Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2026
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2026
Pobl a lle

Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2026

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 10, 2026 3:34 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Young Carers Action Day 2026
RHANNU

Cyn Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2026 (11 Mawrth), mae Cyngor Wrecsam yn falch o ailddatgan ei ymrwymiad i gydnabod a chefnogi’r gofalwyr ifanc rhyfeddol yn ein cymuned. 

Fel llofnodwr y Cyfamod Gofalwyr Ifanc, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo eu hawliau a sicrhau bod eu lleisiau yn helpu i lunio’r gwasanaethau y maent yn dibynnu arnynt.

Gan weithio’n agos gyda Credu, ein gwasanaeth gofalwyr ifanc a gomisiynwyd, rydym yn parhau i gryfhau’r cymorth sydd ar gael i bobl ifanc sy’n ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu, yn aml yn dawel a heb gydnabyddiaeth. Mae eu cyfraniad yn amhrisiadwy, ac mae’r diwrnod hwn yn cynnig cyfle pwysig i dynnu sylw at eu profiadau a dathlu eu gwytnwch.

Mae Credu WCD yn mynd ag wyth gofalwr ifanc, sydd i gyd yn aelodau gweithgar o Gyngor Gofalwyr Ifanc yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, i lawr i Gaerdydd ar 10 Mawrth i gymryd rhan mewn digwyddiad Hustings arbennig gydag Aelodau’r Senedd cyn etholiadau mis Mai.

Gan weithio ochr yn ochr â’r artist o Gymru Nathan Wyburn, mae’r Cyngor Ieuenctid wedi creu gwaith celf pwerus sy’n arddangos eu tri phrif addewid maniffesto, a fydd yn cael ei arddangos yn falch yn y Senedd.  Rydym yn falch iawn bod llawer o’r gofalwyr ifanc sy’n mynychu yn dod o Wrecsam, yn cynrychioli ein cymuned gydag angerdd, creadigrwydd ac ymrwymiad cryf i wneud newid.

Young Carers Aaction Day 2026

Y Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd: “Ar Ddiwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2026, rydym yn dathlu cryfder, tosturi a gwytnwch anhygoel gofalwyr ifanc ledled Wrecsam. Mae’r plant a’r bobl ifanc hyn yn cymryd cyfrifoldebau y tu hwnt i’w blynyddoedd, yn aml yn dawel a heb gydnabyddiaeth, ond mae eu cyfraniad i’w teuluoedd a’n cymuned yn ddifesur.

 “Rydym yn falch o weithio ochr yn ochr â Credu, ein gwasanaeth gofalwyr ifanc wedi ei gomisiynwyd, y mae ei dîm ymroddedig yn darparu cefnogaeth ragorol i ofalwyr ifanc a’u teuluoedd bob dydd. Mae eu gwaith yn helpu i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael eu hadnabod yn gynnar, bod pobl yn gwrando arnynt, a’u bod yn cael y gefnogaeth ymarferol ac emosiynol sydd ei hangen arnynt i gydbwyso gofalu gydag addysg, lles a’u huchelgeisiau eu hunain.

 “Fel awdurdod lleol rydym yn falch o fod yn llofnodwr y Cyfamod Gofalwyr Ifanc, gan ailddatgan ein hymrwymiad i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael eu cydnabod, eu cefnogi ac yn cael pob cyfle i ffynnu.”

Cynllun peilot ‘Strydoedd Ysgol’ wedi’i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol – Newyddion Cyngor Wrecsam

Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2026/27 – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Ebrill!

TAGGED:Gofalwyr Ifancyoung carers
Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Ty Pawb Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn Nhŷ Pawb
Erthygl nesaf Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026 Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English