Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Canolfan Adnoddau Acton – y cyngor wedi ymrwymo i ddod o hyd i’r ateb gorau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Canolfan Adnoddau Acton – y cyngor wedi ymrwymo i ddod o hyd i’r ateb gorau
Y cyngor

Canolfan Adnoddau Acton – y cyngor wedi ymrwymo i ddod o hyd i’r ateb gorau

Gallai opsiynau newydd gynnwys ymestyn yr adeilad...

Diweddarwyd diwethaf: Mai 22, 2026 5:25 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Acton Resource Centre
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam yn adolygu cynigion ar gyfer Canolfan Adnoddau Acton ar ôl gwrando ar adborth gan breswylwyr, cynghorwyr a grwpiau cymunedol.

Mae’r cyngor wedi bod yn casglu adborth ar gynlluniau i adleoli ei wasanaeth gofal dydd i bobl ag anghenion cymhleth o Ganolfan Cunliffe yn Rhos-ddu i Ganolfan Adnoddau Acton.

Fodd bynnag, mae’r cyngor yn caniatáu i ymgysylltu pellach ac opsiynau gael eu harchwilio – mae hyn yn cynnwys y potensial i ymestyn yr adeilad fel y gellir ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau dydd a gan grwpiau cymunedol.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Mae dod o hyd i leoliad newydd ac addas ar gyfer ein gwasanaeth dydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Mae Canolfan Cunliffe wedi gweld dyddiau gwell ac mae angen gwell cyfleuster arnon ni i gefnogi pobl ag anghenion cymhleth.

Bydd cyfnod pellach o ymgysylltu nawr yn digwydd gyda chynghorwyr lleol, grwpiau cymunedol sy’n defnyddio Canolfan Adnoddau Acton, a theuluoedd sy’n dibynnu ar y gwasanaeth dydd a ddarperir gan ofal cymdeithasol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Pritchard: “Un o’r posibiliadau rydyn ni am ei archwilio yw’r opsiwn i ymestyn yr adeilad i greu mwy o le – gan sicrhau bod y cyfleuster ar gael i’w ddefnyddio gan y gymuned ochr yn ochr â’r gwasanaeth dydd.

“Byddai ymestyn yr adeilad yn amlwg yn costio arian, ond byddwn ni’n gweithio’n ddiflino i ddod o hyd i’r cyllid hwnnw os yw’r syniad yn ymarferol.”

Bydd manylion ynghylch pryd a sut y gall pobl leol, grwpiau, cynghorwyr a defnyddwyr gwasanaeth rannu mwy o adborth yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.

Yn y cyfamser, mae grwpiau sy’n defnyddio’r ganolfan adnoddau wedi cael gwybod bod unrhyw gyfnodau rhybudd blaenorol wedi’u hymestyn o ddau fis, gan ganiatáu iddyn nhw barhau i ddefnyddio’r safle tan o leiaf Awst 1 (2026).

Dywedodd y Cynghorydd Pritchard: “Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhoi adborth hyd yma – mae eu barn nhw’n bwysig ac fel cyngor rydyn ni’n gwrando a does dim ofn arnon ni i ailedrych ar bethau.

“Rydyn ni eisiau datrysiad sy’n gallu diwallu anghenion defnyddwyr Canolfan Adnoddau Acton a darparu gwasanaethau dydd modern i oedolion – gan greu dyfodol hirdymor cynaliadwy i’r ased cymunedol hwn.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Barod i roi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf… Barod i roi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Erthygl nesaf Camwch i'r haf gyda Gŵyl Gerdded Wrecsam 2026 Camwch i’r haf gyda Gŵyl Gerdded Wrecsam 2026

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Gresford memorial wheel
Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026
Horse Riders
Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion
Arall Pobl a lle
Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Crematorium
Y cyngor

Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan

Medi 16, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English