Mae Cyngor Wrecsam a Choleg Cambria wedi cytuno ar ffordd i symud ymlaen ar gyfer hen safle Ysgol Uwchradd Groves ger canol y ddinas.
Mae’r coleg, sy’n gwasanaethu miloedd o fyfyrwyr ar draws y rhanbarth, wedi mynegi diddordeb mewn caffael y safle i ehangu ei ddarpariaeth addysg yn Wrecsam.
Caeodd Ysgol Uwchradd Groves ei drysau yn 2006. Cafodd yr adeilad ei ddefnyddio wedyn gan staff y cyngor am ychydig flynyddoedd, ond mae wedi bod yn wag ers 2012.
Dim ond at ddibenion addysgol y gellir defnyddio’r safle sy’n eiddo i’r Cyngor oherwydd cyfamodau cyfreithiol sy’n dyddio’n ôl sawl degawd, a rhestrwyd yr adeilad gan Lywodraeth Cymru yn 2016 er mwyn ei atal rhag cael ei ddymchwel – gan roi terfyn ar ddyheadau’r Cyngor i adeiladu ysgol fodern newydd ar y safle.
Yn 2019, mynegodd cwmni gofal iechyd ddiddordeb mewn datblygu cyfleuster hyfforddi meddygol ar safle’r Groves. Cafwyd trafodaethau manwl, ond methodd y cynigion yn y pen draw.
Ar yr un pryd, bu Clwb Pêl-droed Wrecsam yn archwilio opsiynau i ddatblygu cyfleusterau hyfforddi ar hen gaeau chwarae’r ysgol, ond nid oedd y safle yn ddigon mawr.
Yn 2023, cyrhaeddodd safle’r Groves restr fer fel lleoliad posibl ar gyfer Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol newydd i Gymru, ond rhoddwyd gorau i’r prosiect yn ddiweddarach gan Lywodraeth Cymru oherwydd diffyg cyllid.
Mae trafodaethau yn parhau, ac mae adroddiad bellach yn debygol o fynd gerbron Bwrdd Gweithredol y cyngor yr haf hwn, yn gofyn am ganiatâd i gytuno ar delerau i drosglwyddo’r safle i’r coleg.
Bywyd newydd
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Rydym yn gweithio’n agos gyda Choleg Cambria i archwilio’r manylion, ond rydyn ni’n falch bod gennym ateb o’r diwedd ar gyfer y Groves.
“Mae’n costio llawer o arian i gadw’r adeilad gwag yn ddiogel ac mewn sefyllfa i wrthsefyll y tywydd, felly mae trosglwyddo’r safle i’r coleg yn gwneud llawer o synnwyr ariannol – a bydd hefyd yn rhoi bywyd newydd iddo.
“Rydyn ni wedi gweithio’n ddiflino i geisio dod o hyd i bwrpas newydd ar gyfer y safle hwn, ac nid yw wedi bod yn hawdd – mae’r cyfamod a’r statws rhestredig wedi ei gwneud hi’n anodd iawn – ond rydyn ni wedi dal ati ac rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Choleg Cambria.
“Ein nod yw mynd â’r adroddiad i’r Bwrdd Gweithredol ym mis Mehefin, gan fod hyn yn rhywbeth fydd â goblygiadau cyffrous iawn i addysg coleg yn Wrecsam.”
Dywedodd Yana Williams, Prif Weithredwr Coleg Cambria: “Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i fuddsoddi yn safle Groves.
“Bydd y gallu i ni wella ein cynnig addysg alwedigaethol gyda darpariaeth o safon fyd-eang a chyfleusterau o’r radd flaenaf yn Wrecsam yn diwallu anghenion addysg a hyfforddiant dysgwyr a chyflogwyr ymhellach.”



