Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Oes gennych chi sgript Dirgelwch Llofruddiaeth ynoch chi?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Oes gennych chi sgript Dirgelwch Llofruddiaeth ynoch chi?
DigwyddiadauPobl a lle

Oes gennych chi sgript Dirgelwch Llofruddiaeth ynoch chi?

Diweddarwyd diwethaf: Awst 5, 2026 11:38 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Oes gennych chi sgript Dirgelwch Llofruddiaeth ynoch chi?
RHANNU

Erthygl Gwadd – Llyfrgelloedd Wrecsam a Thîm Gwyl Geiriau Wrecsam

Mae gŵyl lenyddol Wrecsam yn galw ar dditectifs dirgelwch llofruddiaeth lleol i gymryd rhan yn eu cystadleuaeth ysgrifennu sgriptiau blynyddol. Mae Gŵyl Geiriau Wrecsam yn cynnal noson dirgelwch llofruddiaeth flynyddol yn ystod ei dathliad blynyddol o lyfrau, darllen ac awduron ac mae’n galw am gyflwyno sgriptiau ar gyfer digwyddiad 2027.

Mae’r gystadleuaeth yn gofyn i ymgeiswyr greu sgript pedair rhan, ynghyd â chyfaddefiad, ar gyfer dau gymeriad gwrywaidd a dau gymeriad benywaidd ac mae digon o sgôp i ehangu’r senario trwy osod cyd-destun y llofruddiaeth a’r ymchwiliad, a thrwy nodi’r lleoliad a’r cyfnod y mae’n digwydd. Does dim ffi am gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Bydd y sgript fuddugol yn cael ei chyflwyno gan bedwar actor amatur a fydd yn darllen/actio rhan pob cymeriad yn nigwyddiad Dirgelwch Llofruddiaeth Gŵyl Geiriau Wrecsam ar 28 Ebrill 2027.

Mae’r gallu i gynnwys y gynulleidfa yn y dirgelwch llofruddiaeth wrth iddyn nhw chwarae rôl ditectif yn allweddol. Mae curadu’r cymeriadau yn y sgript yn hanfodol i lwyddiant y plot, gydag arc y naratif yn ei gwneud hi’n glir i ba gyfeiriad mae’r stori’n mynd. Yr awdur sydd i ddewis pa mor gynnil neu amlwg maen nhw eisiau bod gyda’r cliwiau a bydd angen i chi gamarwain bob hyn a hyn!

Bydd y gystadleuaeth ar agor rhwng 1 Awst 2026 a 30 Hydref 2026 a bydd yn cael ei beirniadu gan awdur trosedd lleol adnabyddus a llwyddiannus. Mae gwobr o £100 a bydd y sgript fuddugol yn cael ei pherfformio yng Ngŵyl Geiriau Wrecsam 2027. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn y digwyddiad lansio cyhoeddus ar gyfer yr Ŵyl Geiriau ym mis Mawrth 2027.

Mae Gŵyl Geiriau Wrecsam yn hyrwyddo ac yn annog ysgrifennu o safon gan selogion lleol a bydd y noson Dirgelwch Llofruddiaeth yn un digwyddiad mewn rhaglen wythnos o hyd o ddigwyddiadau diddorol ac amrywiol sy’n ymwneud â llyfrau. Mae Gŵyl Geiriau Wrecsam yn ŵyl lenyddiaeth flynyddol a bydd yn cael ei chynnal yn ystod yr wythnos rhwng 24 a 30 Ebrill 2027.

Mae’r Gystadleuaeth Dirgelwch Llofruddiaeth ar agor o 1 Awst 2026 a gellir cael ffurflenni cais a chanllawiau llawn gan unrhyw lyfrgell leol neu o’r wefan Gŵyl Geiriau Wrecsam.

Rhannu
Erthygl flaenorol Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Erthygl nesaf Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 6, 2026
The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English