Y Rhuban Gwyn yw’r symbol a gydnabyddir yn fyd-eang i roi terfyn ar drais dynion yn erbyn menywod a merched. Ers sefydlu mudiad y Rhuban Gwyn 36 mlynedd yn ôl yng Nghanada, mae’r Rhuban Gwyn wedi dod yn symbol pwysig yn y frwydr i roi terfyn ar drais ar sail rhywedd.
Ar ddydd Llun 24 Tachwedd 2025 rhwng 10:00am-1:00pm cynhelir digwyddiad Rhuban Gwyn yn Nhŷ Pawb.
Bydd amrywiaeth o sefydliadau lleol yn mynychu’r digwyddiad, a byddant wrth law i gynnig cyngor, cymorth, cefnogaeth ac i gyfeirio at ragor o wybodaeth i bawb sy’n bresennol; yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cydnabod arwyddion a symptomau cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Dywedodd y Cynghorydd Beverly Parry Jones, Hyrwyddwr Trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghyngor Wrecsam “Mae digwyddiadau Rhuban Gwyn yn Nhŷ Pawb bob amser wedi denu nifer dda o sefydliadau lleol sy’n cefnogi menywod, yn ogystal â phresenoldeb da gan aelodau o’r cyhoedd. “Bydd y digwyddiad hwn yn chwarae rhan bwysig yn codi ymwybyddiaeth o symptomau cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn ogystal â chael arbenigwyr wrth law i gynnig cymorth a chyngor.”


