Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mwy o drefniadau diogelwch ar gyfer Dinas Wrecsam a’i Gorsaf Fysus
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mwy o drefniadau diogelwch ar gyfer Dinas Wrecsam a’i Gorsaf Fysus
Pobl a lleY cyngor

Mwy o drefniadau diogelwch ar gyfer Dinas Wrecsam a’i Gorsaf Fysus

Diweddarwyd diwethaf: Mai 22, 2026 9:28 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Mwy o drefniadau diogelwch ar gyfer Dinas Wrecsam a’i Gorsaf Fysus
RHANNU

Mae mesurau diogelwch ychwanegol yn cael eu cyflwyno yng nghanol dinas Wrecsam ac yng Ngorsaf Fysus Wrecsam yn dilyn buddsoddiad o £650,000 gan Gyngor Wrecsam.

O ddydd Llun 18 Mai, bydd OCS yn darparu diogelwch ychwanegol yng Ngorsaf Fysus Wrecsam rhwng 7am a 10pm, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, yr Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am Drafnidiaeth Strategol: “Mae Gorsaf Fysiau Wrecsam yn borth pwysig i ganol y ddinas ac rydyn ni am i drigolion, ymwelwyr a theithwyr deimlo’n ddiogel ac yn hyderus wrth ei ddefnyddio.”

“Bydd y buddsoddiad ychwanegol yn helpu i gryfhau trefniadau diogelwch, cefnogi’r gwaith sy’n digwydd eisoes gyda’n partneriaid, a sicrhau bod presenoldeb gweladwy yn yr orsaf fysus ac o’i hamgylch ac yng ngweddill canol y ddinas.”

Bydd y swyddfa wybodaeth yn yr orsaf fysus hefyd yn cael ei defnyddio gan Heddlu Gogledd Cymru, OCS a wardeiniaid canol y ddinas yn ôl yr angen, gan helpu partneriaid i weithio’n agosach gyda’i gilydd yn yr ardal.

Mae adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol hefyd yn cael eu hystyried gan y tîm Diogelwch Cymunedol a Heddlu Gogledd Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Roberts, yr Aelod Arweiniol ar gyfer Partneriaethau a Diogelwch Cymunedol: “Rydyn ni’n gwybod y gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith wirioneddol ar sut mae pobl yn teimlo pan fyddan nhw’n ymweld, yn gweithio neu’n teithio drwy ganol y ddinas.”

“Bydd y trefniadau ychwanegol hyn yn cefnogi’r gwaith partneriaeth ehangach sydd eisoes yn digwydd i fynd i’r afael â phryderon, rhoi sicrwydd a helpu i sicrhau bod problemau yn cael eu datrys cyn gynted â phosibl.”

“Bydden ni hefyd yn annog aelodau o’r cyhoedd i barhau i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau, gan fod hyn yn helpu i adeiladu darlun cliriach o ble mae angen adnoddau.”

Bydd wardeiniaid canol y ddinas yn gweithredu rhwng 10am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, a byddan nhw hefyd yn gweithio ar benwythnosau yn ystod digwyddiadau.

Bydd gan wardeiniaid hefyd bwerau i orfodi Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus yng nghanol y ddinas.

Mae teledu cylch cyfyng yng nghanol y ddinas yn parhau i gael ei fonitro 24 awr y dydd.

Anogir aelodau’r cyhoedd i roi gwybod am unrhyw faterion sy’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy ffonio 101, neu drwy roi gwybod ar-lein drwy wefan Heddlu Gogledd Cymru.

Rhannu
Erthygl flaenorol Ymunwch â Tir Gwyllt i gymryd rhan mewn mentrau cadwraeth a chymunedol newydd i bawb Ymunwch â Tir Gwyllt i gymryd rhan mewn mentrau cadwraeth a chymunedol newydd i bawb
Erthygl nesaf Barod i roi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf… Barod i roi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English