Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ymunwch â Tir Gwyllt i gymryd rhan mewn mentrau cadwraeth a chymunedol newydd i bawb
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Ymunwch â Tir Gwyllt i gymryd rhan mewn mentrau cadwraeth a chymunedol newydd i bawb
Pobl a lle

Ymunwch â Tir Gwyllt i gymryd rhan mewn mentrau cadwraeth a chymunedol newydd i bawb

Diweddarwyd diwethaf: Mai 21, 2026 4:15 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Ymunwch â Tir Gwyllt i gymryd rhan mewn mentrau cadwraeth a chymunedol newydd i bawb
RHANNU

Erthygl gwadd – Tir Gwyllt

Mae’n bleser gan Tir Gwyllt gyhoeddi lansiad dau brosiect newydd arwyddocaol a fydd yn gwella cynefinoedd bywyd gwyllt, yn cefnogi llesiant cymunedol, ac yn gwneud gwirfoddoli ym maes cadwraeth yn fwy hygyrch ym mhob rhan o ogledd-ddwyrain Cymru.

Bydd y rhaglenni ar waith rhwng y gwanwyn 2026 a 2028, ac yn cael eu cynnal yng ngwarchodfeydd natur Tir Gwyllt yn Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Mae’r gwarchodfeydd yn gartref i rywogaethau pwysig gan gynnwys madfallod dŵr cribog, moch daear, ac ystlumod, ac maent wedi’u lleoli yng nghanol cymunedau preswyl neu’n agos iawn atynt, gan roi cyfle i bobl ddarganfod bywyd gwyllt ar garreg eu drws.

Prosiect Cadwraeth a Chymunedau

Diolch i gefnogaeth gan y Moondance Foundation, bydd Tir Gwyllt yn cyflwyno prosiect Cadwraeth a Chymunedau sy’n canolbwyntio ar wella cynefinoedd, meithrin sgiliau lleol, a chryfhau’r cysylltiad rhwng pobl â natur. Bydd y prosiect yn cynnwys:

  • Sesiynau gwirfoddoli wythnosol ledled y tair sir
  • Digwyddiadau i gysylltu’r gymuned â natur
  • Sesiynau addysg sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm i ysgolion cynradd

Bydd y gweithgareddau hyn yn helpu i gryfhau cynefinoedd ar gyfer y dyfodol tra’n helpu plant ac oedolion i ddysgu am rywogaethau a warchodir, pwysigrwydd amgylcheddau natur o ansawdd uchel, a sut mae ymdrechion cadwraeth lleol yn gysylltiedig â mynd i’r afael â heriau hinsawdd ehangach.

Prosiect Gwirfoddoli â Chymorth

Yn ogystal â hyn, mae Tir Gwyllt yn lansio prosiect Gwirfoddoli â Chymorth newydd er mwyn gwneud gwirfoddoli ym maes cadwraeth yn fwy hygyrch i bobl y gall fod angen cymorth ychwanegol arnynt i gymryd rhan. Ariennir y prosiect gan gynllun Grant Gwirfoddoli Cymru, a reolir gan CGGC, ac mae wedi’i anelu at unigolion niwroamrywiol neu bobl sy’n byw gyda heriau fel gorbryder, iselder, diffyg hyder, neu ynysu cymdeithasol.

Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn derbyn cymorth un-i-un wedi’i deilwra i’w helpu i symud ymlaen o’r cam ymsefydlu cychwynnol i gymryd rhan yn llawn mewn sesiynau gwirfoddoli i grwpiau yng ngwarchodfeydd Tir Gwyllt. Bydd cyfle i’r gwirfoddolwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau, gan gynnwys:

  • Rheoli coetiroedd a gwlyptiroedd
  • Creu cynefinoedd a chartrefi i fywyd gwyllt
  • Cymryd rhan mewn arolygon bywyd gwyllt
  • Helpu i gynnal mannau gwyrdd fel y gall y gymuned eu mwynhau

Nod y sesiynau hyn yw meithrin hyder, cefnogi cysylltiad cymdeithasol, a helpu gwirfoddolwyr i gyflawni nodau personol drwy gymryd rhan mewn ffordd ystyrlon yn y maes cadwraeth natur.

Gyda’i gilydd, mae’r ddau brosiect hyn yn fuddsoddiad sylweddol yn yr amgylchedd naturiol a llesiant cymunedau ym mhob rhan o ogledd-ddwyrain Cymru. Trwy wella cynefinoedd, creu cyfleoedd newydd i gysylltu â natur, a chael gwared ar y rhwystrau sy’n atal pobl rhag cymryd rhan, nod Tir Gwyllt yw sicrhau buddion tymor hir i bobl a bywyd gwyllt.

Awydd cymryd rhan? Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Tir Gwyllt neu cysylltwch â Tir Gwyllt ar 01978 757524 neu info@wild-ground.org.uk

Rhannu
Erthygl flaenorol MEWN HARMONI: MAE SÎN GERDDORIAETH WRECSAM YN DOD GYDA'I GILYDD I GEFNOGI CAIS DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029 MEWN HARMONI: MAE SÎN GERDDORIAETH WRECSAM YN DOD GYDA’I GILYDD I GEFNOGI CAIS DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029
Erthygl nesaf Mwy o drefniadau diogelwch ar gyfer Dinas Wrecsam a’i Gorsaf Fysus Mwy o drefniadau diogelwch ar gyfer Dinas Wrecsam a’i Gorsaf Fysus

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English