Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwaith adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd - sesiwn ymgynghori galw heibio
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd – sesiwn ymgynghori galw heibio
Busnes ac addysg
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Gwaith adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle
Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Arall
Parking sign
Wrecsam yn erbyn Norwich – parcio cyfleus a diogel
Digwyddiadau Pobl a lle
financial hep
Nodyn Atgoffa: Gall POB plentyn yn yr ysgol gynradd gael prydau ysgol am ddim
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gwaith adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle

Gwaith adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: 2026/01/15 at 11:44 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
RHANNU

Mae gwaith adnewyddu uchelgeisiol Cyngor Wrecsam ym Marchnad y Cigyddion a’r Farchnad Gyffredinol wedi cael ei gydnabod gyda chanmoliaeth yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam, a gynhaliwyd ym mis Tachwedd. 

Yn dilyn buddsoddiad o £4m, dychwelodd masnachwyr i’r marchnadoedd ar eu newydd wedd ar gyfer eu hailagoriad ym mis Tachwedd 2024. Mae’r prosiect wedi creu gofod disglair a chroesawgar sy’n cyfuno’r gorau o draddodiad marchnadol Wrecsam â chyfleusterau modern ar gyfer siopwyr a busnesau heddiw.

Mae’r marchnadoedd sydd wedi’u hadfywio bellach yn cynnig amgylchedd deniadol i fasnachwyr sefydledig gan hefyd ddenu busnesau newydd i ganol y ddinas. Mae gofal mawr wedi’i gymryd i gadw’r cymeriad a’r dreftadaeth sydd wedi gwneud Marchnad y Cigyddion a’r Farchnad Gyffredinol yn gonglfeini bywyd lleol, wrth sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol.

Wrth roi’r ganmoliaeth, tynnodd Cymdeithas Ddinesig Wrecsam sylw at yr adeiladwaith, y gwaith o osod peiriannau awyru a gwasanaethau modern, ac agor rhannau o Farchnad y Cigyddion a oedd wedi bod yn segur ers degawdau.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros Economi, Busnes a Thwristiaeth: “Mae ein marchnadoedd yn rhan o hunaniaeth Wrecsam, ac roedd y prosiect hwn yn ymwneud â pharchu’r hanes hwnnw wrth wneud yn siŵr bod yr adeiladau’n addas i fasnachwyr a chwsmeriaid heddiw.

Mae gweld rhannau o Farchnad y Cigyddion yn cael eu defnyddio unwaith eto ar ôl cymaint o flynyddoedd wedi bod yn arbennig o foddhaus.

Mae’r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu’r gofal, y cydweithrediad a’r ymrwymiad a aeth i mewn i’r prosiect, ac ni fyddai wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth cyllid Llywodraethau’r DU a Chymru, chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ac ymroddiad ein swyddogion a’n partneriaid prosiect.”

Mae’r ganmoliaeth yn tynnu sylw at ymrwymiad Cyngor Wrecsam i fuddsoddi yn adeiladau hanesyddol y ddinas wrth gefnogi economi leol sy’n newid bob amser. Mae’r marchnadoedd ar eu newydd wedd yn darparu amgylchedd hyblyg gyda bywyd newydd a all barhau i esblygu, gan gefnogi busnesau lleol a sicrhau bod yr adeiladau poblogaidd hyn yn parhau i fod yn rhan annatod o ddyfodol cyffrous Wrecsam.

Rhannu
Erthygl flaenorol Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’ Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Erthygl nesaf Ysgol Gynradd Maes y Mynydd - sesiwn ymgynghori galw heibio Ysgol Gynradd Maes y Mynydd – sesiwn ymgynghori galw heibio

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ysgol Gynradd Maes y Mynydd - sesiwn ymgynghori galw heibio
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd – sesiwn ymgynghori galw heibio
Busnes ac addysg Ionawr 15, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Gwaith adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Ionawr 15, 2026
Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Arall Ionawr 14, 2026
Parking sign
Wrecsam yn erbyn Norwich – parcio cyfleus a diogel
Digwyddiadau Pobl a lle Ionawr 14, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Parking sign
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Norwich – parcio cyfleus a diogel

Ionawr 14, 2026
Wrexham city centre
Pobl a lle

Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol – rhannwch eich barn ar Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Wrecsam

Ionawr 12, 2026
Wrexham Wellbeing Hub Sensory Room
Pobl a lleY cyngor

Sesiwn ystafell synhwyraidd ar gael i deuluoedd drwy Hwb Lles Wrecsam

Ionawr 12, 2026
wellbeing hub
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Mae Hwb Lles Wrecsam yn cynnig lle cynhwysol ar gyfer partneriaeth Mannau Cynnes

Ionawr 8, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English