Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gweinidog Llywodraeth Cymru, Jayne Bryant AoS, yn ymweld â’r Hyb Creadigol newydd yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Gweinidog Llywodraeth Cymru, Jayne Bryant AoS, yn ymweld â’r Hyb Creadigol newydd yn Wrecsam
Busnes ac addysg

Gweinidog Llywodraeth Cymru, Jayne Bryant AoS, yn ymweld â’r Hyb Creadigol newydd yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 23, 2026 1:36 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Gweinidog Llywodraeth Cymru, Jayne Bryant AoS, yn ymweld â'r Hyb Creadigol newydd yn Wrecsam
RHANNU

Yr wythnos hon ymwelodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant AoS, â’r Hyb Creadigol yn yr Hen Lyfrgell yn Wrecsam a lansiwyd yn ddiweddar.

Diolch i gyllid grant gan fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae Cyngor Wrecsam wedi gallu trawsnewid yr adeilad hanesyddol hwn yn ofod hyblyg, ynni-effeithlon i entrepreneuriaid a busnesau o bob rhan o’r sector diwydiannau creadigol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant: “Mae’n drawiadol iawn gweld faint o waith sydd wedi mynd i mewn i drawsnewidiad ysblennydd yr Hen Lyfrgell yn ofod modern, wedi’i gynllunio’n glyfar i gefnogi sector creadigol cynyddol Wrecsam.

“Rwy’n falch ein bod wedi gallu cefnogi ailddatblygiad yr adeilad rhestredig Gradd II hwn, ar ôl iddo fod yn wag am sawl blwyddyn, gyda buddsoddiad o £2.9m trwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

“Roedd yn bleser mawr cwrdd â’r entrepreneur cyntaf i feddiannu’r Hwb, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y lle yn helpu mwy o fusnesau a phobl greadigol o bob cwr o’r rhanbarth i gyflawni eu breuddwydion.”

Jayne Bryant MS visits the Creative Hub in Wrexham

Cwblhawyd y gwaith ar adnewyddu’r adeilad ym mis Tachwedd, ac mae’r tenant busnes cyntaf wedi dechrau cyfnod preswyl – gyda thrafodaethau yn digwydd gyda dau gwmni arall sy’n defnyddio’r gofod.

Nod y cyngor yw datblygu a chadw talent o’r sector diwydiant creadigol, a’i ddenu yn ôl i Wrecsam – gan helpu i sicrhau bod mwy o bobl ifanc, rhieni, athrawon a busnesau yn gweld cyfleoedd lleol yn y sector.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth: “Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a’r DU, rydym wedi gallu rhoi bywyd newydd i adeilad hanesyddol sydd heb ei ddefnyddio, ac rydym yn gobeithio y bydd yr hwb yn dod yn ganolbwynt i ddiwydiannau creadigol ledled y rhanbarth.

“Mae’n ofod gwych lle gall diwylliant a thechnoleg ddod at ei gilydd, a bydd yn darparu amgylchedd gwych i fusnesau ac entrepreneuriaid sy’n gweithio ym maes ffilm, cerddoriaeth, gemau, marchnata, dylunio, darlledu a llawer o feysydd eraill.”

The Creative Hub in Wrexham

Rhannu
Erthygl flaenorol Efallai mai gweithio i ni yw eich cam nesaf! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf… Efallai mai gweithio i ni yw eich cam nesaf! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Erthygl nesaf Tŷ Pawb yn croesawu gwirfoddolwyr yn ôl i’r Ardd ar y To! Tŷ Pawb yn croesawu gwirfoddolwyr yn ôl i’r Ardd ar y To!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026
Horse Riders
Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion
Arall Pobl a lle
Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 21, 2026
Gwersyllt
Dan sylw: Rôl cynghorydd
Y cyngor
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 18, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Busnes ac addysg

Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith

Medi 15, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English