Ydych chi wedi cael profiad proffesiynol neu bersonol o faethu, mabwysiadu, neu ofalu am blant i ffwrdd o’u teuluoedd biolegol?
Ydych chi’n angerddol am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant?
Os felly, byddai panel maethu Cyngor Wrecsam wrth eu bodd yn clywed oddi wrthych.
Ar hyn o bryd rydym yn bwriadu recriwtio aelodau panel newydd i ymuno â’n rhestr ganolog. Nid rolau cyflogedig yw’r rhain – yn hytrach, mae aelodau’r panel yn hunangyflogedig ac yn talu ffi fesul panel a fynychir.
Beth mae aelod o’r panel maethu yn ei wneud?
Mae aelodau’r panel yn chwarae rhan hanfodol yn gwneud argymhellion ynghylch cymeradwyo ac adolygu gofalwyr maeth. Mae’n rôl sy’n gofyn am ystyriaeth feddylgar, cyfranogiad gweithredol, ac ymrwymiad i gadw plant yn ddiogel a rhoi gofal da iddynt.
Fel aelod o’r panel, byddwch yn:
- darllen ac ystyried papurau achos cyn pob cyfarfod
- mynychu cyfarfodydd panel a chyfrannu at wneud penderfyniadau gwybodus, cytbwys
- defnyddio eich profiad proffesiynol neu bersonol eich hun i gefnogi trafodaethau cadarn
- cynnal egwyddorion cyfrinachedd, amrywiaeth ac arferion gwrth-wahaniaethol
- mynychu o leiaf un diwrnod hyfforddi y flwyddyn
- cymryd rhan mewn adolygiadau blynyddol o aelodaeth eich panel
Am bwy ydyn ni’n chwilio?
Nid oes angen i chi fod wedi bod yn ofalwr maeth nac yn weithiwr cymdeithasol – er bod y profiad hwnnw’n cael ei groesawu. Rydym yn chwilio am bobl sydd ag ymrwymiad cryf i les plant, sy’n gallu:
- deall anghenion plant mewn gofal
- dadansoddi gwybodaeth gymhleth
- gweithio’n dda mewn tîm
- cyfathrebu’n glir ac yn barchus
- dod â safbwyntiau a phrofiadau bywyd amrywiol
Rydym yn gwerthfawrogi lleisiau o bob cefndir ac yn croesawu datganiadau o ddiddordeb gan grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli.
Manylion ymarferol
- mae aelodau’r panel yn hunangyflogedig, ac yn derbyn ffi am bob panel a fynychir
- cynhelir paneli’n rheolaidd, ac rydym yn gofyn i’r aelodau ymrwymo i fynychu fel y cytunwyd
- mae rhywfaint o hyblygrwydd i fynychu paneli ychwanegol (os ar gael) yn ddefnyddiol
Dywedodd y Cynghorydd Robert Walsh, aelod arweiniol y gwasanaethau plant a theuluoedd: “Mae hwn yn gyfle cyfrifol ond gwerth chweil i helpu i lunio dyfodol plant a phobl ifanc yn Wrecsam. Gall eich barn a’ch profiad personol wneud gwahaniaeth parhaol. Os ydych chi’n teimlo bod hyn yn rhywbeth y byddech chi’n mwynhau bod yn rhan ohono, cysylltwch â ni.”
Oes gennych ddiddordeb?
Os hoffech wybod mwy am ymuno â’n panel maethu, cysylltwch â rheolwr y tîm maethu ar 01978 295310.