Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwaith dymchwel i ddechrau ar gyfer prosiect ailddatblygu tai cymdeithasol mawr yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Gwaith dymchwel i ddechrau ar gyfer prosiect ailddatblygu tai cymdeithasol mawr yn Wrecsam
Arall

Gwaith dymchwel i ddechrau ar gyfer prosiect ailddatblygu tai cymdeithasol mawr yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 28, 2025 2:09 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
building with fencing surrounding
RHANNU

Y llynedd, cafodd cynlluniau i ddymchwel adeilad Greenacres ar Ffordd Rhosddu eu cymeradwyo gan Fwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam.

Yn flaenorol, canfu Adolygiad Llety Swyddfa fod yr adeilad yn cael ei danddefnyddio, felly mae staff Gofal Cymdeithasol a oedd gynt wedi’u lleoli yn Greenacres wedi symud i swyddfa barhaol yng nghanol y ddinas, gan adael yr adeiladau’n wag a’r safle’n barod i’w ailddatblygu.

Mae’r safle bellach yn barod ar gyfer y broses ddymchwel, a fydd yn dechrau ym mis Tachwedd.

Oherwydd ei fod mor agos at ganol y ddinas, mae’r safle’n ddelfrydol ar gyfer cynllun tai cymdeithasol.

Bydd y prosiect ailddatblygu’n cynnwys tua 58 o gartrefi newydd – a fydd yn un o brosiectau datblygu tai cymdeithasol mwyaf y Cyngor hyd yn hyn.

Mae hyn yn ailddatgan yr ymrwymiad i ddarparu tai fforddiadwy i ddeiliaid contract yn y dyfodol.

Bydd y gwaith dymchwel yn digwydd maes o law. Yn dilyn hyn, bydd proses dendro i ddod o hyd i bartner datblygu er mwyn dylunio ac adeiladu’r cartrefi newydd, yn amodol ar ganiatâd cynllunio.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweinydd dros Dai a Newid Hinsawdd, “Mae hyn yn cynrychioli un o’r prosiectau ailddatblygu tai cymdeithasol mwyaf, mewn lleoliad gwych, gan gynnig cyfle unigryw i adeiladu cartrefi o ansawdd uchel.

“Mae’n brawf clir o’n hymrwymiad i ddarparu tai fforddiadwy. Mae’r gwaith dymchwel yn caniatáu i ni gynllunio ar gyfer cam nesaf y broses.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Halloween Disco Drygioni dychrynllyd ar gyfer ysbrydion a bwganod bach
Erthygl nesaf Ambition North Wales Logo Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi’i Gymeradwyo – Carreg Filltir ar gyfer Cysylltedd Cynaliadwy

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English