Bydd Wrecsam yn ymuno â gweddill y DU i nodi 80 mlynedd ers Diwrnod VJ (Diwrnod Buddugoliaeth yn Japan) ddydd Gwener yma, 15 Awst.
Bydd gwasanaeth coffa byr wrth Gofeb Seren Burma ym Modhyfryd (ger y Gofadail), yn dechrau am 11:45am, a bydd yn cynnwys y tawelwch dwy funud genedlaethol am 12 hanner dydd.
Bydd y gwasanaeth o dan ofal y Parchedig Petra Goodband ac mae croeso i bawb fynychu.
Bydd cynrychiolwyr y Lluoedd Arfog hefyd yn bresennol.
Bydd digwyddiadau cymunedol eraill yn cael eu cynnal yn y fwrdeistref sirol ac ar hyd a lled Gogledd Cymru, gan gynnwys derbyniad – wedi’i drefnu gan Gyfeillion Parc Bellevue – yng nghanolfan gymunedol Parc Bellevue ar gyfer cyn-filwyr, ffrindiau a’u teuluoedd ar ôl y gwasanaeth ym Modhyfryd.
Mae Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yn Wrecsam, y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, wedi talu teyrnged i bawb a wasanaethodd yn Asia a’r Môr Tawel yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Dywedodd y Cynghorydd Parry-Jones: “Ddydd Gwener byddwn yn nodi 80 mlynedd ers diwedd y rhyfel gyda Japan, ac mae’n bwysig ein bod ni’n neilltuo amser i gofio pawb a wasanaethodd ac yr effeithiodd y gwrthdaro ofnadwy hwn arnyn nhw.
“Rydyn ni’n eu cofio nhw i gyd ar yr achlysur pwysig hwn, ac yn treulio amser yn myfyrio ar eu haberth a’u dioddefaint – yn enwedig y cyn-filwyr a’u teuluoedd.”
