Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Digwyddiad lansio Heneiddio’n Dda Wrecsam yn dathlu ‘cyflawniad mawr’
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Digwyddiad lansio Heneiddio’n Dda Wrecsam yn dathlu ‘cyflawniad mawr’
Digwyddiadau

Digwyddiad lansio Heneiddio’n Dda Wrecsam yn dathlu ‘cyflawniad mawr’

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 3, 2026 11:44 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Digwyddiad lansio Heneiddio'n Dda Wrecsam yn dathlu 'cyflawniad mawr'
RHANNU

Mae Wrecsam yn falch o gyhoeddi ein bod wedi cyflawni statws Cymuned sy’n Dda i Bobl Hŷn Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn swyddogol, gan gydnabod ein hymrwymiad i wneud y sir yn lle gwych i dyfu’n hŷn.

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion:  “Mae’r cyflawniad mawr hwn yn adlewyrchu cydweithrediad gwirioneddol rhwng Cyngor Wrecsam, sefydliadau lleol, unigolion allweddol, gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol, a’r cyhoedd. Mae wedi cael ei lunio gan ymdrech, brwdfrydedd a dealltwriaeth ar y cyd gan bobl ledled y sir sy’n rhannu ymrwymiad i gefnogi heneiddio’n gadarnhaol.”

Dathlwyd y cyflawniad yn nigwyddiad lansio Heneiddio’n Dda Wrecsam a gynhaliwyd yn Nhŷ Pawb ar 12 Chwefror, a ddaeth â 54 o sefydliadau ynghyd i arddangos y cymorth helaeth sydd ar gael i bobl hŷn ledled y sir.

Digwyddiad lansio Heneiddio'n Dda Wrecsam yn dathlu 'cyflawniad mawr'
Digwyddiad lansio Heneiddio'n Dda Wrecsam yn dathlu 'cyflawniad mawr'

Agorwyd y digwyddiad gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a ganmolodd ymroddiad Wrecsam i greu amgylcheddau cynhwysol a chefnogol i bobl o bob oedran. Roedd yr ymweliad yn foment bwysig wrth ddathlu’r gydnabyddiaeth ryngwladol hon.

Digwyddiad lansio Heneiddio'n Dda Wrecsam yn dathlu 'cyflawniad mawr'
Digwyddiad lansio Heneiddio'n Dda Wrecsam yn dathlu 'cyflawniad mawr'

Fel rhan o’n gwaith parhaus, rydym yn falch o ddefnyddio’r enw Heneiddio’n Dda Wrecsam oherwydd bod heneiddio yn rhywbeth sy’n wynebu pawb, ac rydym i gyd eisiau heneiddio’n dda. Mae’r enw yn adlewyrchu ein cred y dylai heneiddio fod yn gadarnhaol, cael ei gefnogi a’i ddathlu.

Mae cyflawni statws Cymuned sy’n Dda i Bobl Hŷn WHO yn garreg filltir arwyddocaol i Wrecsam ac mae’n adlewyrchu gwaith caled sefydliadau lleol, trigolion a phartneriaid cymunedol sydd wedi ymrwymo i helpu pobl i gadw’n egnïol, yn annibynnol ac yn gysylltiedig wrth iddynt heneiddio.

Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2026/27 – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Ebrill!

Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru – Newyddion Cyngor Wrecsam

Rhannu
Erthygl flaenorol LGBTQ+ Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Erthygl nesaf St Mark's Car Park in Wrexham Maes Parcio Sant Marc wedi’i brynu i’w ailddatblygu

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam 2029
Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU
Pobl a lle
Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref
Pobl a lle Arall
Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Meet the Supertrees event
Pobl a lleDatgarboneiddio WrecsamDigwyddiadau

Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)

Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English