Ydych chi’n ailgylchu gwastraff bwyd gyda ni? Os nad ydych chi’n gwneud hynny eisoes, dylech chi wir ddechrau…
Yn y bôn, mae ailgylchu bwyd dros ben yn syml, ac yn llawer mwy hylan na’u rhoi yn eich biniau eraill.
Mae gan ein gwasanaeth ailgylchu bwyd bopeth yn ei le eisoes, felly cewch y pethau sydd eu hangen arnoch i ailgylchu gwastraff bwyd yn hawdd. Mae’n gweithio fel hyn:
- Rydyn ni’n cynnig cadis bwyd am ddim (i’w harchebu’n hawdd ar ein gwefan)
- Rydyn ni’n darparu leiniau cadis am ddim i chi eu defnyddio (fe ddysgwch sut mewn eiliad)
- Yna rydyn ni’n casglu eich gwastraff bwyd wrth ymyl y palmant yn wythnosol
Mae yna gwpl o ffyrdd y gallwch chi gael ein leiniau cadis am ddim. Dyma beth sydd angen i chi ei wneud…
1. Eu casglu o dros 40 o leoliadau yn Wrecsam
Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gasglu leiniau cadis am ddim a sachau glas newydd mewn amrywiaeth o leoliadau yn Wrecsam, gan gynnwys nifer o siopau cyfleusterau, swyddfeydd ystadau, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu?
Rydyn ni wedi eu hailstocio yn ddiweddar, felly gallwch alw heibio i un o’r safleoedd lleol a chasglu’r eitemau am ddim pan fydd eu hangen arnoch.
2. Clymwch leinin i handlen eich cadi
Gallwch gael ein leininau cadis am ddim trwy glymu leinin gwag i handlen eich cadi ar eich diwrnod casglu a bydd y criw ailgylchu yn gadael rholyn newydd i chi.
Mae’r criwiau ailgylchu hefyd yn cario sachau glas ar eu cerbyd, felly gallwch ofyn i un o’r tîm am un newydd y tro nesaf y byddwn yn casglu o’ch stryd.
“Anelu at ei gwneud hi’n hawdd i drigolion ailgylchu yn Wrecsam”
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: “Mae’r leiniau cadis am ddim (ar gyfer ailgylchu gwastraff bwyd) a’r sachau glas (ar gyfer ailgylchu papur a chardbord) ar gael mewn dros 40 o leoliadau ledled y fwrdeistref sirol, gan ein bod yn anelu at ei gwneud hi’n hawdd i drigolion ailgylchu yn Wrecsam.
“Neu os yw’n well gennych, gallwch glymu leinin i’ch cadi bwyd ar eich diwrnod casglu, a bydd y criw yn gadael rholyn i chi. Maen nhw hefyd yn cario sachau glas ar y wagenni os oes angen un newydd arnoch hefyd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ailgylchu eich bwyd dros ben gyda ni – mae’n gwneud gwahaniaeth mawr.”
Archebwch gadi newydd yn hawdd ar-lein
Rydyn ni’n cynnig cadis newydd am ddim, felly os nad oes gan eich cartref gadi cegin neu gadi ymyl ffordd ewch ati i archebu un newydd.
Gallwch ofyn am gadi bwyd newydd yn hawdd ar ein gwefan, lle gallwch chi hefyd archebu blychau ailgylchu newydd os oes eu hangen arnoch.
Beth sy’n mynd yn eich cadi bwyd?
Yn ogystal â phopeth y byddwch chi eisoes yn gwybod amdano, edrychwch ar y rhestr hon sy’n nodi rhai o’r bwydydd nad ydych chi o reidrwydd yn meddwl amdanyn nhw, fel:
- Bwydydd sydd wedi mynd yn hen
- Esgyrn a charcasau
- Plisg wyau
- Crwyn bananas (a chrwyn eraill)
- Calonnau afalau
- Gronynnau coffi
- Bwydydd amrwd
- Bwydydd sydd wedi llwydo
- Gweddillion oddi ar y plât
- Prydau parod heb eu bwyta
- Bwyd cyflym (e.e. sglodion a pizzas)
- Pysgod cregyn
Pethau nad ydyn ni am i chi geisio eu hailgylchu fel gwastraff bwyd yw hylifau (fel olew neu laeth), deunydd pecynnu, bagiau plastig, clytiau neu wastraff gardd.
Dysgwch fwy am yr hyn y gellir ei ailgylchu ar ein gwefan.
Gwaith torri glaswellt wedi’i drefnu ar gyfer coridor yr A483 – Newyddion Cyngor Wrecsam




