Daeth gweithwyr busnes proffesiynol ledled Wrecsam at ei gilydd yn ddiweddar ar gyfer digwyddiad undydd ysbrydoledig yng Nghae Ras Bangor Is-coed.
Yn cael ei weld fel llwyddiant mawr, roedd tua 200 o gynrychiolwyr yn bresennol yng nghynhadledd Dyrchafu Eich Busnes yn Wrecsam eleni – gan uno cymysgedd prin o gynrychiolwyr o amrywiaeth eang o sectorau busnes, o ficro-fentrau a busnesau bach a chanolig i gewri byd-eang.
Roedd y digwyddiad yn cynnig lle egnïol a deinamig ar gyfer rhwydweithio, rhannu syniadau a dathlu llwyddiant ar draws y fwrdeistref sirol.
Roedd y diwrnod hefyd yn gyfle i ddysgu mwy am brosiectau allweddol a fydd yn sbarduno twf economaidd yn yr ardal dros y blynyddoedd i ddod, gan gynnwys Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam, a chais y ddinas ar gyfer Dinas Diwylliant 2029.
Nawr yn ei hail flwyddyn, adeiladodd y gynhadledd ar fomentwm 2024, gan gynnig rhaglen fwy cynhwysfawr a mwy beiddgar. Ychwanegiad newydd oedd ardal stondinau masnach a blasu “Gwnaed yn Wrecsam”, lle roedd y mynychwyr yn gallu cefnogi a mwynhau arddangosfa o fwyd a diod lleol.
Roedd y digwyddiad eleni yn cynnwys amrywiaeth o brif siaradwyr, arweinwyr busnes ac arweinwyr prosiectau:
• Linda Moir – Cyn-Bennaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid yn Virgin Atlantic a Phennaeth Gwasanaethau Digwyddiadau yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012
• Martin McCourt – Cyn-Brif Swyddog Gweithredol Dyson
• Alistair Aldridge – Rheolwr Prosiect Porth Wrecsam
• Amanda Evans – Ymddiriedolaeth Cymuned a Diwylliant Wrecsam
• Andrew Harradine – Arweinydd Adfywio a Buddsoddi Busnes
• Iain Taylor – Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
• Henry Bradshaw – Rheolwr Rhaglen Datblygu Strategol (Gogledd Cymru) ar gyfer Trafnidiaeth Cymru
• Kerry MacKay – Sylfaenydd Scrubbies UK
• Valerie Creusailor – Sylfaenydd Goch & Co, Vuka a Partnership Plates
• Simon Thorpe – Prif Swyddog Gweithredol Jones’ Village Bakery
• Jamie Edwards – Pennaeth y Gymuned, Clwb Pêl-droed Wrecsam
• Mitesh Mistry – Uwch Brif Beiriannydd Proses yn Ipsen Biopharm
• Liam Stevenson – Rheolwr Systemau Gwaith yn Kellanova
Trwy gydol y dydd, roedd cynrychiolwyr yn cael gwybodaeth ymarferol a mewnwelediad strategol gan ffigurau blaenllaw yn eu diwydiant ac arloeswyr busnes lleol. Roedd pynciau’n amrywio o arweinyddiaeth a phrofiad cwsmeriaid i gynlluniau adfywio, ac arloesi mewn sectorau allweddol.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol y Cyngor dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth: “Roedd yn ddigwyddiad gwych, a oedd wir yn tynnu sylw at ba mor uchelgeisiol, cysylltiedig ac arloesol yw ein cymuned fusnes.
“Fe wnaeth cyfres anhygoel o siaradwyr ymuno â ni trwy gydol y dydd – o arweinwyr dyfeisgarwch ac arbenigwyr diwydiant, i entrepreneuriaid lleol sy’n mynd o nerth i nerth yn y byd busnes.
“Mae dod â busnesau lleol at ei gilydd i rwydweithio, rhannu syniadau a dysgu am gyfleoedd yn bwysig iawn, ac yn helpu i greu hyder, sydd yn ei dro yn gallu denu buddsoddiad a diddordeb pellach yn Wrecsam.
“Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb a fu’n rhan o gyflwyno digwyddiad mor ysgogol ac effeithiol, gan gynnwys y siaradwyr, y cynrychiolwyr a thîm busnes a buddsoddi’r Cyngor, a wnaeth waith aruthrol wrth drefnu’r gynhadledd. Mae’r adborth rydym wedi’i gael wedi bod yn anhygoel.”
Gwnaed Cynhadledd Dyrchafu eich Busnes yn Wrecsam 2025 yn bosibl o ganlyniad i gyllid a sicrhawyd gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Am fwy o wybodaeth ewch i GOV.UK: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: prosbectws
Os hoffech dderbyn copi o raglen y gynhadledd, anfonwch e-bost i: businessline@wrexham.gov.uk
Gellir dod o hyd i fanylion am y cymorth cyfrinachol a diduedd am ddim sydd ar gael i fusnesau cyn cychwyn a busnesau presennol yn Wrecsam, ynghyd â mewnfuddsoddwyr, drwy’r Adran Busnes a Buddsoddi ar wefan Cyngor Wrecsam.