Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhoi llais i iechyd meddwl: yr awdur Amelea yn rhannu ei cherdd bwerus 
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Rhoi llais i iechyd meddwl: yr awdur Amelea yn rhannu ei cherdd bwerus 
Pobl a lle

Rhoi llais i iechyd meddwl: yr awdur Amelea yn rhannu ei cherdd bwerus 

Diweddarwyd diwethaf: Mai 12, 2026 9:59 am
Rhannu
Darllen 9 funud
Rhoi llais i iechyd meddwl: yr awdur Amelea yn rhannu ei cherdd bwerus 
RHANNU

Mae cerdd deimladwy a gyfansoddwyd gan yr awdur lleol o Wrecsam, Amelea, yn cael ei rhannu fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl i annog sgwrs am iechyd meddwl, ac i atgoffa pobl bod cymorth ar gael. 

Mae’r gerdd, sydd wedi’i llunio o brofiad personol, yn cynnig cipolwg gonest a myfyriol ar frwydrau iechyd meddwl Amelea. Mae hi’n gobeithio y bydd ei geiriau yn siarad ag eraill a allai fod yn wynebu heriau tebyg, ac yn helpu pobl i deimlo’n llai unig.

Dywedodd Amelea, “Ddeng mlynedd yn ôl, cefais fy sefydliadu mewn ysbyty seiciatrig diogeledd isel, lleoliad lle roeddwn eisoes wedi treulio pedair blynedd o fy mywyd a lle byddwn yn parhau i dreulio’r pedair blynedd nesaf. Roeddwn i mewn lle tywyll iawn yn ystod y cyfnod hwnnw. Er bod fy ansawdd bywyd wedi gwella’n sylweddol ers hynny, rwy’n cario’r fersiwn honno o fy hun ynof fi.”  

“Mae’r ferch ifanc a oedd yn garcharor mewn dau garchar, waliau’r ysbyty a’i meddwl ei hun, weithiau’n teimlo’n estron i mi. Roeddwn i am i’m cerdd adlewyrchu profiad y fersiwn iau ohonof fi fy hun yn gywir.”

“Cefais fy ysbrydoli i gyfansoddi’r darn hwn ar ôl dod ar draws trend ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n dechrau gyda’r awgrym: “I met my younger self for coffee”, cyflwynwyd y trend gan y bardd Jennae Ceceila, lle postiodd fideo yn disgrifio cyfarfyddiad ffuglennol, myfyriol rhwng ei hunan presennol a fersiwn iau ohoni hi ei hun.”

“Mae llawer wedi newid i mi yn ystod y degawd diwethaf, ac roedd gen i ddiddordeb mewn archwilio sut y byddai cyfarfyddiad rhyngof fi a fersiwn iau ohonof fi fy hun yn datblygu.”

Mae’r gerdd hefyd yn rhoi cyfle i dynnu sylw at y rôl hanfodol y mae gofal cymdeithasol yn ei chwarae wrth gefnogi lles ein cymunedau. 

Mae timau gofal cymdeithasol yn cydweithio’n agos ag unigolion a theuluoedd yn ystod rhai o’r amseroedd anoddaf yn eu bywydau, gan gynnig tosturi, arweiniad a chefnogaeth. 

Dywedodd Amelea, “Heddiw, rwy’n byw yn annibynnol, gyda chymorth y Gwasanaeth Adfer a’u staff anhygoel. Rwy’n cael treulio amser gwerthfawr gyda fy anwyliaid, gan greu atgofion newydd sy’n disgleirio â diolchgarwch.”

“Rwy’n dal i brofi dyddiau lle nad yw fy iechyd meddwl yn berffaith, ond mae fy natur wydn yn rhoi’r nerth i mi godi pan fyddaf yn cwympo a pharhau i symud ymlaen. Mae fy nyled i gyd i’r fersiwn iau ohonof fi fy hun. Fyddwn i ddim yma hebddi hi. Fi yw hi, a hi yw fi.”

“Er fy mod weithiau’n dymuno bod fy nhaith wedi bod yn wahanol, fyddwn i ddim pwy ydw i heddiw. Rwy’n bwriadu defnyddio fy mhrofiadau i eirioli dros bwysigrwydd lleisiau Profiad Byw o fewn y system Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Edrychaf ymlaen at y dyfodol, yn ddiolchgar am y cyfle i weld beth sy’n dod nesaf.”

Trwy rannu ei cherdd, mae Amelea yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i sgyrsiau ehangach am iechyd meddwl ac adferiad, wrth helpu i daflu goleuni ar waith pob dydd Gofal Cymdeithasol, a’r cymorth y mae’n ei ddarparu ledled Wrecsam. 

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, yr Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles Oedolion, “Mae’r gerdd bwerus hon yn ein hatgoffa y gall brwydrau iechyd meddwl effeithio ar unrhyw un, a thu ôl i bob profiad mae person sy’n haeddu tosturi, dealltwriaeth a chefnogaeth. 

Rwyf am ddiolch i Amelea am rannu ei geiriau mor onest yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Trwy gyfraniadau fel hyn rydyn ni’n helpu i chwalu stigma ac annog sgyrsiau pwysig, ac yn tynnu sylw at y rôl werthfawr y mae ein gwasanaethau gofal cymdeithasol, iechyd a lles yn ei chwarae wrth gefnogi pobl ar draws ein cymunedau lleol.”

Rhennir cerdd Amelea isod:

Cwrddes i â fersiwn iau ohonof fi fy hun am goffi…

“Cwrddes i â fersiwn iau ohonof fi fy hun am goffi heddiw.

Chawson ni ddim coffi. Cawson ni baned o de, llugoer, mewn cwpan plastig. Roedd hi ar amser oherwydd nad oedd hi’n gallu gadael ac nid oedd ganddi unman arall i fynd iddo.  Roeddwn i ar amser oherwydd roeddwn i’n deall y pwysigrwydd. Roedd hi’n gwisgo ei dillad pob dydd o dop llewys hir, legins du a sliperi a oedd yn edrych fel eu bod wedi gweld dyddiau gwell. Roedd ei gwallt seimllyd wedi ei dynnu yn ôl i mewn i fyn, ni allai gofio’r tro diwethaf iddi ei olchi. Roeddwn i’n gwisgo fy hoff ffrog borffor, siôl les cyfatebol, bŵts brown hir a gemwaith aur haenog.

Eisteddodd ar y gadair freichiau atal cwsg, ei phengliniau wedi’u cyrlio i fyny i’w brest.  Syllodd arnaf gyda llygaid gwag. “Ers pryd rwyt ti’n gweithio yma?” gofynnodd.

“O, dydw i ddim yn gweithio yma,” meddwn i’n ysgafn gyda gwên. “Rwy wedi dod i dy weld.”

Mae ei llygaid yn newid ffocws, a chan fy ngweld yn glir mae hi’n gofyn, “Sut?”

Rwy’n oedi.

“Ni allaf ddweud wrthot ti sut. Hoffwn i pe bawn i’n gallu, wir. Hyd yn oed pe bawn i’n siarad â thi am oriau, gan esbonio’n fanwl bob profiad a arweiniodd ni at y pwynt hwn, ni fyddwn yn gallu dweud wrthot ti.”

Rwy’n gweld pefriad arall yn ei llygad yn diffodd, pelydr arall o obaith yn symud i ddu myglyd. Mae ei llygaid yn dechrau pylu wrth iddi ddychwelyd i’w meddwl. Mae hi’n hemoffilig emosiynol, yn ddall ac yn fyddar mewn drysfa sy’n llawn ceryntau trydanol a llafnau rasel.

“Y cyfan y gallaf ei ddweud wrthot yw ein bod ni’n ei wneud.”

Rwy’n estyn fy llaw a’i roi ar ei llaw hithau. Mae hi’n cilio wrth y cyffyrddiad ond yn cadw ei llaw yn yr unfan, yn ysu am gysylltiad dynol.

Rydw i eisiau sgrechian arni i ddal ati. Plis, dal ati.

Hoffwn i allu chwistrellu deng mlynedd o ofn, poen, dicter, llawenydd, datguddiadau a boddhad yn uniongyrchol i’w henaid fel y gall hi ddeall o’r diwedd; ond nid nawr yw ei hamser hi.

Rwy’n gwrthsefyll yr awydd i ddweud wrthi y bydd pethau’n gwella. Mae hi wedi clywed y geiriau hynny gymaint o weithiau maen nhw wedi colli pob ystyr. Rwy’n gwybod na fydd unrhyw beth rwy’n ei ddweud yn golygu unrhyw beth iddi beth bynnag. Mae ei meddwl wedi’i gau i ffwrdd, wedi’i lenwi’n llwyr â’r nod unigryw o beidio â bodoli. Mae poen dwfn o lwyd tywyll yn byw yn ei brest. Dim ond hi sydd â’r allwedd i ddianc, ac ni fydd hi’n dod o hyd iddi am ychydig flynyddoedd.

Mae hatch y clinig yn agor ac mae’n bryd i mi adael. Rydyn ni’n sefyll i fyny ac rwy’n ei chofleidio. Rwy’n teimlo ei henaid yn gwingo mewn anobaith, ac yn gweddïo y gall deimlo fy nghariad diamod yn gyfnewid. Ni fyddwn yn cwrdd am ddegawd. Dydw i ddim am adael iddi fynd, gan wybod popeth mae hi ar fin ei wynebu, ond mae’n hanfodol ei bod hi’n llywio’r daith hon hebdda i.

Cyn i mi adael rwy’n troi ati a dweud,

“Pan nad wyt ti’n cofio unrhyw beth arall, cofia ein bod ni’n ei wneud.””

Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl rhwng dydd Llun 11 Mai a dydd Sul 17 Mai 2026. I gael rhagor o wybodaeth am yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ewch i wefan y Sefydliad Iechyd Meddwl

Rhannu
Erthygl flaenorol Dechreuwch eich gyrfa gyda Chyngor Wrecsam – Cynllun Hyfforddi Amgylcheddol a Thechnegol a Chynllun Prentis peirianneg cerbydau modur Dechreuwch eich gyrfa gyda Chyngor Wrecsam – Cynllun Hyfforddi Amgylcheddol a Thechnegol a Chynllun Prentis peirianneg cerbydau modur
Erthygl nesaf Digwyddiad Heneiddio'n Dda Llwyddiannus yn dod â chymuned Wrecsam at ei gilydd Digwyddiad Heneiddio’n Dda Llwyddiannus yn dod â chymuned Wrecsam at ei gilydd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Awst 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English