Erthygl Gwadd – FAW Cymru
Mae Rhiannon Roberts wedi agor cae 3G Ysgol Bryn Alyn yn swyddogol mewn partneriaeth â Sefydliad Pêl-droed Cymru.
Mae Ysgol Bryn Alyn bellach yn gartref i gae 3G newydd o’r radd flaenaf o ganlyniad i fuddsoddiad gan Sefydliad Pêl-droed Cymru, Cyngor Wrecsam a Chwaraeon Cymru.
Mae’r buddsoddiad saith ffigur wedi arwain at adeiladu cae artiffisial newydd sbon, maint llawn yn yr ysgol uwchradd yng nghanol Wrecsam.
Bydd y cyfleuster newydd yn darparu man diogel, croesawgar i chwaraewyr ac yn cynnig cyfleusterau hyfforddi a chwarae mawr eu hangen i glybiau ar lawr gwlad lleol hefyd.

Mae’r agoriad yn dilyn rownd derfynol UEFA Euro Dan 19 i lawr y ffordd yn Y Cae Ras – cartref Clwb Pêl-droed Wrecsam – gan dynnu sylw at yr etifeddiaeth y gall twrnameintiau lefel elitaidd ei chael ar gymunedau lleol a’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr.
Trwy gwblhau’r prosiect yn yr ysgol uwchradd, mae’r cyfanswm sydd wedi i fuddsoddi yn Wrecsam gan Sefydliad Pêl-droed Cymru yn codi dros £1 miliwn – gyda phrosiectau wedi eu cefnogi yn Ysgol y Grango ac Ysgol Rhosnesni yn ystod y blynyddoedd diwethaf hefyd.
Y tu hwnt i’r gwelliannau strwythurol, mae gan y cyfleuster newydd arwyddocâd diwylliannol dwfn hefyd – murlun sy’n anrhydeddu’r cyn-ddisgybl a chwaraewr rhyngwladol Cymru Robbie Savage ochr yn ochr â Rhiannon Roberts Rhif 5 presennol Cymru – sydd â chysylltiadau teuluol cryf â’r ardal leol.
Mae’r gwaith celf yn deyrnged i’w cyfraniad amhrisiadwy i bêl-droed Cymru ac yn ysbrydoliaeth i chwaraewyr ifanc sy’n defnyddio’r cyfleuster newydd, gan dynnu sylw at yr uchelgeisiau i ddatblygu chwaraewyr rhyngwladol y dyfodol a chydnabod treftadaeth leol falch.
Dywedodd Aled Lewis, Cyfarwyddwr Sefydliad Pêl-droed Cymru, “Gyda Phencampwriaethau UEFA EURO dan 19 yng Ngogledd Cymru dros yr haf, mae hwn yn ein hatgoffa’n amserol am yr etifeddiaeth gadarnhaol sylweddol y gall twrnameintiau ei gadael i’n cymunedau.
Rydyn ni’n falch iawn bod y cyfleuster hwn ar agor bellach ac yn gobeithio y bydd yr Ewros dan 19 yn ysbrydoli chwaraewyr lleol – ein gwaith ni yw sicrhau bod ganddyn nhw’r lleoedd diogel, ysbrydoledig hynny i chwarae.
Diolch yn fawr iawn i Lywodraeth y DU, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a’r Uwch Gynghrair am eu cymorth parhaus – gyda’n gilydd rydyn ni’n gweithio i wella pêl-droed Cymru ar y cae ac oddi arno.”
Dywedodd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam, “Mae’r cyfleuster newydd gwych hwn yn Ysgol Bryn Alyn yn enghraifft arall o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd partneriaid yn gweithio gyda’i gilydd gyda gweledigaeth ar y cyd i wella cyfleoedd i’n cymunedau.
Trwy ein Strategaeth Cyfleusterau Pêl-droed, mae Cyngor Wrecsam wedi gweithio’n agos gyda Sefydliad Pêl-droed Cymru, ysgolion lleol, clybiau a phartneriaid allweddol eraill dros y blynyddoedd diwethaf i fuddsoddi mewn cyfleusterau pêl-droed a’u gwella ledled y fwrdeistref sirol.
Yn bwysig, dyma’r chweched cae i’w gyflwyno drwy’r dull partneriaeth llwyddiannus hwn, gan dynnu sylw at y cynnydd sylweddol sy’n cael ei wneud o ran gwella mynediad at gyfleusterau pêl-droed o safon ledled Wrecsam.
Bydd y cae 3G newydd yn darparu amgylchedd o’r radd flaenaf ar gyfer pêl-droed ar lawr gwlad, gan helpu i gynyddu cyfranogiad, cefnogi datblygiad chwaraewyr a sicrhau bod mwy o bobl yn gallu mwynhau’r manteision corfforol, cymdeithasol a lles y mae chwaraeon yn eu cynnig. Rydym yn falch o weld y buddsoddiad diweddaraf hwn yn cael ei gyflawni er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.”
Mae buddsoddiad Sefydliad Pêl-droed Cymru yn bosibl drwy Lywodraeth y DU. Mae rhaglen cyfleusterau ar lawr gwlad aml-chwaraeon yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi ymrwymo £5.6 miliwn i gefnogi’r gwaith o ddatblygu cyfleusterau ar lawr gwlad ledled Cymru yn 2026/27.
Dywedodd Stephanie Peacock AS, Gweinidog Chwaraeon Llywodraeth y DU, “Fel Llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod pobl ledled y DU yn gallu mwynhau manteision corfforol, meddyliol a chymdeithasol chwaraeon ac ymarfer corff. Dyna pam rydyn ni’n buddsoddi mwy na £400 miliwn i adeiladu ac uwchraddio cyfleusterau ar lawr gwlad mewn ardaloedd ledled y DU sydd eu hangen fwyaf.
Bydd y buddsoddiad hwn yn Ysgol Bryn Alyn yn helpu i ysbrydoli’r disgyblion a gwasanaethu’r ardal leol fel bod gan bobl leol le o safon uchel i chwarae a bod yn actif yng nghanol eu cymuned.”

Ers 2022, mae Sefydliad Pêl-droed Cymru wedi buddsoddi dros £25 miliwn mewn cyfleusterau pêl-droed o ansawdd uchel ledled y wlad.
Mae Sefydliad Pêl-droed Cymru yn cefnogi datblygiad pêl-droed drwy fuddsoddiad ac arweiniad wrth i ni gyflawni ymrwymiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ddatblygu cyfleusterau pêl-droed ysbrydoledig sy’n addas ar gyfer y dyfodol ledled y wlad.


