Mae Cyngor Wrecsam yn galw ar blant lleol i gymryd rhan yn eu cystadleuaeth ‘Dylunio Arwydd’ i hyrwyddo atal baw cŵn.
Anfonwyd y gystadleuaeth i bob ysgol gynradd yn y fwrdeistref, gan ofyn i blant greu dyluniadau lliwgar i atgoffa pawb i godi baw eu cŵn a chadw ein mannau yn lân ac yn groesawgar.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Amgylcheddol: “Mae baw cŵn yn broblem sy’n effeithio ar bawb yn ein cymunedau. Mae’r gystadleuaeth hon yn ffordd wych o annog plant i rannu neges bwysig mewn modd creadigol a chadarnhaol. Rydym yn gobeithio y bydd eu dyluniadau yn helpu i atgoffa perchnogion cŵn i wneud y peth iawn a chadw Wrecsam yn lân i bawb.”
Bydd yr enillwyr lwcus yn cael gwahoddiad i gwrdd â’r maer a bydd eu dyluniadau’n cael eu troi’n arwyddion go iawn, a fydd yn cael eu gosod o amgylch ein cymunedau lleol.
Dywedodd y Maer Tina Mannering: “Mae hwn yn gyfle gwych i blant wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymunedau trwy greadigrwydd. Edrychaf ymlaen at gwrdd â’r enillwyr a’u llongyfarch ar gael eu dyluniadau wedi’u troi’n arwyddion a fydd yn helpu i hyrwyddo mannau glanach a mwy croesawgar ledled y fwrdeistref.”
Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw dydd Gwener 17 Ebrill 2026.
Gellir dychwelyd posteri a thaflenni cais wedi’u cwblhau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Ffordd yr Abaty, Stad Ddiwydiannol Wrecsam, Wrecsam, LL13 9PW. Gellir cyflwyno ceisiadau i’r dderbynfa, eu rhoi yn y blwch llythyrau neu eu hanfon drwy’r post. Fel arall, gellir e-bostio copïau wedi’u sganio i EnvironmentalAdmin@wrexham.gov.uk



