Bydd Tattoo Cymru yn dychwelyd i Neuadd William Aston ar ddydd Sadwrn 5 Medi 2026, gan ddod â noson gofiadwy arall o gerddoriaeth, pasiant, cofio a pherfformiad i Wrecsam.
Bydd Band Cyngerdd Cymdeithas y Môr-filwyr Brenhinol yn ganolog i’r sioe eleni, sef Salíwt i Filwr y Môr, gan rannu straeon pwerus Môr-filwyr Brenhinol a morwyr y mae eu hetifeddiaeth wedi’i gwreiddio’n ddwfn yn hanes Cymru.
Gall cynulleidfaoedd edrych ymlaen at raglen wych o berfformiad byw, sy’n cyfuno traddodiad milwrol, diwylliant Cymreig a rhagoriaeth gerddorol. Bydd rhestr ragorol o berfformwyr gwadd yn ymuno â’r Band Cyngerdd, gan gynnwys cantorion clasurol Cymreig a rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol Britain’s Got Talent, Richard ac Adam Johnson, ochr yn ochr â Phibau a Drymiau Cymdeithas Gwarchodlu yr Alban.
Bydd y noson hefyd yn cynnwys perfformiadau gan Ava Gordon Butler a Sean Clark Wilkinson, yn ogystal â llu o berfformwyr traddodiadol Cymreig sy’n dathlu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog y genedl. Mae’r rhain yn cynnwys y dawnsiwr clocsiau Cymreig penigamp Dan Jones, y pibydd traddodiadol Cymreig Tim Eastwood, a newydd-ddyfodiad i Datŵ Cymru, y cerddor gwerin Cymreig Geraint Owens.
Hefyd yn perfformio bydd Corfflu Drymiau Cyn-filwyr Gogledd-orllewin Lloegr, sefydliad cerddoriaeth milwrol dielw sy’n darparu cymorth gan gymheiriaid, lles meddyliol ac ymgysylltu â’r gymuned ar gyfer cyn-bersonél y gwasanaeth a gwasanaethau mewn gwisg, a Chadetiaid Môr Cei Connah, TS Tuscan, gan gryfhau cysylltiadau’r sioe â thraddodiad, gwasanaeth a chymuned morwrol.
Wedi’i gyflwyno atoch gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a GB Pageants, mae Tattoo Cymru wedi dod yn ddigwyddiad nodedig yng nghalendr digwyddiadau Wrecsam, gan gyfuno hanes, sgiliau a golygfa mewn ffordd sy’n parhau i atseinio gyda chynulleidfaoedd o bob oed.
Dwedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Pencampwr y Lluoedd Arfog: “Mae Tattoo Cymru bob amser yn achlysur arbennig, ac mae Salíwt i Filwr y Môr eleni yn argoeli i fod yn noson bwerus a chofiadwy.
“Mae’n ffordd wych o ddod â phobl at ei gilydd, dathlu doniau ein perfformwyr milwrol a chymunedol, ac anrhydeddu straeon rhyfeddol sy’n gysylltiedig â Chymru, y Môr-filwyr Brenhinol a hanes morwriaeth.”
Mae tocynnau ar gyfer Tattoo Cymru 2026 ar gael nawr ar wefan Neuadd William Aston.
Manylion y Digwyddiad
Dyddiad: Dydd Sadwrn, 5 Medi 2026
Amser: Drysau’n agor am 7.00PM – Perfformiad yn dechrau 7.30PM
Lleoliad: Neuadd William Aston, Wrecsam


