Mae llythrennau eiconig WRECSAM yn paratoi i ddechrau pennod nesaf eu taith yr wythnos hon, wrth iddyn nhw symud i Stori Brymbo – un o atyniadau i ymwelwyr mwyaf newydd a mwyaf arwyddocaol Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Yn dilyn ymddangosiad cyntaf hynod lwyddiannus yn Sgwâr y Frenhines yn gynharach eleni, lle bu miloedd o drigolion ac ymwelwyr yn tynnu lluniau gyda’r gosodwaith nodedig, bydd y llythrennau nawr yn cael lle blaenllaw yn Stori Brymbo fel rhan o raglen ehangach i arddangos rhai o gyrchfannau mwyaf eiconig Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Wedi’u creu gan y cerflunydd llif gadwyn enwog Simon O’Rourke o goeden dderw 200 mlwydd oed a gwympodd yn ystod stormydd yn Nhrefalun, mae’r llythrennau yn dathlu treftadaeth, diwylliant a hunaniaeth gyfoethog Wrecsam.
Mae’r gosodwaith yn ymgorffori cerfiadau cymhleth sy’n darlunio tirnodau, straeon a chymunedau allweddol o bob rhan o’r fwrdeistref sirol.
Mae’r symudiad yn nodi cam cyntaf taith sydd wedi’i chynllunio, gan ganiatáu i’r llythrennau gael eu mwynhau gan gynulleidfaoedd newydd wrth annog trigolion ac ymwelwyr i archwilio gwahanol rannau o Sir Wrecsam.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae llythrennau WRECSAM eisoes wedi dal dychymyg trigolion ac ymwelwyr.
“Eu symudiad i Stori Brymbo yw’r union beth a ragwelwyd pan gafodd y prosiect ei greu – mynd â’r gosodwaith eiconig hwn i wahanol leoliadau ar draws y fwrdeistref sirol, cefnogi twristiaeth, annog archwilio ac arddangos y gorau o Wrecsam.”
Mae Stori Brymbo ar fin dod yn un o atyniadau treftadaeth mwyaf cyffrous Gogledd Cymru, gan adrodd stori Gwaith Dur Brymbo a’r cymunedau a helpodd i lunio etifeddiaeth ddiwydiannol yr ardal. Bydd llythrennau WRECSAM yn rhoi croeso trawiadol i ymwelwyr a chyfle newydd poblogaidd i dynnu lluniau.
Dywedodd Nicola Eaton-Sawford, o Dyma Wrecsam a Phrif Weithredwr Stori Brymbo: “Mae llythrennau WRECSAM wedi dod yn symbol poblogaidd o falchder yn ein bwrdeistref sirol, felly rydyn ni’n falch iawn o’u croesawu i Stori Brymbo.
“Fel un o atyniadau i ymwelwyr newydd mwyaf cyffrous Wrecsam, mae’n lleoliad addas i barhau â’u taith, gan helpu ymwelwyr i ddathlu ein treftadaeth a’n dyfodol wrth annog archwilio popeth sydd gan Wrecsam i’w gynnig.”
Ariannwyd llythrennau WRECSAM drwy raglen Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru a’u cyflwyno drwy bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Dyma Wrecsam ac amrywiaeth o sefydliadau a busnesau lleol.
Bydd lleoliadau pellach ar gyfer taith y llythrennau ledled y sir yn cael eu cyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf.
Anogir trigolion ac ymwelwyr i ymweld â Stori Brymbo dros yr haf a rhannu eu lluniau gan ddefnyddio #DymaWrecsam a #WRECSAM.
Mae tocynnau bellach ar werth yn Stori Brymbo.
Byddwch yn un o’r cyntaf i gael y profiad, neu galwch heibio am goffi neu ginio.




