Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Maes Parcio Sant Marc wedi’i brynu i’w ailddatblygu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Maes Parcio Sant Marc wedi’i brynu i’w ailddatblygu
Arall

Maes Parcio Sant Marc wedi’i brynu i’w ailddatblygu

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 4, 2026 3:39 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
St Mark's Car Park in Wrexham
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam wedi prynu Maes Parcio Sant Marc i’w ailddatblygu.

Mae’r adeilad ychydig oddi ar Stryt y Rhaglaw, ger Y Werddon, ac roedd yn faes parcio aml-lawr preifat nes iddo gau yn 2020.

Nod y Cyngor yw ailddatblygu’r safle i greu gwell mynediad i’r cyhoedd rhwng Y Werddon, Stryt y Rhaglaw a Stryt y Brenin, ac i ddarparu cyfleuster ar gyfer bysus sy’n ymweld – gan helpu i gefnogi diwydiant twristiaeth sy’n tyfu yn y ddinas.

Bydd yr ailddatblygiad yn cefnogi Amgueddfa Wrecsam gerllaw pan fydd yn ailagor yn ddiweddarach eleni, yn ogystal ag Amgueddfa Bêl-droed Cymru newydd – y rhagwelir y bydd yn denu hyd at 80,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Rhannwyd y prosiect yn dri cham – caffael (wedi’i gwblhau), archwilio opsiynau, ac yna dymchwel ac ailddatblygu’r safle.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth: “Dros y blynyddoedd diwethaf, cafwyd rhai prosiectau adfywio mawr yn y ddinas, gan gynnwys Cynllun Treftadaeth Treflun y Stryt Fawr, adnewyddu marchnadoedd dan do Wrecsam, a’r Hen Lyfrgell yn Sgwâr y Frenhines yn cael ei defnyddio unwaith eto.

“Bydd prynu a datblygu safle Sant Marc yn datblygu ein huchelgeisiau cynyddol fel dinas ymhellach.”

Dywedodd y Cynghorydd Paul Roberts, yr Aelod Arweiniol dros Bartneriaethau: “Gydag Amgueddfa Wrecsam a’r Amgueddfa Bêl-droed gerllaw yn agor eu drysau yr haf hwn, mae hwn yn gaffaeliad gwych a fydd o fudd i bobl leol ac ymwelwyr – gan greu gwell mynediad i’r rhan hon o’r ddinas.

“Rydym hefyd yn gobeithio y bydd yr ailddatblygu yn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a pharcio anawdurdodedig yn yr ardal – dau fater sydd wedi bod yn bryder ers i’r maes parcio gau ychydig flynyddoedd yn ôl.

“Mae hwn yn brosiect cyffrous iawn i Wrecsam.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Digwyddiad lansio Heneiddio'n Dda Wrecsam yn dathlu 'cyflawniad mawr' Digwyddiad lansio Heneiddio’n Dda Wrecsam yn dathlu ‘cyflawniad mawr’
Erthygl nesaf Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau Wrecsam v Chelsea – dydd Sadwrn yma!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English