Mae mesurau diogelwch ychwanegol yn cael eu cyflwyno yng nghanol dinas Wrecsam ac yng Ngorsaf Fysus Wrecsam yn dilyn buddsoddiad o £650,000 gan Gyngor Wrecsam.
O ddydd Llun 18 Mai, bydd OCS yn darparu diogelwch ychwanegol yng Ngorsaf Fysus Wrecsam rhwng 7am a 10pm, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, yr Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am Drafnidiaeth Strategol: “Mae Gorsaf Fysiau Wrecsam yn borth pwysig i ganol y ddinas ac rydyn ni am i drigolion, ymwelwyr a theithwyr deimlo’n ddiogel ac yn hyderus wrth ei ddefnyddio.”
“Bydd y buddsoddiad ychwanegol yn helpu i gryfhau trefniadau diogelwch, cefnogi’r gwaith sy’n digwydd eisoes gyda’n partneriaid, a sicrhau bod presenoldeb gweladwy yn yr orsaf fysus ac o’i hamgylch ac yng ngweddill canol y ddinas.”
Bydd y swyddfa wybodaeth yn yr orsaf fysus hefyd yn cael ei defnyddio gan Heddlu Gogledd Cymru, OCS a wardeiniaid canol y ddinas yn ôl yr angen, gan helpu partneriaid i weithio’n agosach gyda’i gilydd yn yr ardal.
Mae adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol hefyd yn cael eu hystyried gan y tîm Diogelwch Cymunedol a Heddlu Gogledd Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Roberts, yr Aelod Arweiniol ar gyfer Partneriaethau a Diogelwch Cymunedol: “Rydyn ni’n gwybod y gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith wirioneddol ar sut mae pobl yn teimlo pan fyddan nhw’n ymweld, yn gweithio neu’n teithio drwy ganol y ddinas.”
“Bydd y trefniadau ychwanegol hyn yn cefnogi’r gwaith partneriaeth ehangach sydd eisoes yn digwydd i fynd i’r afael â phryderon, rhoi sicrwydd a helpu i sicrhau bod problemau yn cael eu datrys cyn gynted â phosibl.”
“Bydden ni hefyd yn annog aelodau o’r cyhoedd i barhau i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau, gan fod hyn yn helpu i adeiladu darlun cliriach o ble mae angen adnoddau.”
Bydd wardeiniaid canol y ddinas yn gweithredu rhwng 10am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, a byddan nhw hefyd yn gweithio ar benwythnosau yn ystod digwyddiadau.
Bydd gan wardeiniaid hefyd bwerau i orfodi Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus yng nghanol y ddinas.
Mae teledu cylch cyfyng yng nghanol y ddinas yn parhau i gael ei fonitro 24 awr y dydd.
Anogir aelodau’r cyhoedd i roi gwybod am unrhyw faterion sy’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy ffonio 101, neu drwy roi gwybod ar-lein drwy wefan Heddlu Gogledd Cymru.



