Mae ystafell seremonïau Neuadd y Dref wedi cael ei hailwampio’n ddiweddar yn unol â’r safonau uchel mae ein tîm Cofrestru yn eu cynnal ar gyfer cyplau ar eu diwrnod arbennig.
Mae ein cofrestryddion ymroddedig yn edrych ymlaen at groesawu cyplau i’r gofod ar ei newydd wedd.
Os ydych chi’n chwilio am leoliad delfrydol i wneud eich addunedau, mae’r ystafell seremonïau yn berffaith fel man cychwyn pennod nesaf eich bywyd.
I weld sut i archebu’r ystafell ar gyfer eich diwrnod arbennig, ewch i’r dudalen priodasau a phartneriaethau sifil ar ein gwefan.
Dyma olwg dros yr ystafell seremonïau ar ei newydd wedd…















