Yr haf hwn, rydyn ni’n cefnogi Bydd Wych. Ailgylcha. gan Cymru yn Ailgylchu!
Mae gan bob peth ailgylchadwy stori i’w hadrodd sy’n parhau ar ôl iti orffen gydag ef. Rho fe yn y bin cywir i gadw deunyddiau gwerthfawr mewn cylchrediad am flynyddoedd i ddod.
Dyma saith o ffefrynnau’r ŵyl sy’n barod am eu perfformiad nesaf.
1. Y botel ddiod sy’n barod am ei brif set nesaf
Ar ôl torri dy syched am ddiwrnod o ddawnsio, mae gan y botel ddiod blastig ddigon ar ôl yn y tanc. Mae cyfle nesaf y botel i serennu’n dechrau gyda’r bin cywir.
2. Y can sy’n cynllunio ei ddychweliad yn barod
Mae caniau diod alwminiwm yn un o sêr y byd ailgylchu. Gellir eu hailgylchu dro ar ôl tro heb ddirywiad mewn ansawdd, sy’n eu gwneud yn un o sêr anfarwol y byd ailgylchu.
Rho’r can yn y bin cywir a gallai fod yn ôl ar y llwyfan ymhell cyn y tymor gwyliau nesaf.
3. Y botel wydr sy’n gofyn am un gân arall
Mae gwydr yn ddeunydd arall sy’n hoffi encôr. Gellir ei ailgylchu’n ddiddiwedd a’i drawsnewid yn boteli a jariau newydd dro ar ôl tro.
4. Y botel eli haul sy’n helpu i gadw’r amseroedd da’n llifo
Mae eli haul yn un o hanfodion yr haf. Ond ’dyw’r gwaith ddim yn dod i ben pan mae’r botel yn wag.
Pan gaiff ei ailgylchu, gellir troi’r plastig yn nwyddau newydd, gan helpu deunyddiau gwerthfawr i aros yn ddefnyddiol yn hirach. Mae’r un peth yn wir am lawer o’r hanfodion bob dydd rydyn ni’n eu cludo gyda ni, o bethau ymolchi i lanweithydd dwylo i erosolau. Rho nhw yn y bin cywir.
Diogelu ’chydig ar dy groen. Diogelu ’chydig ar y blaned hefyd.
5. Y ffoil sy’n gwrthod gadael y dawnslawr
P’un a lapio’r frechdan, rôl frecwast neu dy hoff fyrbryd gŵyl oedd e, ffoil sydd ag un o’r gyrfaoedd ailgylchu hiraf. Sy’n golygu y gallai’r belen fach yna o ffoil fod yn gwneud gwahaniaeth ymhell ar ôl iti dynnu band arddwrn yr ŵyl.
6. Y pot iogwrt sy’n barod am rownd arall o hwyl
O frecwast i fyrbrydau oddi cartref, mae potiau a thybiau yn rhan annatod o bicnic.
Paid â gadael i’r hwyl stopio ar ôl bwyta. Pan gânt eu hailgylchu’n gywir, gellir troi potiau a thybiau plastig yn nwyddau a deunydd pacio newydd, gan helpu i gadw deunyddiau gwerthfawr mewn cylchrediad yn hirach.
Gallai pot iogwrt heddiw fod yn dwb hwmws fory. Sôn am weddnewidiad!
7. Y croen banana gydag addewid annisgwyl
Mae rhai o’r perfformwyr mwyaf trawiadol yn gwbl ddiymhongar. Felly pan fyddi di’n mwynhau Cymru’r haf hwn gwna’n siŵr bod dy holl wastraff bwyd – o greiddiau afalau a chrwyn na ellir eu bwyta, i fagiau te, plisgyn wyau ac esgyrn – yn mynd i’r bin gwastraff bwyd.
Mae pob act wych yn haeddu encôr
O boteli a chaniau i botiau iogwrt a chrwyn bananas, mae gan bob eitem ailgylchadwy’r potensial i wneud rhywbeth anhygoel ar ôl i ti orffen â hi.
Felly pan fyddi di allan yn mwynhau gwyliau, digwyddiadau a diwrnodau allan ledled Cymru’r haf hwn, rho’r encôr haeddiannol i dy ailgylchu. Dewisa’r bin cywir.
Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch.
Ailgylchwch eich cartonau (Tetra Pak) yn hawdd wrth ymyl y ffordd – Newyddion Cyngor Wrecsam





