoldeb, asesiadau a chyfathrebiadau myfyrwyr.

Cynnwys
  • Digwyddiad Shard
  • Beth mae ein hysgolion yn ei ddweud?

Ar ôl gweithio gyda’n cyflenwr SGR blaenorol am dros 20 mlynedd, roeddem yn cydnabod bod angen trosglwyddo i gyflenwr newydd gyda dull modern â ffocws. Mae pob un o’r 70 ysgol yn Wrecsam (9 uwchradd, 60 cynradd ac 1 arbennig) bellach yn defnyddio SGR Bromcom ac wedi gweld nifer o fanteision o wneud hynny. 

Gwelliant allweddol yw bod SGR Bromcom yn cael ei gynnal yn y cwmwl ac yn hygyrch o amryw lwyfannau a dyfeisiau, sy’n golygu y gall staff, rhieni a disgyblion gael mynediad i’r holl wybodaeth (gan gynnwys canlyniadau arholiadau) ble bynnag y byddant.  Yn flaenorol, dim ond ar y safle yn yr ysgol y gellid gwneud hyn.

Ffactor mawr arall wrth newid oedd ein bod eisiau cyflenwr sy’n deall ac sydd ag ymrwymiad i gynnig ateb SGR ysgol yng Nghymru.  Mae SGR Bromcom yn gwbl ddwyieithog ac yn cynnig yr un profiad i siaradwyr Cymraeg a Saesneg, gan fodloni Safonau’r Gymraeg.

Mae’r SGR hefyd yn cefnogi pobl sy’n defnyddio Saesneg fel iaith ychwanegol gyda gosodiad sy’n caniatáu i ddefnyddwyr newid yr iaith maen nhw’n cyfathrebu ynddi.  Mae hyn wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol gyda chyfnewidiadau rhwng rhieni ac athrawon.

Rhai o fanteision eraill SGR Bromcom yw:

  • mae’n fwy cost-effeithiol
  • mae’n ddiogel ac yn wydn
  • mae’n cefnogi integreiddiadau trydydd parti
  • mae’n cydymffurfio ag arholiadau yng Nghymru ac yn eu cefnogi
  • mae’n hwyluso ein model o gymorth SGR mewn ysgolion
  • rydym yn cael cefnogaeth barhaus gan Bromcom

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Mae hwn yn brosiect sydd wedi cymryd dros dair blynedd, ond roedd yn gam angenrheidiol yr oedd angen i ni ei gymryd i’n hysgolion.  Trwy waith caled, ymchwil, cynllunio a sawl arddangosiad, penderfynom mai Bromcom fyddai’r partner i’n helpu i gyflawni ein nodau.  Rydyn ni’n falch iawn o sut mae’n mynd hyd yn hyn ac mae’r adborth rydyn ni wedi’i gael gan athrawon, rhieni a disgyblion wedi bod yn gadarnhaol.”

Digwyddiad Shard

Ddydd Iau, 19 Mehefin gwahoddwyd ein Swyddogion Cymorth a Hyfforddiant SGR Addysg Jan Picken a Karen Stubbs i fod yn siaradwyr gwadd yn nigwyddiad blynyddol Bromcom yn yr adeilad Shard eiconig yn Llundain. 

Cynigiodd Jan fewnwelediadau i’r rhai a oedd yn bresennol ar yr ymarferoldeb a’r heriau o weithredu SGR newydd ar gyfer awdurdod lleol.

Dywedodd Jan Picken, Uwch Swyddog Cymorth a Hyfforddiant SGR Cyngor Wrecsam: “Roeddem yn ddiolchgar am y cyfle i rannu ein stori o Gymru, cysylltu â chydweithwyr o’r un anian o awdurdodau lleol eraill, a rhwydweithio â chyfoedion o dîm Bromcom.

“Mae ein cydweithrediad â Bromcom wedi tyfu’n gryfach dros amser, ond ni fyddai’r llwyddiant hwn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth ddiwyro ein hysgolion a’r tîm TG ehangach.  Mae eu hymroddiad wedi bod yn allweddol wrth wneud y siwrne hon yn llwyddiant.

“Er bod y broses wedi bod yn heriol, mae hefyd wedi bod yn werth chweil.  Rydym yn gyffrous i fod yn defnyddio cynnyrch sy’n parhau i esblygu a gwella, gan ein helpu i ddiwallu anghenion ein hysgolion a’n cymunedau.”

On Thursday, June 19 our Education MIS Support and Training Officers Jan Picken and Karen Stubbs were invited to be guest speakers at Bromcom’s annual event at the iconic Shard building in London.

Beth mae ein hysgolion yn ei ddweud?

Fe wnaethom ofyn i rai o’n hysgolion ddweud wrthym am eu profiad o ddefnyddio cyfres meddalwedd SGR Bromcom.

Dywedodd Sarah Millington, Rheolwr Busnes Ysgol o Ysgol Gynradd Acton:  “Mae’r system wedi gallu symleiddio tasgau bob dydd i’n staff, sy’n golygu ei bod yn llawer mwy amser-effeithlon ac mae hefyd yn helpu gyda llwyth gwaith. 

“O gymharu â’n hen SGR, mae’r ffaith ei bod yn llawer haws i’w defnyddio yn galluogi pawb i gael mynediad at wybodaeth yn annibynnol sydd hefyd yn fudd mawr.  Mae wedi arbed swm sylweddol o arian i ni, gan ein bod yn gallu defnyddio’r modiwlau sydd wedi’u cynnwys yn ein pecyn Bromcom, yn hytrach na defnyddio meddalwedd trydydd parti, fel taliadau a negeseuon. 

“Fe wnaethon ni gyflwyno’r ap MCAS (MyChildAtSchool) hefyd sydd wedi cael adborth cadarnhaol gan rieni gan fod yr holl wybodaeth mewn un lle yn hytrach nag ar lawer o wahanol apiau.  Mae Bromcom wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar ein hysgol ac rydym yn falch iawn o’r newid!”

Dywedodd Mr Richard Hatwood, Pennaeth yr Holl Saint, Gresffordd:  “Mae Bromcom wedi trawsnewid sut rydym yn rheoli ac yn gweithio gyda data yn yr ysgol.  Rydym yn archwilio’n fanwl elfennau soffistigedig y rhaglen i gefnogi asesu o fewn y Cwricwlwm i Gymru ymhlith llawer mwy.”

Dywedodd Mrs Rebecca Billington, Pennaeth Park CP Llai: “Ers symud i Bromcom, yn Park CP Llai rydym wedi gweld gwelliant mawr yn y ffordd rydyn ni’n rheoli data ar draws yr ysgol. Er ein bod ni ond megis dechrau defnyddio’r system, mae’n teimlo’n naturiol i’w defnyddio, yn effeithlon ac mae eisoes wedi arbed amser gwerthfawr i staff. “Mae’r gallu i gael mynediad at bopeth mewn un lle – o bresenoldeb ac ymddygiad i asesiadau a chyfathrebiadau – wedi caniatáu i ni ddechrau trawsnewid y ffordd rydyn ni’n gweithio.  Mae’n system sydd wirioneddol yn cefnogi gwelliannau mewn ysgolion, gyda chymaint mwy o botensial yr ydym yn gyffrous i’w archwilio.”

Siop gwisgoedd ysgol ail-law am ddim yn agor yn yr Hwb Lles – Newyddion Cyngor Wrecsam

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae cyfleoedd gwaith newydd wedi glanio – darllenwch ymlaen i ddysgu mwy! Mae cyfleoedd gwaith newydd wedi glanio – darllenwch ymlaen i ddysgu mwy!
Erthygl nesaf Wrexham bus station - stand 5 Isio gwybod ble i ddal y bws gwennol o ganol dinas Wrecsam i’r Maes?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg

Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol

Awst 20, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Groundwork
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Eisiau dysgu rhywbeth newydd? Mae disgwyl i Groundwork Gogledd Cymru ddarparu dosbarthiadau dysgu cymunedol AM DDIM ar draws Wrecsam a Sir y Fflint

Gorffennaf 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English